Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 9 Mai 2018.
A ydych yn deall nad yw'r darn hwn o ddeddfwriaeth wedi'i anelu go iawn at gael alcoholigion i roi'r gorau i yfed? Rydych yn llygad eich lle, bydd alcoholigion yn dod o hyd i alcohol mewn unrhyw ffordd y gallant wneud hynny. Rhaid i'r Llywodraeth wneud ymdrech—mwy o ymdrech—i helpu alcoholigion i roi'r gorau i alcohol, ond rydym yn sôn yma am rai sy'n yfed i raddau peryglus, pobl y gellir eu darbwyllo drwy gymhellion pris i ymddwyn mewn ffordd wahanol o bosibl.