2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 6 Mehefin 2018.
2. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar unrhyw ymgyfreitha yn y dyfodol sy'n deillio o wrthdaro ynghylch awdurdodaeth, o ganlyniad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)? OAQ52281
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae'r cytundeb rhynglywodraethol ar y Bil ymadael â'r UE, a gytunwyd gyda Llywodraeth y DU ar ddiwedd mis Ebrill, yn darparu sail gadarn ar gyfer ein perthynas waith yn y dyfodol. Mae'r cytundeb yn parchu confensiynau cyfansoddiadol sefydledig, ac yn unol â'r rheini, ceir ymrwymiad gan bob ochr i geisio symud ymlaen drwy gytundeb.
Diolch am eich ateb. Nid yw union baramedrau'r hyn a fydd yn cael ei ddatganoli a'r hyn a fydd yn cael ei gadw o'r newydd o ran polisïau fframwaith cyffredin o dan delerau'r Bil ymadael â'r UE wedi eu sefydlu'n ffurfiol, a'r hyn a wyddom yw y gallai'r 24—26 bellach—o feysydd sy'n cael fframweithiau cyffredin gynyddu heb ein caniatâd. Mae gan Gymru, wrth gwrs, lysoedd i ymdrin â'r materion hyn pe baent yn dod yn destun ymgyfreitha yn y dyfodol, ond o dan y trefniant awdurdodaeth ar y cyd, nid yw'n glir lle y dylid cychwyn achosion ac a fydd cyfreithwyr yng Nghymru hyd yn oed yn cael eu cyfarwyddo gan y partïon mewn unrhyw anghydfod yn y dyfodol. Pa gamau rydych chi fel Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i baratoi ar gyfer yr hyn a fydd, mae'n debyg, yn ymgyfreitha anochel?
Wel, rwy'n anghytuno â rhagdybiaeth yr Aelod na fydd angen cydsyniad y Cynulliad hwn ar y materion a fydd yn destun trafodaethau fframwaith rhwng y Llywodraethau. Fel y gŵyr o ddatganiadau blaenorol a wnaed gan Lywodraeth Cymru, bydd pwerau ychwanegol yn dod i'r Cynulliad hwn o ganlyniad i'r cytundeb a sicrhawyd gan y Llywodraeth, a cheir mecanwaith cydsyniad a nodir yn y cytundeb rhynglywodraethol.
Un o'r materion y mae angen eu datrys mewn trafodaethau yn y dyfodol rhwng y Llywodraethau yw cynnwys y fframweithiau cyffredin y mae'n eu crybwyll yn ei chwestiwn. Un o ddimensiynau hynny yw sut y caiff anghydfodau rhwng Llywodraethau, fel partneriaid cyfartal yn y set honno o fframweithiau, eu datrys yn y dyfodol. Mae'r mecanwaith ar gyfer datrys yr anghydfodau hynny yn un o'r materion y mae'r Llywodraethau eto i gytuno arnynt. Nid yw'r trefniadau presennol yn addas at y diben, ac rwy'n siŵr y byddai'n cytuno'n llwyr â mi ynglŷn â hynny.
Fe fydd yn ymwybodol o'r fforwm gweinidogol newydd ar drafodaethau'r UE, sy'n bodoli fel y gall y pedair Llywodraeth gyfrannu at y safbwynt negodi mewn perthynas â thrafodaethau'r UE yn y dyfodol. Ac efallai hefyd ei bod yn ymwybodol o'r adolygiad presennol o'r trefniadau rhynglywodraethol sy'n bodoli eisoes o dan y memorandwm cyd-ddealltwriaeth. Mae'r ddogfen honno bellach bron yn 20 mlwydd oed ac mae angen ei diwygio, ac mae'r pedair gwlad ddatganoledig yn cymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw. Ein huchelgais yw ein bod yn newid i fodel cydlywodraethu. Fe fydd yn ymwybodol o safbwynt y Llywodraeth mewn perthynas â chreu cyngor Gweinidogion y DU, a fyddai'n bodoli er mwyn osgoi anghytundeb lle bo modd ac i ddatrys anghydfod lle mae'n digwydd. Unwaith eto, mae'r cwestiwn o ysgrifenyddiaeth i gefnogi gwaith Cyngor y Gweinidogion, a mecanwaith datrys anghydfodau, yn allweddol yn hynny o beth.