1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2018.
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU am Brexit? OAQ52334
Gwnaf. Rydym ni'n parhau i ddefnyddio amrywiaeth o sianeli ar gyfer trafodaeth, yn enwedig trafodaethau llawn ac Ewropeaidd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion—EN. Yn fwyaf diweddar, ar lefel wleidyddol, cafwyd cyfarfod cyntaf y fforwm gweinidogol ar drafodaethau'r UE ar 24 Mai.
Diolch. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog wedi darllen, gyda phryder, manylion cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Brexit 'dydd y farn', fel y'i gelwir, lle byddai'r ail sefyllfa waethaf ohonom ni'n gadael yr UE heb gytundeb yn arwain at fethiant porthladd Dover, prinder bwyd, prinder tanwydd, a'r GIG yn rhedeg allan o feddyginiaethau o fewn pythefnos. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y cynlluniau 'dydd y farn' hyn, fel y'u gelwir? Ac o ystyried bod ymdriniaeth Llywodraeth y DU o Brexit yn troi'n fwy o llanastr bob munud, pa sicrwydd allwch chi ei gynnig na fyddwn ni'n wynebu tarfu ar wasanaethau allweddol fel y GIG yng Nghymru?
Y broblem sydd gennym ni yw nad oes gennym ni Lywodraeth synhwyrol yn Llundain. Nid oes gennym ni Lywodraeth sy'n gwbl benderfynol o gael Brexit caled hyd yn oed, ac yn gwbl benderfynol o'i symud ymlaen, doed a ddelo, gyda mwyafrif yn y Senedd. Yr hyn sydd gennym ni yw llanastr—llanastr llwyr. Dychwelodd David Davis o ble bynnag y mae ef wedi bod dros y misoedd diwethaf i gwyno am Ogledd Iwerddon. Ymddiswyddiad, unwaith eto, y bore yma, Gweinidog Llywodraeth yn Llundain nad yw'n hapus gyda'r trywydd y mae'r Llywodraeth Dorïaidd yn ei ddilyn. Mae gennym ni Brif Weinidog sydd mewn sefyllfa o wendid difrifol, y mae'n rhaid iddi apelio am undod o fewn ei phlaid ei hun oherwydd y bradychu sy'n digwydd. Mae gennym ni ein Hysgrifennydd Tramor ein hunain sy'n meddwl y dylai Donald Trump arwain y trafodaethau ac nid arweinydd ei blaid ei hun—nid arweinydd ei blaid ei hun. Ni allech chi ddyfeisio'r fath stori. Pe bawn i'n awdur comedi, byddai pobl yn meddwl ei fod yn rhy anghredadwy. Felly, mae angen rhywbeth mwy synhwyrol arnom ni, yn sicr, yn Llundain—nid oes unrhyw amheuaeth am hynny—oherwydd nid yw o fudd i neb i'r anhrefn hwn barhau. Felly, rydym ni wedi gwneud y pwynt, yn rhesymegol ac yn bwyllog, bod yn rhaid i safbwyntiau pobl gael eu parchu. Mae'n rhaid parchu canlyniad y refferendwm, ond mae'n rhaid ei wneud yn y modd mwyaf synhwyrol posibl.
Ceir rhai sy'n cefnogi Brexit sy'n dweud, 'Pleidleisiodd pobl yn y refferendwm dros y Brexit caletaf posibl.' Nid dyna ddywedodd etholiadau'r llynedd wrthym ni o gwbl. Wnaeth pobl ddim pleidleisio dros Brexit caled. Cynigiwyd y cyfle iddyn nhw gan Theresa May i bleidleisio dros Brexit caled, a dywedasant 'na', a dyna wirionedd y sefyllfa ddemocrataidd. Pan fy mod i'n gweld papurau newydd yn Llundain yn dweud bod hyn yn rhyw fath o frad mawr, maen nhw'n anghofio canlyniad y llynedd a'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto y llynedd. Fy nghred i yw mai'r hyn y mae pobl ei eisiau yw i ganlyniad y refferendwm gael ei barchu ac i Brexit ddigwydd, ond maen nhw eisiau iddo gael ei wneud yn y modd mwyaf synhwyrol a rhesymegol posibl ac nid mewn modd sy'n niweidio'r DU.
Mae'n rhaid i mi ddweud, un o'r pethau sy'n fy mhoeni i yw nad wyf i'n credu bod y porthladdoedd yn barod mewn unrhyw ffordd ar gyfer Brexit caled ym mis Mawrth. Byddwn ni'n gweld oediadau yn y porthladdoedd wedyn. Byddwn ni'n gweld lorïau, nid yn unig yn Dover, ond o bosibl ym mhorthladdoedd Cymru hefyd, mewn tagfa i lawr y ffordd, heb unlle i'w parcio, oediadau, nwyddau'n difetha—nwyddau darfodus—a beth fydd Llywodraeth y DU ei wneud wedyn? Byddan nhw'n rhoi'r bai ar y porthladdoedd. Byddan nhw'n rhoi'r bai ar y porthladdoedd—dyna beth fyddan nhw'n ei wneud. Byddan nhw'n dweud, 'Wel, eich bai chi yw hyn; ni wnaethoch chi fuddsoddi'n briodol. Nid ein bai ni yw ef; bai'r porthladdoedd yw ef.' Neu byddant yn dod atom ni ac yn dweud, 'Eich problem chi yw'r oediadau yng Nghaergybi a Doc Penfro ac Abergwaun gan mai Llywodraeth Cymru sy'n rheoli'r porthladdoedd.' Wel, nid yw hynny'n ddigon da. Os oes cynllunio i fod ar gyfer Brexit caled, sy'n digwydd—ac, mewn rhai ffyrdd, mae'n rhaid i chi ddeall pam mae hynny'n digwydd; wyddoch chi, paratoi ar gyfer y gwaethaf—yna mae'n rhaid bod arian ar gael i helpu ein porthladdoedd i ymdrin â'r canlyniadau a'r oediadau anochel a fydd yn digwydd mewn gwirionedd. Nid yw hynny wedi digwydd. Yn hytrach, yr hyn yr ydym ni'n ei gael yw dim byd yn digwydd, a'r potensial, rwy'n credu, i ddweud wrth borthladdoedd, 'Eich bai chi yw unrhyw oediadau.'
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad. Wrth gwrs, mater i Lywodraeth y DU fyddai penderfynu pa, os unrhyw, gyfyngiadau neu dollau y byddai yn dymuno eu rhoi—neu beidio—ar nwyddau sy'n dod i mewn i'r wlad, ond, Prif Weinidog, fe'i gwnaethoch yn glir yn gynharach fod eich Llywodraeth yn dal i gefnogi aros mewn undeb tollau â'r UE, ac aros yn y farchnad sengl. Yn y gorffennol, rydych chi wedi awgrymu eich bod yn parchu canlyniad y refferendwm ac na ddylai fod ail refferendwm. Fodd bynnag, ni allwch chi hawlio bellach mai dyna safbwynt eich Llywodraeth oherwydd eich bod chi'n caniatáu i Weinidogion siarad a dweud, er gwaethaf pleidlais Cymru a'r DU yn y refferendwm hwnnw, na ddylem ni gael hynny ac y dylen nhw gael eu gorfodi i bleidleisio eto. Onid ydych chi'n deall os mai'r safbwynt yw bod yn rhaid cael pleidlais arall ar unrhyw fargen, y cyfan yr ydych chi'n ei wneud yw cymell y Comisiwn Ewropeaidd i beidio â chynnig unrhyw drefniant negodi deniadol?
Pam y mae'n dirmygu etholwyr Prydain fel hyn? Mae pobl wedi penderfynu beth sy'n mynd i ddigwydd; mae ganddynt lais cyfartal o ran sut y mae'n mynd i ddigwydd. Nid ydyn nhw wedi eu gwahardd ar y pwynt hwnnw—'Diolch, rydych chi i gyd wedi pleidleisio, o hyn ymlaen, rydych chi'n amherthnasol.' Dyna beth y mae'n ei ddweud wrth bobl Prydain. Dydw i ddim yn dadlau o blaid cynnal ail refferendwm ar y mater. Mae'r refferendwm wedi bod. Ei blaid ef a'i gynhaliodd. Ei blaid a'i gynhaliodd, ar ôl y refferendwm yn 1997. Aethon nhw i mewn i'r etholiad cyffredinol yn 2005 gydag ymrwymiad i gynnal ail refferendwm ar ddatganoli. Felly, roedden nhw’n gollwyr gwael—collwyr gwael ar yr ochr honno. Rwy'n derbyn y canlyniad a welsom ni ddwy flynedd yn ôl, ond does bosib nad yw'n iawn i bobl Prydain benderfynu sut y bydd Brexit yn digwydd. Nid mater i elît Llywodraeth y DU yw penderfynu sut y bydd yn digwydd; mater i'r bobl ydyw. Dydw i ddim yn gweld pam y mae ofn o'r fath yn San Steffan ymysg y Blaid Geidwadol o ran caniatáu i bobl fynegi eu barn ar sut y bydd Brexit yn digwydd. Mae pobl wedi penderfynu ar y cyfeiriad; mae ganddyn nhw bob hawl i benderfynu sut y caiff y car ei yrru.
Diolch i'r Prif Weinidog.