Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 12 Mehefin 2018.
Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe hoffwn i ddweud ar y cychwyn fod fy mhlaid i’n cefnogi’r hyn yr ydych chi'n ei amlinellu yn y cynllun hirdymor. Efallai nad wyf i bob amser yn cytuno â rhai o'ch penderfyniadau na bob amser yn cefnogi'r ffordd rydych chi wedi dewis gwneud y penderfyniadau hynny, ond rwy’n cytuno bod yn rhaid i bethau newid, ac mae rhaid iddyn nhw newid os ydym ni eisiau gweld y GIG yn dathlu ei ganmlwyddiant. Mae problemau ag iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, ond gallwn ni oll gytuno bod y gofal a ddarperir yn rhagorol. Y problemau yw cael y gofal yn y lle cyntaf. Mae’n hadnoddau ni’n gyfyngedig a gan ein bod i gyd yn byw’n hirach, mae ein dibyniaeth ar iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu, sy’n rhoi mwy o straen ar yr adnoddau hynny. Yn anffodus, yn y gorffennol bu diffyg blaengynllunio mewn iechyd a gofal, yn enwedig o ran cynllunio’r gweithlu a diffyg cydweithio rhwng adrannau, sydd wedi golygu diffyg cysylltiad llwyr rhwng gwasanaethau. Rwy’n croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod gan bob gwasanaeth cyhoeddus ran i'w chwarae i wella iechyd a gofal. Bydd sicrhau bod gan rywun oedrannus gawod y mae modd cerdded i mewn iddi ar ôl cael clun newydd yn sicrhau y gall yr unigolyn hwnnw aros yn ei gartref ei hun ac na chaiff ei orfodi i fynd i gartref gofal am ddwy flynedd tra mae’n aros am addasiadau i’w dŷ.
Fel rwyf fi wedi’i ddweud sawl gwaith, ac fel mae Llywodraeth Cymru wedi’i nodi yn eu cynllun, wnaiff yr hen fodelau gofal ddim gweithio yn y dyfodol. Mae'n rhaid inni weithio'n glyfrach. Mae llawer o enghreifftiau gwych o hyn yn digwydd yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol yn lleol. Er enghraifft, gweithiodd bwrdd iechyd lleol Aneurin Bevan ac Ysbyty Athrofaol Cymru gyda mathemategwyr o Brifysgol Caerdydd i wella apwyntiadau. Darganfu'r arbenigwyr mewn damcaniaeth ciwiau y byddent, drwy aildrefnu slotiau theatr, yn gallu osgoi canslo llawdriniaethau. Dyma'r math o beth mae angen ei rannu a'i gyflwyno ledled ein GIG a'r sector gofal cymdeithasol. Mae angen rhannu a datblygu'r arferion gorau. Rwyf felly’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi dewis sefydlu bwrdd trawsnewid cenedlaethol. Rwy’n gobeithio y bydd bwrdd y rhaglen yn helpu i ganfod a meithrin arloesedd a’i gyflwyno'n gyflym i'r holl sector iechyd a gofal.
Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn croesawu’r rhan y bydd technoleg ddigidol yn ei chwarae o ran darparu gofal ac iechyd yn y dyfodol, a bod manteision clir i ddefnyddio mwy o delefeddygaeth, pa drefniadau diogelu a roddir ar waith i sicrhau nad yw cefnu ar ymgynghoriadau wyneb yn wyneb yn arwain at fwy o unigrwydd i’n poblogaeth oedrannus? Bydd symud i system iechyd a gofal fwy digidol yn golygu mwy o fuddsoddi mewn gwybodeg a meddalwedd sy'n gysylltiedig ag iechyd. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych chi neu eich Llywodraeth wedi ystyried y rhan y bydd meddalwedd ffynhonnell agored yn ei chwarae yn y dyfodol? Ac a fyddwch chi'n ymdrechu i leihau dibyniaeth y GIG ar feddalwedd perchnogol? Wedi'r cyfan, os defnyddir arian cyhoeddus i dalu am ddatblygu meddalwedd, oni ddylai'r cyhoedd fod yn berchen ar y drwydded?
Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran mynd i'r afael ag iechyd a gofal fel system gyfan, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau nad yw cleifion o Gymru yn cael eu hatal rhag bod yn rhan lawn o'u hiechyd a'u lles eu hunain o ganlyniad i gysylltedd band eang gwael? Wrth inni symud mwy a mwy o wasanaethau ar-lein, rhaid inni sicrhau nad yw pobl sydd wedi’u heithrio'n ddigidol yn cael eu heithrio o iechyd a gofal. Diolch unwaith eto am eich datganiad, ac rwyf fi a'm plaid yn barod i weithio gyda chi i sicrhau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n addas ar gyfer y dyfodol.