1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Mai 2018.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i borthladd Caergybi? OAQ52207
Rydym ni’n parhau i weithio gyda Stenaline a’i helpu i wneud y mwyaf o botensial Caergybi i gynyddu twf economaidd a dod â mwy o swyddi i’r rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys trafod cynlluniau am angorfa aml-ddefnydd newydd, ac rydym ni wedi rhoi £0.5 miliwn drwy'r gronfa datblygu porthladdoedd tuag at y gwaith o gynnal astudiaeth o ymarferoldeb.
Diolch yn fawr iawn. Ddydd Gwener yma, mae grŵp yn cael ei ailgynnull a fydd yn dod â gwahanol ddefnyddwyr y porthladd at ei gilydd, yn cael ei gyd-gadeirio gen i fel yr Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Ynys Môn, ac rwy'n ddiolchgar am y cadarnhad yn y tri chwarter awr diwethaf y bydd Llywodraeth Cymru yn gyrru swyddog i'r cyfarfod hwnnw. Ond ar drothwy y cyfarfod, mi hoffwn i apelio am ffocws clir iawn, iawn gan Lywodraeth Cymru ar gefnogi a buddsoddi ym mhorthladd Caergybi a'r isadeiledd trafnidiaeth, ac ati, sy'n gwasanaethu'r porthladd hwnnw, yn enwedig yn sgîl her Brexit, yr her o gystadleuaeth gan borthladdoedd eraill fel Lerpwl, a'r her o groesiadau uniongyrchol sy'n datblygu fwy a mwy o Iwerddon i Ffrainc. Mae'n rhaid sicrhau bod porthladd rhagorol Caergybi yn parhau i fod yn gystadleuol er mwyn y swyddi yn uniongyrchol yno ac, wrth gwrs, economi ehangach Ynys Môn ac nid yn unig gogledd Cymru, ond Cymru hefyd.
Mae Brexit yn her, wrth gwrs, i Gaergybi a'r porthladdoedd eraill fel Doc Penfro ac Abergwaun. Rwy'n cofio'r amser lle roedd yna dollau yng Nghaergybi. Nid oedd pawb yn cael eu tsiecio, ond ta beth, pe byddech chi'n cael eich dal yna, roedd yna broblem ynglŷn â'r ffaith eich bod chi'n gorfod aros ac wedyn symud ymlaen.
I fi, mae yna ddau beth. Yn gyntaf, nid ydym yn gwybod beth yn gwmws fydd yn digwydd rhwng Caergybi a'r Iwerddon. Rydym ni wedi dweud na ddylai dim byd fynd yna, wrth ddweud y dylai'r Deyrnas Unedig sefyll yn yr undeb tollau; mae hynny'n hollbwysig. Pan siaradais i ag Irish Ferries, un o'r pethau a oedd yn fy nharo i oedd eu bod nhw'n dweud wrthyf i fod yna botensial i fynd â'r llongau o Iwerddon i Ffrainc, ond nid yw'r capasiti yna yn yr un ffordd. Mae'n amhosibl i gael yr un capasiti a mynd rhwng, er enghraifft, Dulyn a Chaergybi. Y broblem iddyn nhw oedd sefyllfa lle bydden nhw'n mynd â rhywbeth fel pysgod, ffeindio yng Nghaergybi eu bod nhw'n ffaelu mynd mas o'r porthladd yn ddigon cyflym, wedyn colli'r fferi yn Dover, ac wedyn, wrth gwrs, colli'r cargo yn hollol. Roedd hynny yn rhywbeth roedden nhw'n ei weld yn hollbwysig i'w ddatrys.
Ar hyn o bryd, nid wyf yn gweld unrhyw fath o fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y rhwydwaith yng Nghaergybi, ond beth na fyddwn i'n moyn ei weld fyddai tollau nac, yn waeth byth, unrhyw fath o reolaeth ynglŷn â phasbortau yng Nghaergybi. Dyna i gyd y byddai hynny yn ei wneud yw ei gwneud yn fwy anodd i ddefnyddio'r porthladd a rhoi mantais ynglŷn â chystadleuaeth i borthladdoedd fel Cairnryan a Lerpwl.