3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru ar 16 Mai 2018.
2. A wnaiff y Comisiynydd egluro pam mae nifer y digwyddiadau y gall Aelodau'r Cynulliad eu noddi wedi'i gyfyngu i 10 y flwyddyn? OAQ52193
Yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ystod yr adolygiad o ddigwyddiadau ar yr ystâd, awgrymodd rhai Aelodau Cynulliad y dylid pennu terfyn ar nifer y digwyddiadau. Byddai terfyn yn eu helpu i reoli eu hamser yn well, yn annog defnydd mwy amrywiol o'r ystâd, ac yn osgoi archebu a threfnu mewn ffordd ddiwahân. Yn ôl y ffordd y mae Aelodau wedi defnyddio'r ystâd yn y gorffennol, dim ond pedwar Aelod Cynulliad byddai terfyn o 10 digwyddiad yn effeithio arnyn nhw. Nid yw'n effeithio ar drefniadau a wnaed eisoes, ac nid yw, hefyd, yn effeithio ar grwpiau trawsbleidiol ychwaith.
Diolch i chi, Lywydd, rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad. Yn amlwg, rwy'n awyddus i wybod a allai hyn effeithio arnaf fi. Mae fy safle fel Aelod Cynulliad dros Ganol Caerdydd yn ei gwneud hi'n bosibl i mi gynnal digwyddiad, er enghraifft, ar ddydd Gwener, ac rwy'n sylweddoli na fyddai hynny'n bosibl i'r rhan fwyaf o Aelodau'r Cynulliad y mae eu hetholaethau'n rhy bell i ffwrdd i allu gwneud hynny. Cytunaf yn llwyr fod angen i ni gadw ystâd y Cynulliad ar gyfer materion sy'n gysylltiedig â pholisi—pethau y credwn eu bod yn bwysig i wella'r gwaith a wnawn ar ran pobl Cymru. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech egluro—. Nid wyf yn credu fy mod yn un o'r bobl sydd wedi cael mwy na 10 digwyddiad, ond yn amlwg, rwyf ychydig yn bryderus y bydd yn rhaid i mi ddweud 'na' wrth etholwyr, sydd—. Er enghraifft, rwyf wedi noddi'r arddangosfa Armenaidd sydd i fyny'r grisiau ar hyn o bryd, ac er nad yw'n uniongyrchol berthnasol, mae'n ffordd hyfryd o ddathlu'r ffaith ein bod yn croesawu Armeniaid alltud yng Nghymru. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pwy a gaiff ei effeithio gan hyn, ac ai ymgais yw hon go iawn i sicrhau nad yw'r ystâd yn cael ei defnyddio'n amhriodol gennym.
Mae'n ymgais go iawn i geisio sicrhau bod yr ystâd yn cael ei defnyddio yn unol â'n gwaith seneddol, yn ogystal â'n hangen i gynnal trafodaethau cyhoeddus a thrafodaethau polisi o fewn ein hystâd. Y fantais o gynnal mwy na 10 digwyddiad yw bod mwy yn digwydd ar ystâd y Cynulliad, sy'n beth da. Yn hanesyddol—fel y soniais yn fy ateb yn gynharach, ac fel rydych wedi awgrymu, mae rhai Aelodau eithaf lleol i Fae Caerdydd yn gwneud cais i gynnal llawer o ddigwyddiadau. Tra bo hynny'n beth da ynddo'i hun, mae hefyd yn gallu atal eraill, sy'n gwneud cais i gynnal digwyddiadau'n fwy achlysurol, rhag cael lle. Felly, mae sicrhau mynediad cyfartal i bob Aelod yn arbennig o bwysig.
Ond os oes yna effeithiau negyddol i'r polisi rydym yn ei roi ar waith, yna mae angen i ni edrych ar y rheini. Rydym eisoes yn rhoi adolygiad cynnar ar waith i weld a yw'r system newydd o wneud cais am le ar ystâd y Cynulliad wedi cael unrhyw effaith negyddol ar y gwaith y mae Aelodau'r Cynulliad yn ei wneud. Felly, byddem yn awyddus iawn i glywed gan Aelodau'r Cynulliad pa un a oes effaith negyddol wedi bod ar eu gwaith yn eu barn hwy, a sut y gallwn ddysgu o'r profiad ac unioni pethau os oes angen.
Wel, gwn yn bendant fy mod yn un o'r rheini sy'n gwneud cais am fwy na 10 digwyddiad y flwyddyn, ac yn sicr nid wyf eisiau atal unrhyw un arall rhag gallu gwneud cais am ddigwyddiad, ond yn sicr, ni fuaswn yn dymuno i'r lle beidio â chael ei ddefnyddio a'i adael yn wag. Oherwydd mai'r fan hon yw calon ein democratiaeth, rydym eisiau i bobl fod yma drwy'r amser, cymaint ag y gallwn. Ac rwy'n ofni y gallai'r polisi hwn fod yn rhy anhyblyg yn y pen draw. Nid wyf o reidrwydd yn sôn am nifer y digwyddiadau y gallwch eu cynnal, ond yn hytrach, am y math o ddigwyddiad sy'n briodol. A fyddai'r Llywydd yn gallu dweud pwy, mewn gwirionedd, sy'n penderfynu a yw digwyddiad yn briodol neu beidio? Ac oni fyddai'n well gadael i Aelodau'r Cynulliad benderfynu hynny?
Wel, os caf fi ddweud, i ailadrodd y pwynt a wneuthum eisoes, os yw Aelodau'r Cynulliad yn teimlo bod effaith negyddol wedi bod ar eu gwaith a'u blaenoriaethau o ganlyniad i newid y polisi ar gyfer gwneud cais am le ar yr ystâd, yna, wrth i ni gynnal yr adolygiad hwn, fe rown wybod i Aelodau'r Cynulliad am yr adolygiad hwnnw a byddem yn hoffi eich adborth yn ffurfiol iddo fel y gallwn ddysgu. Cafwyd ymgynghoriad gydag Aelodau'r Cynulliad wrth lunio'r polisi yn y lle cyntaf. Nid yw pawb yn ymgysylltu ar y pwynt hwnnw, wrth gwrs, oherwydd rydym—ac rwyf fi yr un mor euog ag unrhyw un arall o wneud hyn; rwy'n ymgysylltu pan fyddaf yn wynebu problem. Felly, gobeithio y bydd pobl yn ymgysylltu â'r adolygiad rydym yn ei roi ar waith.
O ganlyniad i'r adolygiad hwnnw, bydd y Comisiynwyr yn trafod gyda'u pleidiau gwleidyddol ynglŷn â beth yw blaenoriaethau'r pleidiau gwleidyddol a'r Aelodau Cynulliad cyn i ni lunio barn derfynol ar ateb hirdymor i hyn. Mae'r pwynt rydych yn ei wneud ynglŷn ag ai AC unigol sy'n penderfynu beth yw'r blaenoriaethau a phwy sy'n cael penderfynu yn un pwysig. Rydym wedi ceisio rhoi rhai blaenoriaethau ar waith. Maent yn ymwneud â gweithgarwch sy'n canolbwyntio ar bolisi, maent yn berthnasol i waith sy'n gysylltiedig â gwaith democrataidd y Senedd, ac mae rôl y grwpiau trawsbleidiol yn arbennig yn bwysig yn hynny o beth, a hefyd i leihau problem sydd wedi cael ei chrybwyll yn weddol aml gan Aelodau yn y lle hwn: lleihau'r tebygolrwydd y bydd digwyddiadau tebyg yn cael eu trefnu ar yr un pryd, pan fydd gofyn i'r un AC fod yn bresennol mewn un neu ddau neu dri digwyddiad, a bod trefnwyr y digwyddiadau hynny'n siomedig nad oes digon o Aelodau'n aros yn eu digwyddiadau'n ddigon hir. Felly, mae'n broblem gymhleth i'w chael yn iawn ar ystâd gyfyngedig. Efallai nad yw'r ateb gennym ar hyn o bryd, ond rydym yn awyddus i adolygu hynny gydag ymgysylltiad Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol.
Diolch, Lywydd.