1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Mai 2018.
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd yn ddiweddar i helpu i fynd i'r afael â thlodi mewn cymunedau yn y cymoedd? OAQ52232
Os edrychwn ni ar 'Ffyniant i Bawb' a thasglu'r Cymoedd, er enghraifft, eu diben nhw yw gwella bywydau pobl trwy ddarparu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w gwneud, ac, wrth gwrs, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus gwell a chryfhau cymunedau'r Cymoedd.
Diolch am hynna, Prif Weinidog. Mae sicrhau llesiant a ffyniant ein trefi a'n cymunedau yn y Cymoedd yn parhau i fod yn her sylweddol, fel y dangosir gan nifer o ddangosyddion lles iechyd, cymdeithasol ac ehangach, ac roedd yr adroddiad diweddar gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a oedd yn awgrymu y byddai mwy o bobl yn cael eu gyrru i dlodi gan ddiwygiadau lles y DU yn peri pryder mawr i mi. Mae hynny'n dilyn yn agos ar sodlau adroddiadau gan Sefydliad Joseph Rowntree a Sefydliad Bevan, sy'n datgan y bydd y don nesaf o ddiwygiadau lles yn gwthio hyd yn oed mwy o bobl yn ein cymunedau yn y Cymoedd i dlodi. Nawr, wrth i'm hetholaeth i, Merthyr Tudful a Rhymni, baratoi ar gyfer cyflwyno credyd cynhwysol y mis nesaf, a wnewch chi ymuno â mi unwaith eto i annog y meinciau gyferbyn i godi eu lleisiau ochr yn ochr â'n rhai ninnau i berswadio eu Llywodraeth yn San Steffan i roi terfyn ar y polisi di-hid hwn o gyni nawr, cyn i fwy o niwed gael ei achosi i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?
Byddan nhw wedi clywed yr alwad honno. Rydym ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU yn gofyn iddyn nhw ailystyried y newidiadau niweidiol y mae eu polisïau diwygio treth a lles yn eu hachosi i aelwydydd yng Nghymru. Y cyfan yr wyf i'n pryderu yn ei gylch, os edrychwn ni ar adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, bod hwnnw'n awgrymu y byddwn ni'n gweld y diwygiadau y maen nhw'n eu cynnig yn Whitehall yn gwthio 50,000 o blant eraill i dlodi erbyn 2021-22. Nawr, holl bwynt Llywodraeth, does bosib, yw ceisio dod o hyd i ffyrdd o leddfu anghydraddoldeb a cheisio ei leihau cymaint â phosibl, nid ei gynyddu, ond dyna'r sefyllfa y mae Llywodraeth y DU ynddi. Ac rwy'n bryderus iawn am ddiffygion sylfaenol credyd cynhwysol—maen nhw wedi cael eu trafod droeon yn y Siambr hon—ond er gwaethaf y diffygion hynny, mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r rhaglen. Mae angen i ni gael system fudd-daliadau yn y wlad hon sy'n helpu pobl yn hytrach na'u cosbi, sef yr hyn y mae'n ymddangos bod Llywodraeth bresennol y DU eisiau ei wneud.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai gwaith yw un o'r ffyrdd gorau allan o dlodi? A wnaiff ef ymuno â mi i groesawu'r ffaith bod diweithdra ym Merthyr Tudful a Rhymni wedi gostwng gan 52 y cant ers 2010?
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod bod gwaith yn bwysig, ond mae gwaith sy'n talu'n dda yn hanfodol. Rydym ni wedi dweud erioed—. Roeddem ni'n arfer dweud wrth bobl, 'Os byddwch chi'n cael swydd, byddwch chi'n well eich byd', ac eto pam mae pobl mewn gwaith yn defnyddio banciau bwyd? Pam mae hanesion am bobl sydd mewn gwaith ond eto'n methu â fforddio hanfodion sylfaenol bywyd? Pam? Oherwydd y toriadau i fudd-daliadau, yn enwedig toriadau i fudd-daliadau mewn gwaith, yr ydym ni wedi eu gweld gan y Llywodraeth Geidwadol, oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Geidwadol nad yw'n gwerthfawrogi gwaith, oherwydd bod gennym ni Lywodraeth Geidwadol nad yw'n credu mewn gwaith teg. Rydym ni'n credu yn yr holl bethau hynny. Rydym ni eisiau gweld gwaith teg i'n pobl ym mhob rhan o Gymru yn y dyfodol.