– Senedd Cymru am 3:32 pm ar 22 Mai 2018.
Yr eitem nesaf yw datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwyf i o'r farn mai'r hyn sy'n allweddol wrth ennyn llwyddiant mewn unrhyw sefydliad yw arweinyddiaeth dda, ac nid yw hynny'n fwy gwir yn unman nag yn y system addysg. Dro ar ôl tro, dengys tystiolaeth fod arweinydd da mewn ysgol yn hanfodol i drawsnewid amgylchedd yr ysgol fel y gall ei disgyblion a'i hathrawon ffynnu. Nodwedd gyffredin ymysg yr arweinwyr gorau yw eu bod yn cyfathrebu gweledigaeth glir—gweledigaeth sy'n creu syniad clir o gyfeiriad a chyrchfan. Yng Nghymru, mae ein cenhadaeth genedlaethol yn ddiamwys: rydym yn gweithio gyda'n gilydd i godi safonau, i gau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd. I gyflawni'r genhadaeth hon, bydd raid i Gymru feithrin ein harweinwyr. Felly, yr wythnos diwethaf, roeddwn yn falch iawn o lansio'r Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol, elfen hollbwysig ar gyfer cefnogi a diwygio'r ffordd yr ydym yn cefnogi ein harweinwyr.
Dirprwy Lywydd, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mor galed i sefydlu'r academi. Yn benodol, mae'r grŵp gorchwyl a gorffen, dan arweiniad medrus iawn Ann Keane, wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy. Maen nhw wedi nodi gweledigaeth ac egwyddorion yr academi ac wedi ymgysylltu gyda'r proffesiwn ar gyfer nodi'r hyn sydd ei angen a pham mae angen hynny. Maen nhw wedi gosod sylfeini cadarn i'r academi ar gyfer y dyfodol. Ond rwy'n awyddus fod pawb sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru yn gweld yr academi, y bydd ei phencadlys yn Abertawe, yn rhan sylfaenol o dirwedd addysg. Bydd hi yno i gefnogi'r holl arweinwyr ar ba gyfnod bynnag yn eu gyrfa—os ydynt yn ystyried cymryd y camau nesaf at arweinyddiaeth ffurfiol neu os ydynt yn arweinwyr profiadol. Bydd yn rhoi hyder iddyn nhw, a chefnogaeth a datblygiad fel eu bod yn gallu cyflawni a gwneud eu gorau glas. Bydd yn cefnogi'r holl arweinwyr ledled Cymru, p'un a ydynt yn gweithio mewn awdurdodau lleol, ysgolion, colegau, o fewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg neu Saesneg, neu, yn wir, mewn sefydliadau addysgol eraill, gan wneud yr arweinyddiaeth yng Nghymru yn flaenllaw yn fyd-eang.
Un ffordd o wneud hyn yw drwy swyddogaeth gymeradwyo. Roedd lansiad yr wythnos diwethaf yn cynnwys galwad ar ddarparwyr i gyflwyno eu darpariaeth, yn y lle cyntaf ar gyfer penaethiaid newydd eu penodi a thros dro, a disgwyliaf y bydd hyd at 300 o unigolion yn y grŵp cyntaf i gael ei dargedu. Bydd y broses gymeradwyo yn un o swyddogaethau allweddol yr academi, gan sicrhau bod y ddarpariaeth sydd ar gael i'n gweithwyr proffesiynol addysg yn hygyrch, o ansawdd uchel ac yn bodloni uchelgeisiau ein cynllun gweithredu cenhadaeth genedlaethol. Yn anad dim, bwriad yr academi fydd sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei hategu gan dystiolaeth ryngwladol o'r hyn yw ystyr arweinyddiaeth effeithiol. Ac o ganlyniad, gall pob arweinydd fod yn hyderus y bydd y datblygiad arweinyddiaeth y byddant yn buddsoddi eu hamser ynddi yn cael effaith gadarnhaol ar y canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Efallai mai sefydliad bychan yw'r academi, ond bydd raid i'w dylanwad a'i heffaith fod—ac, yn fy marn i, felly y bydd—ar raddfa fawr. Mae'r academi eisoes yn ymgorffori ein dull gweithredu cydlynol a chydweithredol o ddatblygu arweinyddiaeth—mae hyd yn oed y ffordd y crëwyd y sefydliad ynddi wedi bod yn gydweithredol. Bydd meini prawf ansawdd yr academi yn cynnwys amod hefyd i gynnwys arweinwyr yn y gwaith o ddylunio, datblygu a hwyluso'r ddarpariaeth. Er bod cydweithrediad yn nodwedd fawr o'r ddarpariaeth sydd i'w chael ar hyn o bryd yng Nghymru, bydd yn darparu cyfleoedd mwy cyson hefyd ar gyfer arweinwyr i gymryd rhan ym mhob agwedd ar ddatblygu arweinyddiaeth.
Bydd yr academi yn defnyddio ac yn adlewyrchu arferion yr arweinwyr ysbrydoledig, profiadol ac effeithiol sy'n gweithio eisoes yn y system yng Nghymru, yn ogystal ag yn rhyngwladol. A bydd rhaglen swyddogion cyswllt yr academi yn ymgorffori hyn. Mae'n rhaglen ddatblygu a gyd-ddatblygir gan y garfan gyntaf o arweinwyr ysbrydoledig, ac mae'n gyfle gwirioneddol i sicrhau bod y rhaglen yn ymestyn ac yn herio rhai o'n gweithwyr addysgol sy'n perfformio orau. Fe wnes i gyfarfod â'r garfan gyntaf o gymdeithion yn ddiweddar, ac roedd eu brwdfrydedd dros genhadaeth yr academi, a'u swyddogaethau ynddi, yn ysbrydoledig iawn.
Fel sy'n gweddu i sefydliad bychan, arloesol a hyblyg, bydd angen i'r academi fod â phresenoldeb mawr ar-lein. Bydd yn galluogi datblygiad rhith gymuned, yn ogystal â sicrhau bod ymchwil a thystiolaeth ryngwladol ar gael i bawb. A bydd hyn yn parhau i dyfu wrth i'r academi aeddfedu.
Rwyf wedi dweud cyn hyn bod y dystiolaeth yn eglur fod ansawdd y system addysgol yn dibynnu nid yn unig ar lefelau ei chyfalaf proffesiynol ond hefyd ar lefelau cyfalaf ei harweinyddiaeth. Ac rydym wedi gweithredu ar hyn, a thrwy gydol datblygiad yr academi, bu consensws gwirioneddol ar swyddogaeth hollbwysig arweinyddiaeth, a bu'n gyfle gwerthfawr i ail-ganolbwyntio ein sylw ar arweinyddiaeth yn gydweithredol.
Mae datblygiad yr academi yn gam hanfodol ymlaen, ochr yn ochr â'n safonau dysgu proffesiynol newydd, diwygiad addysg gychwynnol athrawon, a diwygiad y cwricwlwm, yn ein dull cydweithredol o ddatblygu arweinyddiaeth. Dirprwy Lywydd, rwy'n llawn cyffro am fod yr academi bellach ar waith, i gefnogi ein harweinwyr i wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru.
Diolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad, ac am y copi ohono o flaen llaw. Mae hyn i gyd yn ymwneud ag arweinyddiaeth, o ran gwneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael y cyfle gorau i ffynnu yn ystod ei amser yn yr ysgol a'r system addysg yma yng Nghymru. Rwy'n gwybod bod mynd i'r afael â hyn yn rhywbeth yr ydych yn teimlo'n angerddol yn ei gylch, o ran y diffygion sydd yn y system. A hoffwn innau ddiolch hefyd i Ann Keane yn ei swydd yng nghadair y grŵp gorchwyl a gorffen, yn wir ynghyd ag aelodau eraill yn y grŵp hwnnw, am ei gwaith.
Mae'n ddiddorol nodi y bydd yr academi newydd wedi'i lleoli yn Abertawe. Mae'n beth da nad yw'n mynd i fod wedi'i lleoli yn swigen Caerdydd, os hoffech chi, a'i bod mewn gwirionedd mewn rhan arall o'r wlad. Ond rwy'n holi pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw, ac a fu unrhyw gynigion o rannau eraill o Gymru i gael bod yn gartref i sefydliad o'r fath fri. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl eraill â diddordeb i wybod pam mai Abertawe oedd y cynigydd llwyddiannus.
Rwy'n cymryd yn awr fod yna gyllideb yn ei lle ar gyfer y sefydliad hwn; ni welais unrhyw fanylion o'r gyllideb honno. Nid wyf i'n gwybod faint o weithwyr—roeddech chi'n cyfeirio ato o hyd fel sefydliad cymharol fychan, roeddwn yn sylwi, yn eich datganiad. Ond byddai gennyf ddiddordeb i wybod pa fath o gyllideb fydd ar gael i'r sefydliad hwn, fel y gall yr adnoddau hynny gael eu gwario yn effeithiol ar y pethau yr ydym yn dymuno iddynt gael eu gwario arnynt, h.y. sicrhau bod datblygiad a chymorth proffesiynol digonol ar gyfer arweinwyr ysgol ac eraill yn y system addysg yma yng Nghymru.
Sylwais fod yna ganolbwyntio mawr iawn hefyd ar benaethiaid ac uwch aelodau staff yn ein hysgolion. Ond, wrth gwrs, mae'r arweinyddiaeth addysgol sydd gennym yn ein gwlad yn mynd ymhellach na phenaethiaid yn unig. Ceir llawer o sefydliadau, fel colegau addysg bellach ac ati, a allent elwa ac, yn wir, gallai fod cyfnewid cefnogaeth gan golegau addysg bellach a'r sector prifysgolion, a allai fod o fudd i'r sefydliad newydd hwn. Felly, tybed a allech ddweud wrthym sut yr ydych yn disgwyl iddynt allu ymgysylltu â'r academi genedlaethol newydd a pha fanteision y gallwch ddisgwyl eu gweld yn deillio o'u harbenigedd nhw. Un o nodweddion adroddiadau diweddar gan Estyn yw'r arweinyddiaeth dda yn ein sector addysg bellach yn arbennig, ac rwy'n daer o blaid gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw'r cyfle i gefnogi datblygiad arweinyddiaeth dda mewn rhannau eraill o'r system addysg hefyd.
Tybed hefyd—. Rwy'n sylwi bod pwyslais ar gyd-ddatblygu, mewn ffordd o siarad, a chydweithio gydag arweinwyr i ddatblygu swyddogaeth yr academi newydd. Ond tybed i ba raddau y bydd gan bobl ddigon o amser, mewn gwirionedd, i allu cael mewnbwn i ddatblygiad y sefydliad newydd hwn, o gofio y bydd gan y rhan fwyaf ohonynt eu swydd feunyddiol, ac maen nhw'n teimlo'n gyfyngedig iawn o ran eu hamser yn barod. Ymddengys mai ychydig iawn o amser sydd gan gan bob un o'r penaethiaid yr wyf i'n siarad â nhw, a dweud y gwir, i wneud dim ar wahân i ymlafnio yn eu hysgolion eu hunain ar hyn o bryd, oherwydd y pwysau gwaith sy'n bodoli. Felly, tybed a allech chi ddweud wrthym ni sut yr ydych chi am wneud yn siŵr bod y gallu ganddynt i ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon â'r academi newydd o ran datblygiad ei rhaglenni, oherwydd rwyf i o'r farn ei bod yn bwysig iawn eu bod yn cael rhywfaint o gyfle i allu gwneud hynny mewn ffordd ystyrlon.
Rwy'n falch o weld y bydd pwyslais ar gynllun achredu, mewn ffordd o siarad—cynllun marc ansawdd—ar gyfer peth o'r adnoddau sy'n bodoli eisoes, ac y byddant yn cael eu hasesu yn ôl sylfaen dystiolaeth i ddangos eu bod yn adnoddau effeithiol i arweinwyr allu eu defnyddio yn eu datblygiad proffesiynol. A wnewch chi roi sicrwydd inni, felly, y ceir gwared ar y pethau hynny nad ydynt yn cyrraedd y nod ac na fyddwn yn gweld arian trethdalwyr Cymru yn cael ei wastraffu ar rai pethau yr ydym wedi gwario arian arnyn nhw o'r blaen? Gwn fod llawer o bobl yn teimlo'n rhwystredig o bryd i'w gilydd am fod llawer o arian yn cael ei wario ar ddatblygiad proffesiynol, nad yw wedi gwireddu'r addewidion a nodwyd ar y dechrau.
A dim ond un cwestiwn terfynol: rwy'n gwybod mai sefydliad annibynnol yw hwn, ond mae'n amlwg ei bod yn bwysig iawn fod yna strwythur atebolrwydd ar waith yn y sefydliad, sy'n atebol yn y pen draw i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni beth fydd y trefniadau ar gyfer atebolrwydd yr academi newydd? A fydd yn destun arolwg gan Estyn? Sut ydych chi'n disgwyl i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn allu rhyngwynebu â'r sefydliad? Ac a ydych yn gweld swyddogaeth i awdurdodau addysg lleol a'r consortia rhanbarthol wneud hynny, neu a oes dulliau eraill y teimlwch y dylent fod ar gael i ni? Diolch ichi.
A gaf i ddiolch i Darren Millar am ei groeso cadarnhaol i ddatblygiad yr academi? Mae'n iawn i ddweud bod hyn wedi bod yn flaenoriaeth i mi ers i mi fod yn fy swydd. Os edrychwn yn ôl ar gyfres o ddiwygiadau addysgol yng Nghymru, bu bwlch enfawr, mi gredaf, yn y canolbwyntio ar gymorth i arweinwyr o fewn y system. Cafodd ei nodi mewn adroddiad yn 2014 gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a phan ddeuthum i'm swydd roeddwn yn benderfynol o wneud rhywbeth ynglŷn â hynny. Ac roeddwn yn falch iawn o weld, pan wahoddwyd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei ôl, ei fod yn ein hannog i fwrw ymlaen gyda'r gwaith o greu'r academi. Mae'n hollbwysig os ydym am drawsnewid addysg yng Nghymru ein bod yn canolbwyntio'n fwy ar ansawdd arweinyddiaeth. Felly, rwy'n ddiolchgar am ei groeso.
Fy nealltwriaeth i o'r penderfyniad i'w lleoli yn Abertawe oedd argymhelliad a roddwyd i mi gan y grŵp gorchwyl a gorffen. Rwyf wedi'i gwneud yn glir mai fy awydd i oedd y dylai'r sefydliad gael ei leoli y tu allan i'r swigen, fel petai, ac fe siaradodd y grŵp gorchwyl a gorffen â nifer o leoliadau, rwy'n deall, gan edrych am gartref o ansawdd da am bris rhesymol, a daeth yr argymhelliad yn ei ôl am swyddfa yn Abertawe. Rwy'n credu y byddan nhw'n llwyr weithredol yn y swyddfa honno gyda hyn.
Rydym yn disgwyl y bydd gan yr academi nifer fechan o staff o tua saith i wyth o unigolion. Felly, nid sefydliad pendrwm yw hwn. Eto, mae hynny ar sail y gwaith a wnaed gan y grŵp gorchwyl a gorffen i geisio llunio'r ffurf ar ôl penderfynu ar y swyddogaeth. Felly, mae'r ffurf yn dilyn y swyddogaeth, a'r argymhelliad oedd mai grŵp bychan o staff oedd ei angen.
O ran ariannu—wrth gwrs, yn amodol ar unrhyw bleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn—ond yn y papurau cyllideb drafft sydd eisoes wedi dod gerbron yr Aelodau, rydym wedi nodi £1 miliwn ar gyfer y tair blynedd nesaf i gefnogi gwaith yr academi.
Darren, rydych yn llygad eich lle fod angen i'r academi hon fodoli er mwyn pawb sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru. Ceir yn barod rai rhaglenni grymus iawn sy'n cefnogi arweinyddiaeth addysg bellach, ac rydych yn hollol gywir, mae arweinyddiaeth gref mewn addysg bellach wedi nodweddu llawer iawn o adroddiadau Estyn. A cheir cyfle i ddysgu o'r hyn sydd wedi gweithio'n dda mewn addysg bellach, yn ogystal â'r hyn sydd wedi gweithio'n dda mewn addysg uwch, ond yn y pen draw, rwy'n awyddus i'r academi gwmpasu swyddogaethau arweinyddiaeth mewn addysg o ben bwygilydd, a byddwn yn cynnwys yn hynny swyddogaethau arweinyddiaeth addysgol ar bob lefel yn yr ysgol. Felly, nid penaethiaid neu'r uwch dîm rheoli yn unig, ond mewn gwirionedd, yr arweinyddiaeth ganol—felly, penaethiaid adrannau, penaethiaid pynciau, nid yn unig yr uwch haenau yng nghymuned yr ysgol. Rydym yn edrych hefyd ar addysg bellach. Byddwn yn cynnwys yr awdurdodau addysg lleol hefyd. Hoffwn ei ymestyn i gonsortia rhanbarthol, a hoffwn ei ymestyn i Lywodraeth Cymru hefyd, gan gynnwys y swyddogion sy'n ymwneud â swyddogaethau addysg yn fy adran i. Felly, mewn gwirionedd, rwy'n awyddus i'r academi yn y pen draw allu gynnig cyfleoedd yn gyffredinol. Ond wrth gwrs, fel sefydliad newydd, mae angen inni gropian cyn cerdded, cyn inni redeg, ac mae'n rhaid rhoi'r flaenoriaeth i'r rhai sy'n newydd i arweinyddiaeth ar hyn o bryd a'n harweinwyr presennol. Pan fyddwn wedi cael hwyl ar hynny, bydd yr academi yn edrych tuag at ehangu'r ddarpariaeth nesaf. Mae'n ddyddiau cynnar, ac mae angen inni gael y pethau sylfaenol yn iawn cyn inni symud ymlaen, ond rwy'n dymuno iddi fod ar gyfer pawb.
Darren, a allaf eich sicrhau chi yn gyfan gwbl? Un o swyddogaethau pwysicaf yr academi fydd sicrhau ansawdd y ddarpariaeth. Mae amrywiaeth enfawr o raglenni yn bodoli, ac mae angen inni wybod, ac mae angen i'n harweinwyr wybod, mai'r hyn y maen nhw'n buddsoddi eu hamser ynddo, a'r hyn yr ydym ni'n buddsoddi adnoddau cyhoeddus prin ynddo, yw rhaglenni datblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n gweithio. A bydd honno'n swyddogaeth hollbwysig. Nid oes gennyf unrhyw broblem o ran eich sicrhau chi, pe na fyddai'r rhaglenni hynny wedi cyrraedd y nod, na fyddwn yn dymuno gweld fy ngweithwyr proffesiynol i yn cymryd rhan yn y rhaglenni hynny; ni roddir sicrwydd ansawdd iddynt. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw y bydd y broses sicrhau yn cynnwys ein cymdeithion yn yr academi. Felly, mae'r rhain yn bobl sydd eisoes ar binacl eu gyrfa, ond hyd yn oed, maen nhw wedi nodi bod yna fwy y gallen nhw ei ddysgu am redeg sefydliadau mawr. A byddant yn rhan annatod o gynghori'r academi ar y darpariaethau hynny, fel y byddent yn diwallu anghenion gweithwyr proffesiynol. Ond yn dyngedfennol, wrth ddiwallu anghenion y gweithwyr proffesiynol, bydd yn effeithio ar ein plant.
Mae'r academi arweinyddiaeth yno i bwrpas, nid yn unig ar gyfer yr unigolion sy'n cymryd rhan, ond bydd yn caniatáu i'r unigolion hynny sy'n cymryd rhan gael effaith yn eu sefydliadau nhw eu hunain ar safon yr addysg a'r dysgu, ac yn y pen draw, y canlyniadau i'n plant.
A gaf innau hefyd ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma, ac ategaf y diolch i Ann Keane ac eraill sydd wedi dod â ni i'r fan hon ac, wrth gwrs, hoffem estyn ein dymuniadau gorau i'r rhai sydd bellach yn gyfrifol am symud y gwaith hwn yn ei flaen yn y cyfnod sydd ar ddod?
Fel yr ydych chi'n dweud, nodwyd mai arweiniad fu yn un o'r agweddau gwannaf ar system addysg Cymru am nifer o flynyddoedd, felly mae'n hanfodol ein bod yn gwneud hyn yn iawn. Rydym yn gwybod—mae Estyn yn dweud wrthym, ac rydych chi wedi dweud wrthym yr hyn y bu'r OECD yn ei ddweud—bod arweinyddiaeth lwyddiannus yn ffactor allweddol wrth gyflawni'r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr. Felly, croesewir yr academi arweinyddiaeth yn fawr yn hynny o beth, ac mae Plaid Cymru wedi bod yn glir o'r cychwyn cyntaf ein bod yn awyddus i sicrhau bod yr holl arweinwyr a darpar arweinwyr yn gallu cael gafael ar ddatblygiad proffesiynol o ansawdd da, fel ein bod yn gallu ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r materion megis diffyg cynllunio ar gyfer olyniaeth.
Bydd llawer ohonom yn llywodraethwyr, rwy'n siŵr, sydd wedi bod mewn sefyllfa lle yr ydym wedi ceisio recriwtio arweinwyr ysgolion. Rydym wedi canfod bod y gronfa'n annigonol, a dweud y gwir, o'm profiad i, yn sicr, yn y gorffennol, ac mae tyfu'r gronfa honno'n hanfodol. Wnaethoch chi ddim ymdrin mewn gwirionedd—wel, ddim o gwbl, nid wyf yn credu—â'r pwynt ynglŷn â'r ffaith ei bod yn rhaid i arweinyddiaeth fod yn fenter fwy deniadol. Rydym mewn hinsawdd o gyllidebau sy'n crebachu, capasiti yn lleihau, llwythi gwaith yn cynyddu ac, mewn gwirionedd, nid wyf yn siŵr a yw'n fenter mor ddeniadol ag y byddem yn hoffi iddi fod, y dyddiau hyn. Felly, gofynnaf eto am sicrhad bod y capasiti ar gael o ran adnoddau i allu rhyddhau pobl i ymgymryd â pheth o'r hyfforddiant hwn, i roi'r cyfle hwnnw i alluogi ysgolion i gael staff cyflenwi neu i dalu am rai o'r cyfleoedd hyn, os oes cost, ond hefyd o ran amser—bod athrawon yn cael mwy o amser i allu manteisio ar ddatblygiad proffesiynol, fel y gallwn ddechrau gwireddu potensial nifer o'r unigolion hyn.
Hoffwn ofyn am yr CPCP—y cymhwyster proffesiynol cenedlaethol ar gyfer prifathrawiaeth. Bu cryn ddadlau am hynny yn y gorffennol. Yn amlwg, rydych wedi mynegi eich bwriad iddo fod yma i aros, neu o leiaf dyna fy nealltwriaeth i, ac rwy'n siŵr y byddech yn fy nghywiro pe bawn yn anghywir. Tybed a oes gan yr academi swyddogaeth yn y drafodaeth honno hefyd erbyn hyn, a beth yw eu barn nhw, oherwydd, yn amlwg, mae rhai pobl yn ei weld yn rhwystr, mae eraill yn ei weld yn gyfle defnyddiol i ddysgu â myfyrio. Felly, byddai'n dda inni weld sut y gwelwch hynny'n rhan o waith tymor canolig yr Academi.
Nawr, ar yr ail ar bymtheg o fis Medi—na, fis Medi'r llynedd, dyna'r wyf yn ceisio'i ddweud, fe gyhoeddoch gyllid gwerth dros £1.28 miliwn i sefydlu cynlluniau peilot rheolwyr busnes ysgol mewn 11 o awdurdodau lleol, cam i'w groesawu'n fawr, i fynd i'r afael â llawer o'r beichiau gweinyddol y mae rhai o'r arweinwyr hyn yn gorfod ymlafnio â nhw. Tybed a allech chi roi diweddariad ar y cynlluniau peilot hynny a sut yr ydych yn gweld y rheini, neu pryd fyddech chi'n gweld y rheini, o bosibl, yn cael eu cyflwyno mewn ardaloedd eraill, neu pryd fyddech chi'n credu y byddwch mewn sefyllfa i ddod i benderfyniad ar hynny, sef a ydynt, mewn gwirionedd, yn ychwanegiad gwerthfawr at y gefnogaeth sydd gan arweinwyr yn ein hysgolion.
Roeddech chi'n sôn y byddai gan yr academi gylch gwaith eang o ran y garfan o bobl y byddai'n eu targedu—nid dim ond ysgolion, ond awdurdodau lleol, consortia, ac ati. A fyddai hynny'n ymestyn i'r gwasanaeth ieuenctid? Dim ond gofyn y cwestiwn ydw i a fyddai'n ymestyn cyn belled â hynny, gan adlewyrchu, wrth gwrs, er enghraifft, gylch gwaith Cyngor y Gweithlu Addysg yn hynny o beth.
Bydd ganddi, fel y dywedwch yn eich datganiad, bresenoldeb cryf iawn ar-lein, a bydd rhith gymuned yn un o gonglfeini'r ddarpariaeth hon. Tybed sut y byddwch yn cysylltu hynny neu'n ei asio gyda llwyfannau ar-lein ac adnoddau eraill sydd ar gael i lawer o athrawon ac arweinwyr, fel Hwb, fel pasbort dysgu proffesiynol Cyngor y Gweithlu Addysg, yn ogystal â hynny, sydd yn tynnu llawer o hyn at ei gilydd. Ai'r weledigaeth yw fod yr academi yn dod yn rhyw fath o ganolbwynt i'r rhain i gyd ac yn eu tynnu at ei gilydd, neu a fydd hi'n fodd o fwydo deunydd i mewn i nifer o'r rhain? A fydd yn dod a'r cydlyniant hwnnw i'r myrdd o ddarpariaeth sydd ar gael, neu a fydd yn ychwanegu at rai o'r llwyfannau hynny?
Yn olaf, sut ydych yn bwriadu mesur effaith a llwyddiant posibl yr academi? Beth, yn eich tŷb chi, yw'r cerrig milltir, y nodau a'r dyheadau sydd gennych chi a sut fyddwch chi'n gallu dangos eu bod mewn gwirionedd yn cael yr effaith yr ydym i gyd yn awyddus i'w gweld?
Diolch yn fawr ichi, Llŷr. Rwy'n credu, yn gyntaf, y byddwn yn cydnabod mai gwaith heriol yw bod yn arweinydd ysgol, y mae ei gyflawni yn cymryd llawer o amser ac yn anodd ar adegau. Ond mae hefyd yn swydd sy'n rhoi llawer o foddhad. Gall yr effaith y mae arweinydd ysgol yn ei chael ar fywydau plant a phobl ifanc ac ar eu gyrfa drwy eu sefydliad fod yn enfawr. Yn ddiweddar iawn, roeddwn yn siarad â chyn-bennaeth a oedd wedi mynd am bryd o fwyd i ddathlu ei phen-blwydd gyda rhai o'i phlant ei hun ac roedd cyn-ddisgybl yn gweini. Cafodd sgwrs â'r disgybl hwnnw a ddywedodd, 'Nid wyf i'n gallu credu eich bod yn fy nghofio i. Doeddwn i ddim yn gwybod a fyddech yn cofio fy enw i,' ac aeth yn ei flaen i ddweud wrthyn nhw am yr hyn oedd yn digwydd yn ei fywyd a'r gwahaniaeth yr oedd hi wedi gwneud i'w fywyd. Ychydig o alwedigaethau, ychydig iawn o alwedigaethau, sydd yn cael effaith ar unigolyn gydol ei oes, ond mae bod yn bennaeth ysgol, a bod yn bennaeth ardderchog, yn gwneud hynny.
Mae hefyd yn hanfodol, fel y nododd yr OECD ac Estyn, o ran y proffesiwn addysg: mae cael eich rheoli gan arweinydd gwael yn ychwanegu at eich llwyth gwaith fel athro neu athrawes, yn ychwanegu at eich straen fel athro neu athrawes, ac nid yw'n eich helpu i wneud eich gorau. Ond mae arweinyddiaeth dda yn ein hysgolion yn codi pawb.
Un o ddibenion mwyaf bodolaeth yr academi yw dweud wrth bobl sydd yn ystyried arweinyddiaeth, ond ar hyn o bryd nad ydynt yn dymuno cymryd yr ymrwymiad a'r cam hwnnw, oherwydd ei bod yn swydd mor heriol, mae'r academi yno i ddweud, 'Fe wnawn ni eich cefnogi chi. Ni fyddwch ar eich pen eich hun. Mae hwn yn gam yn eich gyrfa y gallwch ei gymryd yn ddiogel gan wybod a bod yn hyderus fod yna strwythur a sefydliad a fydd yn rhoi'r cymorth ichi fod y gorau y gallwch chi fod, a gwneud eich taith tuag at arweinyddiaeth yn llwyddiant. Byddwn yn eich cefnogi i wneud hynny.'
Felly, rydych chi'n hollol iawn: mae amrywiaeth o bethau y mae angen inni eu gwneud i wneud arweinyddiaeth yn fwy deniadol. Byddwch yn ymwybodol o'n datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, am ffordd fwy soffistigedig o reoli perfformiad mewn ysgolion, sefydlu'r academi arweinyddiaeth, safonau arweinyddiaeth newydd—y cyfan gyda'i gilydd, mae'n ymwneud â gwneud arweinyddiaeth yn rhywbeth deniadol.
Rydych yn siarad am yr CPCP. Fel rhywun a fu'n ddigon ffôl i gytuno i lofnodi'n bersonol yr holl dystysgrifau i ymgeiswyr llwyddiannus yr CPCP eleni, cefais sioc annifyr ddoe pan roddwyd blwch imi yn cynnwys 140 ohonynt. Pe byddwn wedi gwybod hynny, efallai y byddwn wedi cael fy llofnod wedi'i argraffu arnyn nhw. Ond roeddwn yn falch iawn neithiwr o lofnodi pob un o'r tystysgrifau ar gyfer y rhai sydd wedi cwblhau eu CPCP yn y garfan diwethaf. Felly, nid oes prinder awydd i gymryd rhan yn y rhaglen honno—ddim prinder awydd o gwbl.
Mae fy swyddogion a'r consortia rhanbarthol wedi cydweithio'n galed iawn i gynnig rhaglen CPCP well ar gyfer y flwyddyn academaidd hon. Ond wrth symud ymlaen, rydych yn iawn, Llŷr, mai fy mwriad i yw cadw'r CPCP, ond wrth symud ymlaen ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn cyflawni gwaith caffael ar gyfer cyflwyno'r rhaglen eto, a bydd gennyf ragor o wybodaeth ar ôl cwblhau'r broses hon, y byddaf yn hapus iawn i'w rhannu gyda chi.
Rydym yn awyddus iawn, fy swyddogion a minnau a'r academi, i sicrhau bod yr CPCP yn adlewyrchu'r safonau arweinyddiaeth newydd a gyflwynwyd gan y Llywodraeth, ac mae'n rhaglen datblygu a ystyriwyd yn ofalus i gefnogi'r rhai sy'n ymgeisio am brifathrawiaeth hyd yn oed yn well. Felly, bydd yn aros. Eisoes, o flaen yr academi, mae consortia rhanbarthol wedi bod yn cydweithio i sicrhau dull mwy cyson, gan ddibynnu ar eich lleoliad yng Nghymru, a bydd gan yr academi arweinyddiaeth swyddogaeth hanfodol i sicrhau bod yr CPCP, a'r hyn sydd y tu ôl i'r cymhwyster hwnnw, yn addas ac yn gadarn.
Mae'n rhaid i mi gyfaddef, Llŷr, nad wyf i wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i gynnwys gwaith ieuenctid ar hyn o bryd. Ond fel y dywedais wrth ateb Darren, rwy'n ystyried gwneud hon yn academi arweinyddiaeth ar gyfer y rhai sydd â swydd mewn arweinyddiaeth addysgol, ac rwy'n siŵr y bydd trafodaethau ynglŷn ag a fyddai'r gwasanaeth ieuenctid yn dymuno cymryd rhan rywbryd mewn rhaglen o'r fath. Yr hyn yr wyf yn glir amdano yw y gall gwaith ieuenctid da ochr yn ochr ag addysg wirioneddol dda gael effaith wych ar fywydau plant a phobl ifanc.
O ran amser a chyfle, byddwch yn ymwybodol ein bod wrthi'n ailfeddwl am ein cyfleodd dysgu proffesiynol o ben bwygilydd, gyda chynnig addysg broffesiynol cenedlaethol newydd gobeithio—na, nid gobeithio; fe fydd yn barod ym mis Medi, a bydd hynny'n rhoi rhagor o fanylion am y staff sydd ar gael ar bob lefel i gymryd rhan mewn rhaglenni arweinyddiaeth cenedlaethol. Ond yr hyn a welsom gan y swyddogion cyswllt, y bobl a wnaeth gais i fod yn swyddogion cyswllt, unwaith eto nid oes prinder awydd gan bobl i fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Roedd mwy o ymgeiswyr i fod yn swyddogion cyswllt nag yr oedd gennym le ar eu cyfer, a chredaf fod hynny'n ein rhoi ar drywydd da iawn mewn gwirionedd ar gyfer sefydlu academi fel rhywbeth sydd yn wirioneddol werth chweil, a phobl yn awyddus i fod yn rhan ohono.
Mae'r wefan ar ei thraed, er fy mod yn credu y bydd yr Aelodau yn ei chael hi'n anodd i'w Gwglo o'r cyfrifiadur hwn, oherwydd rwyf newydd drïo gwneud hynny ar fy un i ac mae system y Cynulliad wedi'i hatal. Felly, mae'n un o'r gwefannau hynny, un o'r gwefannau rhyfedd hynny, am ryw reswm, nad yw'r hidlyddion yma'n fodlon ichi edrych arni. Ond, pan fyddwch gartref heno yn defnyddio eich cyfrifiaduron eich hunain, os gwelwch yn dda edrychwch arni. Ac, unwaith eto, mae'r presenoldeb ar-lein digidol hwnnw yn rhoi cyfle inni gyrraedd pob rhan o Gymru. Nid wyf yn dymuno i neb fod dan anfantais logistaidd oherwydd eu bod yn arwain ysgol mewn ardal fwy anghysbell o Gymru. Mae'r presenoldeb ar-lein hwnnw a gwneud yn siŵr fod yna adnoddau ar-lein a chymunedau ar-lein, yn caniatáu i bawb gymryd rhan ar sail fwy cyfartal. Ond byddwn yn annog yr Aelodau i edrych, ac efallai y gallai'r Dirprwy Lywydd gael gair gyda'r technegwyr yma ynghylch dadflocio'r wefan honno, Dirprwy Lywydd.
Iawn. Gwnaf, os bydd yr Aelodau yn addo ateb cwestiynau—neu Ysgrifenyddion y Cabinet yn addo ateb cwestiynau yn eithaf cyflym a'r Aelodau i ofyn cwestiynau yn eithaf cryno. Michelle Brown.
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae adroddiadau diweddar gan Estyn wedi nodi y bu diffyg cynllunio o ran ansawdd arweinyddiaeth mewn ysgolion. Ychydig iawn o gyfleoedd datblygiad proffesiynol wedi'u teilwra'n dda a gafwyd ar gyfer arweinwyr ac athrawon lefel canol ac uwch ac nid yw arweinyddiaeth ysgol yn cael ei hystyried yn broffesiwn deniadol. Ni wnaeth arolygiadau Estyn ond nodi nifer fach o ysgolion yr oedd eu harfer mewn arweinyddiaeth a chynllunio ar gyfer gwella yn rhagorol. Rwy'n siŵr nad yw'r datganiadau hyn yn newyddion ichi; rydych chi wedi gweithredu arnyn nhw wrth greu'r academi, ac rwy'n croesawu'r academi honno, gan fod ei chanolbwyntio ar ddatblygu a chefnogi arweinyddiaeth yn gam da. Fodd bynnag, bydd raid i'r croeso eang hwn gynnwys rhai rhybuddion. Rhaid i unrhyw fentrau fod yn gost-effeithiol ac yn effeithiol hefyd o ran y canlyniadau y maent yn eu darparu. O ran sicrhau effeithiolrwydd, croesawaf yn fawr benodiad y cyn brif arolygydd ysgolion, Ann Keane, i oruchwylio, ymhlith pethau eraill, symbyliad yr academi. Mae gan Ann yn brofiad eang o weithio fel athrawes ei hun, yn cynnwys mewn ysgolion yn Lloegr. Mae hefyd wedi cyflwyno deunydd manwl a defnyddiol iawn yn ystod ei hamser gydag Estyn.
O ran cyllid a chostau, dywedodd adroddiad sioe deithiol Estyn ym mis Hydref 2017 bod ansicrwydd ynghylch a all yr academi gael digon o bŵer heb reoli holl gyllid datblygu arweinyddiaeth. Felly, mae hynny'n un peth yr hoffwn ei ofyn i chi: sut y caiff y cyllid hwnnw ei drin a sut fydd yn cael ei reoli? Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn pryderu a fyddai digon o arian ar gyfer datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth addas o hynny. Eto i gyd, ar y llaw arall, ceir pryder hefyd ynglŷn â threthdalwyr yn cael gwerth am arian a bod costau'r academi yn gymesur. Nid ydym yn dymuno gweld y cyllid a roddir i'r rhaglen hon yn cymryd arian sylweddol oddi wrth wasanaethau rheng flaen addysg, ac rwy'n siŵr y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi yn hynny o beth.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn trafod yr angen i'r academi gael presenoldeb mawr ar-lein. Beth yw'r rhagolygon sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet o'r costau sy'n gysylltiedig â sicrhau'r presenoldeb ar-lein? Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd pa fecanweithiau craffu ac adolygu sydd ganddi hi ar waith i sicrhau bod y costau sy'n gysylltiedig ag academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol yn parhau i fod yn gymesur ac yn sicrhau gwerth am arian. Pryder a godwyd hefyd yw'r nifer gymharol fechan o fenywod mewn swyddi uwch arweinwyr yn y system addysg, sydd yn syndod, o gofio nifer y menywod sydd yn mynd i ddysgu mewn gwirionedd. A fydd yr academi yn mynd i'r afael â hyn a sut rydych yn gweld yr academi yn ymdrin â hyn?
Bwriedir hefyd i'r academi fod yn cymeradwyo'r ddarpariaeth gan ddarparwyr. Rwy'n cymryd eich bod yn golygu mai hyfforddi, datblygu proffesiynol, ac yn y blaen fydd hynny. Credaf fod hynny'n syniad da; mae'n gwneud synnwyr. Ond sut fydd hi'n sicrhau bod arweinwyr ac athrawon sy'n dymuno manteisio ar y ddarpariaeth honno yn cael yr amser i wneud yn fawr ohoni? A sut fyddwch yn sicrhau bod arweinwyr ac athrawon yn cael yr amser yn ystod eu diwrnod gwaith i ddatblygu eu sgiliau arweinyddiaeth? Neu a yw hyn yn rhywbeth y bydd disgwyl iddyn nhw ei wneud yn eu horiau personol, fel sy'n digwydd mor aml gyda DPP Diolch.
A gaf i ddiolch i Michelle Brown am ei sylwadau? Mae'n bwysig bod yr Aelodau yn deall y ffordd y sefydlwyd yr academi arweinyddiaeth, sef fel cwmni cyfyngedig drwy warant sydd hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru, oherwydd roeddwn i'n dymuno gallu creu rhyw fath o annibyniaeth, ar sail weithredol feunyddiol, oddi wrth Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd y sefydliad yn cael ei arwain gan brif weithredwr newydd, Huw Foster-Evans. Mae Huw yn rhywun a fydd yn hysbys i lawer o bobl fel—. Dechreuodd ar ei yrfa fel athro mathemateg mewn ystafell ddosbarth a symudodd i fyny drwy'r rhengoedd. Mae wedi bod yn bennaeth, mae'n deall gwaith y consortia rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol yn dda iawn, ac mae'n hynod frwdfrydig o ran y posibiliadau ar gyfer arweinyddiaeth. Wedi siarad ag ef yn dilyn ei benodiad, y mae'n gweld arweinyddiaeth wrth wraidd ein diwygiadau addysgol. Mae gan y bwrdd gadeirydd annibynnol penodedig, yn ogystal â nifer o aelodau bwrdd, bob un ohonynt â phrofiad diweddar mewn busnes ac mewn addysg, a fydd yn goruchwylio'r gwaith o redeg yr academi o ddydd i ddydd. Rwy'n disgwyl derbyn adroddiadau rheolaidd gan y cadeirydd a'r prif weithredwr am y gwaith ac, wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yma, a chan eich bod yn aelod o'r pwyllgor plant a phobl ifanc, y bydd y pwyllgor ei hun yn awyddus i gael edrych o ddifrif ar waith yr academi a chael cwrdd â'r personél yno. Rhoddwyd gwahoddiad, rwy'n credu, i bobl ddod i'r digwyddiad yr wythnos diwethaf, felly gallai pobl fod wedi cyfarfod yn y lansiad swyddogol. Gwn fod ddyddiaduron pobl yn hynod o brysur dros amser cinio a bod hynny bron yn amhosibl. Roedd Llŷr yno, ac rwy'n gobeithio, Llŷr, y byddech yn dweud wrth gydweithwyr nad oedden nhw'n gallu bod yn bresennol yno fod yna deimlad o gyffro ac edrych ymlaen a brwdfrydedd am yr hyn yr ydym yn ei wneud.
Mae materion cydraddoldeb mewn addysg yn rhai gwirioneddol bwysig mewn gwirionedd, Michelle. Mae'n ddiddorol iawn; rydych yn sôn am ddiffyg swyddi arweinyddiaeth gan fenywod. Wel, menywod yw llawer iawn o'r penaethiaid yr wyf i'n cwrdd â nhw mewn swyddi arweinyddiaeth—penaethiaid ysgolion—yn y sector cynradd yn enwedig, ac mae hynny'n adlewyrchu natur gweithlu'r ysgolion cynradd. Ond mae angen inni weld mwy o amrywiaeth yn ein proffesiwn addysg yn gyffredinol. Hoffwn i bob un sydd o flaen y stafell ddosbarth adlewyrchu natur yr ystafell ddosbarth ei hun. Cymuned amrywiol ydym ni gyda phoblogaeth amrywiol a hoffwn weld mwy o amrywiaeth yn y proffesiwn addysg ac, wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yr academi arweinyddiaeth yn awyddus i roi cyngor i mi ynglŷn â'r hyn a ddylai ddigwydd os ydyn ni'n dymuno annog yr amrywiaeth honno a'n bod yn gallu gweithredu gyda hynny. Eto, un o'r pethau yr wyf yn disgwyl i'r academi arweinyddiaeth ei wneud yw cyfrannu at gyngor polisi cyhoeddus, a rhoi cyngor i mi, yn Weinidog, ynglŷn a'r hyn sydd angen inni ei wneud eto i gefnogi'r cynsail a ddisgrifiwyd gennych chi: arweinwyr ysgol amrywiol a llwyddiannus a system arweinyddiaeth ysgol y mae pobl yn dyheu i fod yn rhan ohoni; maen nhw'n dymuno bod yn rhan o'r system honno—yn hytrach na gweld arweinyddiaeth yn gyfle i ddod â gyrfa i ben, ond yn hytrach yn gyfle i wella gyrfa. Felly, mae hynny'n bwysig iawn i mi, ein bod yn cael yr amrywiaeth honno.
Bydd y mesurau atebolrwydd a sicrhau arferol ar waith, a bydd y prif weithredwr a'r bwrdd yn atebol i'r cyhoedd am y modd y caiff cyllideb y sefydliad ei wario. Fel y dywedais wrth ateb Llŷr Huws Gruffydd, wrth inni nesáu at fis Medi byddwn mewn sefyllfa i roi rhagor o fanylion i'r Aelodau am y rhaglen dysgu proffesiynol genedlaethol newydd sydd ar gael. Rydym eisoes yn gweithio yn galed iawn, iawn gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i ddatblygu ein system ysgolion fel sefydliadau dysgu, ac mae'n rhaid inni gydnabod bod yr hen ffyrdd o gyflawni addysg broffesiynol, sy'n aml yn cynnwys dod allan o'ch ystafell ddosbarth am ddiwrnod cyfan, i eistedd mewn neuadd, a chael darlith o'r llwyfan, ar y llwyfan, a mynd yn ôl wedyn i'ch ystafell ddosbarth a hynny heb gael unrhyw effaith ar eich ymarfer—mae'r dyddiau hynny ar ben. Yn aml, daw'r cyfleoedd gorau un i ddysgu'n broffesiynol pan fydd y plant yn yr ystafell mewn gwirionedd. Maen nhw'n dod drwy gysylltu, nid ag ysgol arall, ond mewn gwirionedd a'ch cydweithwyr o fewn yr ysgol, neu o gael cyfle i weithio ar draws clwstwr, a bydd ein rhaglen newydd genedlaethol sy'n rhoi cyfle dysgu proffesiynol yn adlewyrchu hynny pan fyddwn yn ei lansio yn yr hydref.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae pawb yn gwybod bod yr heriau o gyflwyno addysg yn yr ysgolion sy'n gwasanaethu ein hardaloedd mwyaf difreintiedig yn fater o bwys i ni yma yng Nghymru—ac ymhellach y tu hwnt i'n ffiniau, yn ddiamau. Rydym wedi trafod yn y gorffennol bwysigrwydd arweinyddiaeth yn yr amgylchiadau penodol hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rydym i gyd yn gwybod ei bod yn bwysig iawn yn gyffredinol. Ond, wrth ystyried y materion hyn, roedd rhan o'n trafodaethau blaenorol yn ymwneud â'r priodoleddau a'r nodweddion penodol sydd eu hangen i fod yn rhan o'r tîm arweinyddiaeth hwnnw a pherfformio'n effeithiol yn yr ysgolion hynny sy'n gwasanaethu ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac roeddech yn nodi sut y byddai dull pwrpasol a chanolbwynt a ffocws penodol o fewn y rhan fwyaf o'r hyn yr ydych wedi'i ddisgrifio heddiw. Felly, tybed, ar y cam hwn o ddatblygiad yr academi a'n cyfundrefn newydd ar gyfer arweinyddiaeth mewn addysg yng Nghymru, a fyddech yn gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am sut y bydd popeth yr ydych wedi'i ddisgrifio heddiw yn cynnwys hyn yn y ddarpariaeth bwrpasol hon ar gyfer y sgiliau arwain a'r nodweddion penodol hynny.
Diolch ichi, John. Wel, mae arweinyddiaeth dda a datblygiad arweinyddiaeth dda yn effeithio ar ein holl blant, ond byddwn yn dadlau ei bod yn effeithio yn anghymesur ar y plant hynny o gefndiroedd tlotach. Yn sicr, mae arweinyddiaeth mewn gwahanol leoliadau yn gofyn am raglen benodol weithiau sydd wedi'i llunio'n arbennig i estyn cymorth. Felly, nid fy lle i yw rhoi gorchmynion trwy'r amser i'r academi, ond rwyf yn rhagweld sefyllfa lle pan fyddwn yn edrych ar gefnogaeth i arweinwyr, arweinyddiaeth, mewn ystod o leoliadau addysgol. Os mai'r genhadaeth genedlaethol yw codi safonau a chau bwlch cyrhaeddiad, a dyna ydyw, yna talu sylw i'r hyn a olygir i fod yn arweinydd mewn ysgol mewn ardal economaidd wirioneddol heriol gyda phroblemau cymdeithasol sylweddol sy'n effeithio ar fywyd yr ysgol honno a lles y plant a gallu'r plant hynny i allu derbyn y cwricwlwm, bydd hynny'n gofyn am sgiliau penodol i wneud y gorau ohoni. Felly, byddwn yn hoffi gweld hynny'n cael ei adlewyrchu.
Fel arall, rydym yn gweld mathau newydd o addysg bob amser. Beth mae'n ei gymryd i fod yn arweinydd ysgol pob oedran, er enghraifft, lle rydym wedi cael, yn draddodiadol, wahanu rhwng cynradd ac uwchradd? Rydym yn gweld twf yn nifer yr ysgolion pob oedran. Beth mae'n ei gymryd i fod yn arweinydd yn yr amgylchiadau hynny? Beth mae'n ei gymryd i fod yn arweinydd clwstwr o ysgolion cynradd? Os cewch eich hun yn bennaeth dwy, tair, pedair ysgol gynradd yn eich ardal leol, sy'n digwydd nawr mewn ymgais i gadw ysgolion gwledig ar agor, beth sydd ei angen i fod yn arweinydd yn yr amgylchiadau hynny? Beth mae'n ei gymryd i fod yn arweinydd mewn ysgol lle mae gennych ddosbarthiadau bach iawn ac rydych chi'n ceisio dysgu nifer o blant ar draws grŵp oedran eang, ac yn ogystal â hynny mae gennych gyfrifoldeb dysgu ar ben eich cyfrifoldeb arweinyddiaeth? Felly, mae yna nifer fawr iawn o wahanol nodweddion i arweinyddiaeth. Felly, os yw'n gyffredin, mae yna bethau penodol y gallwn eu gwneud i gefnogi arweinwyr sy'n canfod eu hunain yn gweithio dan amgylchiadau penodol iawn.
Roeddwn ar fai am beidio â sôn am reolwyr busnes. Dyma un o'r ffyrdd y gallwn gymryd y baich oddi ar benaethiaid sydd â'u bryd ar addysg a dysgu ac nid o reidrwydd ar weithio allan sut y gallwch drwsio'r boeler neu drwsio'r to sy'n gollwng neu ymhle mae'r papur a'r papur toiled rhataf ar werth. Nid ydym yn awyddus i benaethiaid dreulio eu hamser yn gwneud hyn. Maen nhw'n dweud wrthyf yn llawer rhy aml eu bod yn treulio llawer gormod o amser yn gwneud y math hwnnw o beth ac nid yn canolbwyntio ar addysg a dysgu ac addysgeg. Rydym eisoes yn buddsoddi mewn cynlluniau peilot rheolwr busnes. Byddwn yn aros i weld canlyniadau'r cynlluniau peilot hynny. Ond, unwaith eto, mae'n ymwneud â chefnogi arweinyddiaeth mewn amrywiaeth o raglenni polisi fel bod pobl yn awyddus i fod yn arweinydd mewn ysgol yng Nghymru, ac rwyf wir yn gobeithio y bydd pobl yn dymuno bod yn arweinydd rhagorol yn rhai o'n hysgolion mewn cymunedau mwy heriol. Oherwydd nid yr adnoddau ariannol yn unig a all wneud gwahaniaeth i'r plant hynny, mae'n ymwneud â defnyddio'r adnoddau dynol gorau hefyd.
Ac, yn olaf, Rhianon Passmore.
Diolch. Cafodd llawer o'r pwyntiau yr oeddwn eisiau eu gwneud eu datgan yn barod, ond rwy'n dymuno croesawu'r datganiad heddiw. Fel cyn athrawes a darlithydd, a chyn-aelod cabinet dros addysg, croesawaf yn fawr y diwygiad parhaus hwn o ran y potensial sydd gan yr academi newydd hon. Af yn syth at fy nghwestiynau. Sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau wedyn y bydd yr academi arweinyddiaeth addysgol a'i gwaith ar-lein ar gael ledled Cymru i weithwyr addysg proffesiynol yn gyson, a sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhagweld y bydd yr arfer gorau yn rhaeadru o'r academi yn Abertawe i ddrysau a ffenestri'r ystafelloedd dosbarth ledled Cymru? Ac, oes, mae gan yr academi arweinyddiaeth addysgol y potensial, ynghyd â chyfres o fesurau pedagogaidd eraill gan Lywodraeth Cymru, i roi rhagoriaeth mewn arweinyddiaeth ledled addysg yng Nghymru yn un o asedau mwyaf pobl Cymru ac, yn y pen draw, yn fy marn i, genedl y Cymry.
Diolch yn fawr iawn, Rhianon, am eich croeso i'r academi. Yn amlwg, mae ein hadnodd ar-lein yn gwbl hanfodol i wneud yn siŵr fod yr academi yn hygyrch, a'i fod yn un o swyddogaethau hanfodol swyddogion cyswllt cyntaf yr academi. Felly, mae'r rhain yn bobl sydd wedi ymgeisio i fod yn rhan o'r academi, maen nhw'n dod o bob cwr o Gymru, a rhan o'u swyddogaeth yw bod allan yn eu cymunedau addysgol i ledaenu gwybodaeth am yr academi, a gweithio gyda'u cydweithwyr nad ydynt yn swyddogion cyswllt, ond eu bod yn gallu rhoi gwybod iddyn nhw am waith yr academi a'u hannog i fod yn rhan ohoni. Felly, nid presenoldeb digidol yn unig sydd gennym ni; bydd gennym bresenoldeb ddynol ar y ddaear—rhai o'n hathrawon rhagorol yn y sector uwchradd, y sector cynradd, cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg—ac maen nhw allan yno ar hyn o bryd yn datblygu eu sgiliau eu hunain hyd yn oed ymhellach, ond mewn gwirionedd maen nhw allan yno yn lledaenu neges yr academi ac yn bwydo yn ôl i'r prif weithredwr a'r bwrdd am yr hyn sydd ei angen ar yr arweinwyr gan yr academi i'w cefnogi nhw, yn ogystal â datblygu rhaglenni i'r dyfodol, fel y gallwn fod yn llawer mwy rhagweithiol o ran datblygu gyrfa'r bobl sydd â'u bryd ar arweinyddiaeth.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.