Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 15 Mai 2018.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae yna ymadrodd, ymadrodd penodol yr rydym ni'n ei ddefnyddio yma heddiw, sef 'creu lleoedd'. Mae'n ymadrodd hardd, ond mae'n rhaid inni wneud yn siŵr ei fod mewn gwirionedd yn golygu rhywbeth. Soniodd prif gynllunydd Llywodraeth Cymru fod angen i gynllunio ddefnyddio dull cyfannol er mwyn i gynllunwyr allu llunio lleoedd sy'n ddeniadol ac yn gymdeithasol. Oes, mae angen dull cyfannol arnom ni—mae hynny y tu hwnt i amheuaeth—ond yn aml mae'n ymddangos, ar hyn o bryd, nad oes dull cyfannol o gynllunio, mewn gwirionedd.
Roedd Mike Hedges yn gwneud rhai pwyntiau dilys iawn yn y fan yna. Roedd yn sôn am ardal benodol yn Abertawe, Bro Abertawe, rwy'n credu. Mae gennym ni broblemau tebyg yng Nghaerdydd sef llawer o ystadau preswyl newydd yn cael eu hadeiladu sydd ymhell i ffwrdd o gyfleoedd cyflogaeth a hefyd mae yna ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus mewn llawer o achosion. Felly, mae angen inni fod yn adeiladu ardaloedd preswyl â mynediad at swyddi.
Mae angen inni hefyd fod yn meddwl am lle caiff y swyddi eu creu mewn gwirionedd. Yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, mae digonedd o leoedd lle mae swyddi wedi'u creu yn y 30 mlynedd diwethaf, ond nid ydynt yn arbennig o hygyrch. Mae yna unedau ffatri mewn ardal a elwir yn Gwynllwg, ac yn anffurfiol fel 'y Lambies'. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, roeddwn i'n edrych ar swyddi gwag i lawr yno, ond roedd fwy neu lai yn amhosibl gan nad wyf yn gyrru ac nid oedd unrhyw fysiau yn mynd draw yno. Rwyf newydd gael golwg ar fap llwybr Bws Caerdydd heddiw, ac mae mwy o ddatblygu i lawr yno nawr o ran cyflogaeth—mae gennym ni erbyn hyn, er enghraifft, stiwdio ffilm o bwys i lawr yno—ond nid oes unrhyw fysiau yn mynd i lawr yno o hyd; mae'n dwll du yn gyfan gwbl cyn belled ag y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn y cwestiwn. Felly, mae gennym ni'r problemau hyn o hyd.
Mae parciau busnes yn broblem benodol oherwydd eu bod yn aml yn cael eu hadeiladu yn bell i ffwrdd o ardaloedd preswyl, felly rwy'n credu y byddai'n syniad da meddwl, mewn gwirionedd, am fabwysiadu'r syniad hwn o'r math o ddatblygiad ym Mro Abertawe, lle bydd gennych chi gyfleoedd cyflogaeth yn agos at ardaloedd preswyl newydd.
Mae yna bethau eraill a allai helpu mewn mannau trefol. Er enghraifft, yng Nghaerdydd, does dim llawer o wasanaethau bws cylchol gennym ni. Mae'n ymddangos bod yn rhaid i bopeth fynd i mewn ac allan o ganol y ddinas. Felly, os oes gennych chi barc busnes ar un ymyl i'r ddinas ac mae gennych chi ystad newydd o dai ar ymyl arall, mae'n rhaid ichi gael bws i mewn, gadewch inni ddweud o Bontprennau—40 munud i mewn i'r dref—ac wedyn bws allan i barc busnes Llaneirwg, sy'n 40 munud arall, er eu bod nhw ddim ond tair milltir o'i gilydd. Mae gan Lundain ddigon o wasanaethau bws cylchol, ond yng Nghaerdydd does gennym ni ddim mewn gwirionedd. Rydym ni'n cael y ddadl gyfan hon yng Nghaerdydd am y cynllun datblygu lleol, a fydd yn gweld llawer o ddatblygiadau tai newydd yng ngorllewin y ddinas, heb y seilwaith trafnidiaeth yn gefn iddo. Felly, mae'n rhaid inni aros am fetro de Cymru i gyrraedd ar ryw adeg yn y dyfodol. Yn y cyfamser, hyd nes y bydd hwnnw'n cyrraedd, byddwn ni'n wynebu tagfeydd traffig yng ngorllewin y ddinas.
Rydym wedi bod yn siarad llawer am gynllunio strategol yn ddiweddar, ac eto heddiw, ac nid yw'n ymddangos bod unrhyw feddylfryd strategol gwirioneddol yn y fan honno. Nawr, mae'r system creu lleoedd, dywedir wrthym ni, yn cael ei hailwampio, i ystyried Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Ond mae'r nodau llesiant yn dod ar yr un pryd ag y mae'r llain las yn cael ei throi'n goncrit ar raddfa fawr. Mae'r orsaf bysiau yng Nghaerdydd wedi diflannu; bellach mae gennym ni gasgliad hyfryd o flociau swyddfeydd newydd sgleiniog yn y Sgwâr Canolog, sy'n golygu bod mwy o bobl yn dod i ganol y ddinas i weithio. Pam? Mae swyddi yn mynd o ymyl y ddinas, fel y swyddfa dreth yn Llanisien, fel y gall mwy o bobl weithio yng nghanol y ddinas. Unwaith eto, nid yw hyn yn ymddangos yn gynllunio gwych. Ac mae llawer o'r swyddi hyn yn swyddi yn y sector cyhoeddus, fel Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a BBC Cymru. Ymddengys nad oes gennym ni unrhyw reolaeth yn y lle hwn, nac efallai mewn unrhyw le arall, dros y penderfyniadau a wneir ar y materion hyn, hyd yn oed mewn sefydliadau sector cyhoeddus mawr.
Mae Mike Hedges yn gwneud llawer o bwyntiau ar y materion hyn. Nawr, mae wedi codi unwaith eto heddiw y cynlluniau sirol. Mae gennyf ddiddordeb mawr pan mae e'n eu codi, oherwydd, yn y bôn, mae'n ymddangos, pan wnaeth y Swyddfa Gymreig ddiddymu'r cynghorau sir, yng nghanol y 1990au, fel bod gennym ni awdurdodau unedol, yn ôl pob golwg, ni feddyliodd neb y dylid sefydlu rhywbeth i gymryd lle swyddogaethau cynllunio strategol y cynghorau sir. Felly, mae'n dipyn o benbleth i mi pam na wnaeth neb feddwl am hyn, oherwydd wnaethon ni ddim cael Cynulliad Cymru—efallai y gall Hefin fy ngoleuo pan mae'n siarad mewn munud—tan ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Felly, yn sicr, nid y bwriad ar y pryd oedd y byddai'r dasg o gynllunio strategol yn cael ei symud i fyny un lefel i'r Cynulliad, oherwydd nid oedd y Cynulliad yn bodoli. Felly, rwy'n aros am oleuni, ac rwy'n siŵr y bydd yn ddiddorol iawn.
O edrych ar y cynnig, rydym ni yn UKIP yn cytuno'n fras â'r cynnig heddiw ynghylch creu lleoedd, ond rydym yn gobeithio y bydd y broses a fydd gennym yn y pen draw yn fwy na dim ond ystrydebau—rydym ni'n gobeithio y bydd yna newid ystyrlon. Wrth gwrs, rydym yn hoffi'r syniad o refferenda lleol pan fydd yna benderfyniadau cynllunio o bwys sy'n effeithio ar bobl yn eu cymdogaethau. Rydym yn cefnogi'n fras welliannau'r gwrthbleidiau. Mae yna faterion sy'n ymwneud â gwelliannau'r Ceidwadwyr. Nid ydym ni mewn gwirionedd eisiau—. Wrth gwrs, rydym ni eisiau tai, ond dydyn ni ddim eisiau gweld datblygiadau mawr nad yw'r trigolion sydd wedi sefydlu yno yn eu croesawu. Rydym yn rhannu amheuon ynghylch arolygiaeth cynllunio Cymru; gallem ni fod yn ailadrodd camgymeriadau a arweiniodd at greu Cyfoeth Naturiol Cymru, ac arbenigedd yn cael ei golli. Felly mae hynny'n sicr yn broblem. Rydym yn cytuno â byrdwn cyffredinol yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ddweud yn gyffredinol. Oes, mae rôl, yn ddamcaniaethol, yn sicr, ar gyfer—. Mae siaradwyr Cymraeg wedi cael anhawster yn y farchnad dai mewn rhannau o Gymru wledig, ond gwyddom fod yna safbwyntiau gwahanol, hyd yn oed o fewn Plaid Cymru, ynghylch faint y dylai ac y gallai penderfyniadau tai lleol a phenderfyniadau cynllunio gael eu dylanwadu gan ystyriaethau yr iaith Gymraeg. Ond wrth gwrs mae Siân yn iawn, mae'n ystyriaeth o bwys; mae'n rhaid inni feddwl am y pethau hyn.
Dydyn ni ddim mewn gwirionedd yn anghytuno ag unrhyw un heddiw, ond mae angen i ni fynd y tu hwnt i ystrydebau, a bod â system gynllunio sydd wirioneddol yn gweithio ar gyfer pobl leol. Diolch yn fawr iawn.