– Senedd Cymru am 3:50 pm ar 23 Mai 2018.
Eitem 4 ar yr agenda yw'r datganiadau 90 eiliad. Yn gyntaf yr wythnos hon mae Jayne Bryant.
Yr wythnos hon yw Wythnos Gweithredu Dementia. Rhagwelir y bydd dros 100,000 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru erbyn 2055. Mae'n hanfodol ein bod fel cenedl yn cynyddu ein hymwybyddiaeth a'n dealltwriaeth o ddementia i chwalu'r stigma a chynorthwyo pobl i fyw'n dda yn eu cymunedau cyhyd ag y bo modd. Nid yw dementia'n rhan naturiol o heneiddio. Nid yw'r clefyd yn gwahaniaethu. Nid oes ots pwy ydych chi a gallai ddigwydd i unrhyw un ohonom. Mae diagnosis o ddementia yn anodd i'r person sy'n dioddef o'r clefyd, a hefyd i bawb sy'n agos atynt. Ffrindiau Dementia'r Gymdeithas Alzheimer yw'r fenter fwyaf erioed i drawsnewid y ffordd y mae'r genedl yn meddwl, yn gweithredu ac yn sôn am ddementia. Ei nod yw helpu pobl i ddeall sut beth fyddai byw gyda dementia, a throi'r ddealltwriaeth honno'n gamau gweithredu.
Yn 2015, ymrwymodd y Cynulliad hwn i fod yn sefydliad sy'n deall dementia. Hyd yma, hanner yn unig ohonom sydd wedi cyflawni'r hyfforddiant. Mae'n bryd i ni gyflawni'r addewid i bob un o'r 60 AC ddod yn ffrindiau dementia. Bydd hwn yn gam mawr tuag at sicrhau mai ni fydd y Senedd gyntaf yn y byd sy'n deall dementia. Mae'r hyfforddiant yn cymryd ychydig dros hanner awr, a buaswn yn annog pawb yma i'w wneud. Ac ni ddylem orffen yn y fan hon. Dylem annog ein swyddfeydd ein hunain a'r rhai yn ein cymunedau i gyflawni'r hyfforddiant. Nid yw bywyd yn dod i ben pan fydd dementia'n dechrau. Gyda chymorth, gall pobl fyw'n dda gyda dementia, felly mae pob gweithred yn cyfrif.
Diolch. Yn ail, Jack Sargeant.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. John Atkinson, Courtney Boyle, Philip Tron, Kelly Brewster, Georgina Callander, Olivia Campbell-Hardy, Liam Curry, Chloe Rutherford, Wendy Fawell, Martyn Hett, Alison Howe, Lisa Lees, Megan Hurley, Nell Jones, Michelle Kiss, Angelika Klis, Marcin Klis, Sorrell Leczkowski, Eilidh MacLeod, Elaine McIver, Saffie Rose Roussos a Jane Tweddle: hwy oedd y 22 o bobl ddiniwed a laddwyd yn drasig yn yr ymosodiad ar Manchester Arena flwyddyn yn ôl i ddoe; 22 o bobl a benderfynodd fynd i gyngerdd i gael amser da. Mewn gwirionedd, roedd rhai o fy ffrindiau yn y cyngerdd hwnnw, ond roeddent yn ddigon ffodus i ddychwelyd adref at eu teuluoedd y noson honno; nid oedd eraill mor ffodus. Rwy'n siŵr, wrth imi sefyll yma, fy mod yn siarad ar ran pawb yn y Siambr pan ddywedaf wrth deuluoedd y rhai a gollodd eu hanwyliaid y noson honno ein bod yn sefyll gyda chi, ac rydym yn cydymdeimlo'n llwyr â chi yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Ddirprwy Lywydd, bydd Cymru yn eu cofio, ac yng ngeiriau Liam Gallagher, bydd y 22 yn byw am byth. Diolch.
Diolch. Simon Thomas.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cafodd Sefydliad DPJ ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn marwolaeth Daniel Picton-Jones. Roedd Daniel wedi bod yn dioddef gyda'i iechyd meddwl ac yn anffodus, dewisodd roi diwedd ar ei fywyd ar 5 Gorffennaf 2016. Mae Sefydliad DPJ wedi deillio o'r frwydr a wynebodd Daniel i geisio cael cymorth mewn ardal wledig ac yn ei alwedigaeth ynysig fel ffermwr. Mae ei wraig, Emma, wedi ymgyrchu'n ddi-baid i oresgyn y stigma o siarad am faterion iechyd meddwl, yn enwedig ymhlith dynion. Mae'r anawsterau hyn yn cael eu dwysáu gan fynediad at wasanaethau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig, ac amharodrwydd nifer o ffermwyr, sy'n gallu trwsio unrhyw beth gyda thipyn o gortyn beindar a rhywfaint o chwys, i chwilio am gymorth pan fyddant yn wynebu salwch meddwl.
Roeddwn yn falch iawn o groesawu Emma Picton-Jones yma i'r Cynulliad yn ddiweddar i rannu ei neges gyda'r rheini sy'n ymwneud ag iechyd meddwl yng nghefn gwlad Cymru. Mae Sefydliad DPJ bellach yn cynnig gwasanaeth cwnsela 24 awr yn Sir Benfro, ac mae gwaith Emma'n agor trafodaeth ar y materion hyn ymysg undebau amaethyddol, cyrff amaethyddol a sefydliadau gwirfoddol. Nawr, yn enw Daniel, mae pobl yn cael cymorth mewn ffordd nad oedd ef yn teimlo y gallai, ac oherwydd gwaith Emma, mae mwy a mwy o bobl yn sylweddoli ei bod hi'n iawn iddynt siarad.
Diolch yn fawr iawn.