Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 9 Mai 2018.
Rwy'n cefnogi polisi Llywodraeth Cymru o gyflwyno isafbris fesul uned am alcohol, a diolch byth, nid fi yw'r unig un sy'n meddwl hynny, gan fod cymaint o sefydliadau sydd ag arbenigedd yn y maes o ran sut y mae lleihau niwed alcohol hefyd yn cefnogi'r polisi hwn. Mae llawer o sefydliadau iechyd, am resymau gweddol amlwg, rwy'n tybio—amlwg i'r rhan fwyaf ohonom, beth bynnag—hefyd yn cefnogi'r polisi hwn, ac yn wir dangosai'r ymgynghoriad ar y Bil drafft rai blynyddoedd yn ôl fod yna gefnogaeth gref iawn ymhlith y cyhoedd yn ogystal. Felly, credaf ein bod yn dechrau o sylfaen eithaf diogel o ran dealltwriaeth o'r angen am y polisi hwn fel rhan o strategaeth gyffredinol a phecyn o fesurau i leihau niwed yn sgil camddefnyddio alcohol yma yng Nghymru. Wrth gwrs, dyna'n union ydyw—un rhan o bolisi a strategaeth gyffredinol, ac rwy'n credu y byddai'n chwarae rhan sylweddol o fewn y gyfres gyffredinol honno o fesurau.
Rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn gyfarwydd â'r niwed y mae alcohol yn ei achosi, neu'r niwed y mae camddefnyddio alcohol yn ei achosi. Mae'n glir iawn o ran ei effaith ar ffurf afiechyd, effaith hynny ar yr economi mewn dyddiau a gollwyd o'r gwaith, y problemau mewn perthynas â throseddau a throseddu treisgar, a pheth o hwnnw'n codi o oryfed mewn pyliau, sy'n bla ynghanol llawer o'n trefi a'n dinasoedd, a hefyd, wrth gwrs, y niwed i deuluoedd a chwalu priodasau. Felly, mae'r niwed yn sylweddol iawn yn wir, ac mae angen inni gyflwyno ystod eang o fesurau i fynd i'r afael â'r niwed hwnnw ac fel y dywedais, credaf fod isafbris uned am alcohol yn rhan bwysig o'r pecyn cyffredinol hwnnw.
Mae Ymchwil Canser y DU, Lywydd, yn un o'r sefydliadau sy'n cefnogi'r polisi arfaethedig hwn, ac maent yn glir mai alcohol yw'r ffactor risg ataliadwy mwyaf ond dau mewn perthynas â nifer yr achosion o ganser, ac y byddai'r polisi penodol hwn yn offeryn effeithiol iawn i leihau'r afiechyd a'r niwed yng nghyd-destun canser. Mae gennym yr ymchwil gan Brifysgol Sheffield a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru y cyfeiriodd eraill ato. Yn bersonol, credaf fod y gwaith ymchwil hwnnw'n gryf ac yn argyhoeddiadol. Mae'n sôn am bolisi o osod 50c fel isafbris gan arwain at dderbyn 1,300 yn llai o bobl i ysbytai yng Nghymru a dros 65 yn llai o farwolaethau bob blwyddyn. Yn bwysicach na hynny, rwy'n credu, o ran peth o'r feirniadaeth a anelwyd at y polisi, byddai'r fantais fwyaf i bobl sy'n byw mewn tlodi. Gwyddom fod 37 y cant o'r alcohol a werthir yng Nghymru yn cael ei werthu am lai na'r pris hwnnw o 50c yr uned, a bod yfwyr trymach yn fwy tebygol o dalu llai na 50c. Pan edrychwch ar y mathau hynny o ffactorau mae'n awgrymu, yn gyntaf oll, y bydd yn cael effaith sylweddol, ac yn ail, y bydd, o ran cyfran, o fwy o fudd i iechyd pobl yn y cymunedau tlotaf—