Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 15 Mai 2018.
Diolch am y datganiad ac am nodi’r diwrnod pwysig yma. Yn wir, mae cael y datganiad yn ffordd o godi ymwybyddiaeth am y gwahaniaethau erchyll sydd yn dal i ddigwydd a’r trais ofnadwy sy’n wynebu pobl o’r gymuned lesbiaid, hoywon, deurywiol a thrawsrywiol ar draws y byd, ac yng Nghymru hefyd yn anffodus. Mae yna lawer iawn o le i fynd, fel mae’r ystadegau yn eich datganiad chi yn nodi.
Hoffwn i hoelio sylw ar dri maes—ac rydym ni wedi cyffwrdd un ohonyn nhw rŵan—y gwasanaethau hunaniaeth rhywedd, gwasanaethau iechyd meddwl penodol ar gyfer y gymuned yma, a sut mae ysgolion yn delio efo materion LGBT.
Yn gyntaf, y gwasanaethau hunaniaeth rhywedd. Mae’r oedi parhaus yma cyn eu cyflwyno nhw yn peri pryder mawr. Mae’n oedi hollol annerbyniol, yn enwedig o gofio’r sbloets a wnaed gan y Llywodraeth hon pan gyhoeddwyd sefydlu’r gwasanaeth yma y llynedd. Mae dau o bob pump o bobl trawsrywiol, 41 y cant, yn dweud nad oes gan y mwyafrif o staff gofal iechyd ddealltwriaeth lawn o anghenion iechyd pobl traws. Mae’r ffigur yma’n cynyddu i hanner pobl trawsrywiol Cymru, sef 51 y cant. Mae 7 y cant o bobl traws yn dweud eu bod nhw wedi cael eu neulltio o wasanaethau gofal iechyd cyffredinol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Nid yw sefyllfa fel yna yn dderbyniol ac mae’n hen bryd gweld cynnydd efo sefydlu’r gwasanaeth yma. A fedrwch chi egluro, yn fwy nag ydych chi wedi gwneud cyn belled, beth yn union ydy’r rheswm am yr oedi? Beth ydy’r amserlen? A faint o flaenoriaeth mewn difrif ydy hyn i chi? Rydw i’n meddwl bod y gymuned draws, yn enwedig, yn haeddu atebion ar hyn.
I droi at wasanaethau iechyd meddwl, unwaith eto, mae’r ystadegau yn frawychus. Mae dau o bob pump person traws wedi ceisio hunanladdiad ar ryw adeg. Dau o bob pump. Mae 77 y cant o bobl ifanc traws wedi hunan niweidio ar ryw bwynt yn eu bywydau. Yn amlwg, mae angen gwasanaethau iechyd meddwl pwrpasol a phriodol ar gyfer pobl ifanc a phobl ifanc traws, yn benodol, efallai. Felly, buaswn i'n licio cael mwy o wybodaeth am eich cynlluniau chi yn y maes yma.
Yn hollol amlwg, mae'r ffordd mae ysgolion yn delio efo bwlian ymhlith y gymuned LGBT yn haeddu sylw, ac felly hefyd rôl y gyfundrefn addysg yn dileu rhagfarnau. Er enghraifft, dim ond 6 y cant o ddisgyblion LGBT Cymru sy'n gwybod lle i fynd am help a chyngor ynglŷn â bod yn drawsrywiol. Pryd rydym ni'n mynd i weld hynny'n newid?
Felly, tra'n diolch i chi am eich datganiad ac am godi ymwybyddiaeth am y diwrnod rhyngwladol, nid ydw i'n gweld llawer o sylwedd i'r geiriau sydd yn y datganiad, nac arwydd o sut bydd y Llywodraeth yma yn cynyddu'r ffordd mae'n cyfrannu tuag at ddileu trais a rhagfarn yn erbyn y gymuned arbennig hon.