– Senedd Cymru am 5:12 pm ar 12 Mehefin 2018.
Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 3, ac mae'r grŵp yma o welliannau yn ymwneud â chyfyngu ar y cyfleoedd gwneud elw. Gwelliant 6 yw'r prif welliant, a'r unig welliant, yn y grŵp yma. Rydw i'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gynnig y gwelliant a gynigiwyd yn ei enw ef. Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mae'r gwelliant yma yn un sydd wedi ei gynllunio i fynd i'r afael â mater o gonsérn ynglŷn â gweithredu Deddf o'r math yma yng Nghymru, ac y mae o hefyd yn fater a oedd yn dipyn o rwystr i daith deddfwriaeth gyfatebol yn Senedd yr Alban. Yn rhyfedd iawn, mae o'n rhwystr a arweiniodd at Lafur yn y pen draw yn pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth yma. Sôn ydw i am y tebygrwydd y byddai yna elw ychwanegol i gael ei wneud gan fanwerthwyr yn sgil cyflwyno y ddeddfwriaeth yma. Rŵan, nid ydy hynny yn rhywbeth y byddem ni'n dymuno ei weld yn digwydd. Mi gyfeiriaf yn ôl at yr hyn a ddywedais i ar y dechrau: mai trwy drethiant y byddwn ni, mewn gwirionedd, yn dymuno chwilio am ffyrdd i ddefnyddio pris fel arf yn erbyn goryfed. Pe bai trethiant yn cael ei ddefnyddio, mi fyddai'r pwrs cyhoeddus yn elwa yn uniongyrchol o ddeddfwriaeth a fyddai yn amrywio'r pris.
Wrth gwrs, yn y cyd-destun hwn, nid dod ag arian i mewn i Drysorlys Cymru yw'r diben, ond yn hytrach gosod polisi fel arf iechyd cyhoeddus, a pheidio, mewn difri, â delio â'r cwestiwn ariannol sydd yn codi wrth wraidd hyn. Eto, cyfyngiadau ar ein pwerau ni fel Senedd ydy hyn. Rydym ni wedi meddwl a cheisio meddwl am, a chrafu pen, ac ystyried, nifer o ffyrdd y gallem ni sicrhau bod y manwerthwyr a fydd yn gwneud mwy o arian wrth orfod gwerthu alcohol am bris uwch—bod yr arian yna, rywsut, yn cael ei gasglu ac, yn ddelfrydol, o bosib, yn cael ei rannu mewn ffordd a fyddai'n cael ei dargedu at helpu trin goryfed a thaclo alcoholiaeth ac yn y blaen. Nid ydym ni, efo cyfyngiadau deddfwriaethol y lle yma, mewn difri, wedi gallu meddwl am ffordd ymlaen. Mi wnaeth Llafur yn yr Alban, oherwydd eu bod nhw'n anfodlon gweld manwerthwyr yn gwneud mwy o bres, benderfynu yn y pen draw i bleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth, ond dyna fo—yr Alban ydy hynny.
Felly, o fethu â meddwl am fodel a fyddai'n gweithio, beth rydym ni wedi ei wneud drwy'r gwelliant yma ydy ceisio gwneud y ddeddfwriaeth yn fwy parod at y dyfodol, yn y gobaith, mewn difri, y bydd gennym ni bwerau i weithredu yn y dyfodol nad oes gennym ni ar hyn o bryd, er mwyn gwneud yn siŵr, pan fydd y ddeddfwriaeth yma'n cael ei hailystyried yn y dyfodol, ac yn cael ei hadnewyddu ar y machlud yn y dyfodol, fod Gweinidogion Cymru yn cymryd camau, neu o leiaf yn ystyried cymryd camau ar y pwynt hwnnw, i atal proffidio o fewn gwerthiant alcohol. Fel rydw i'n ei ddweud, mi fyddem ni'n dymuno gwneud hyn rŵan. Allwn ni ddim, ond drwy gefnogi'r gwelliant hwn, mi allwn ni wneud yn siŵr, o leiaf, fod yr ystyriaeth yn cael ei rhoi i hyn unwaith eto pan mae'r cyfle yn dod o'n blaenau ni adeg y machlud.
Ni fyddwn ni'n cefnogi gwelliant 6. Rydym ni'n teimlo bod y derminoleg yn oddrychol iawn ac yn anaddas ar gyfer wyneb y Bil. Nododd Ysgrifennydd y Cabinet yng Nghyfnod 2 bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gweithio gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru ar y mater hwn ac yn aros am dystiolaeth benodol i Gymru i nodi'r effaith y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei chael ar iechyd y cyhoedd ac elw busnes, ac rydym yn hapus i aros am y dadansoddiad hwnnw.
Rydych chi yn llygad eich lle, Rhun ap Iorwerth: efallai'n wir y bydd elw ychwanegol i fanwerthwyr. Efallai hefyd y bydd costau ychwanegol i fanwerthwyr. Efallai hefyd fod yna ffyrdd gwahanol o allu ystyried hyn yn ei gyfanrwydd a dod ag arian yn ôl i'r pwrs cyhoeddus i helpu i dalu costau'r Bil hwn neu, yn wir, i gefnogi yr hyn yr hoffwn ei weld yn cael eu cefnogi, sef canolfannau triniaeth ar gyfer alcohol a chyffuriau. Felly, ni fyddwn yn bwrw ymlaen â hyn. Mae gennym bryder y bydd i'r ddeddfwriaeth hon efallai ganlyniadau anfwriadol, ond fe ddylai'r monitro sydd ar waith gan Lywodraeth Cymru ymdrin â phryderon o'r fath.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet, Vaughan Gething.
Diolch ichi, Llywydd. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod fy mod i'n deall yr hyn sy'n ysgogi'r gwelliant, ac rwy'n deall yr ewyllys da sy'n bodoli ar draws amryw o bwyllgorau i geisio gwneud yn siŵr nad yw manwerthwyr yn ceisio gwneud elw gormodol yn sgil cyflwyno isafbris uned. Fodd bynnag, ni fydd y Llywodraeth yn gallu cefnogi'r gwelliant sydd ger ein bron heddiw. Mae'n werth dechrau â phenderfyniad y Goruchaf Lys, a wnaeth, wrth gydnabod nad oedd Bil yr Alban o fewn ei gymhwysedd, gydnabod hefyd fod y drefn isafbris uned yn newydd ac yn arloesol, a bod yna ansicrwydd a gydnabyddir gan amrywiaeth o bobl am unrhyw gynnydd posibl mewn refeniw i fanwerthwyr a lle yn y gadwyn cyflenwi y gallai'r cynnydd hwnnw mewn refeniw ymddangos. Ond mae hefyd yn her rannol, oherwydd rydym yn gobeithio gweld rhywfaint o arloesi gan y diwydiant mewn ymateb i'r Bil. Er enghraifft, un canlyniad posibl fyddai ein bod yn gweld mwy o gynhyrchwyr yn mynd yn ôl at gael amrywiaeth o gynhyrchion â'r cynnwys alcohol ychydig yn wannach. Felly, efallai nad yw'n briodol deddfu ar y mater hwn cyn yr adeg honno. Ond yn fwy na hynny, mae'n rhaid i mi fynd yn ôl i atgoffa'r Aelodau am fy sylwadau cychwynnol.
Mae hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Yr hyn y mae'r gwelliant hwn yn ceisio ei wneud yw, yn ei hanfod, bod â ffordd o ystyried gweithrediad busnes amrywiaeth o fanwerthwyr alcohol, a chymryd yr hyn y mae'n rhaid iddynt fod yn gamau ariannol i fod yn effeithiol, byddech chi'n tybio, drwy gyflwyno math o ardoll orfodol. Y risg yn y fan honno, yn fy marn i, yw y byddai hynny'n gwarantu her i gymhwysedd y Bil. Gofynnir inni fel Cynulliad ystyried y polisi, a'r sail iechyd y cyhoedd sy'n rhoi'r cymhwysedd i ni ei basio, a dydw i ddim yn dymuno gweld y buddion iechyd posibl yr ydym ni'n credu a ddaw yn sgil cyflwyno'r darn hwn o ddeddfwriaeth, yn cael eu hoedi gan ragor o achosion llys.
Nid yn unig hynny, ychwaith—rwy'n credu bod angen inni ystyried geiriad y gwelliant ei hun, wrth iddo sôn am lesteirio'r gallu i wneud elw. Nid yw'n nodi sut y dylai Gweinidogion Cymru ymdrin â hynny. Byddai her, felly, ynghylch sut y byddai'n cyflwyno rheoleiddiadau effeithiol i wneud hynny, pe byddai yna dystiolaeth bod manwerthwyr alcohol mewn gwahanol sectorau wedi gwneud hynny. Y broblem arall, wrth gwrs yw—. Cawsom welliant cynharach yn sôn am bwysigrwydd y sector tafarndai a'r realiti y gallai hyn mewn gwirionedd olygu bod y sector tafarndai yn gwneud mwy o elw o ganlyniad i gyflwyno isafbris uned. Nid yw'r gwelliant sydd ger ein bron yn dweud pa fanwerthwyr y dylem ni eu hatal rhag gwneud elw ychwanegol; mae'n sôn am werthwyr alcohol, a fyddai'n cynnwys y sector tafarndai hefyd. Os yw Aelodau yn dymuno ceisio darparu ffordd o fynd ar ôl elfen benodol o fanwerthwyr alcohol yn unig, yna byddai angen gwelliant wedi'i ddrafftio mewn ffordd wahanol arnoch chi i wneud hynny. Dydy hwn, yn syml, ddim yn gwneud hynny. Bydd pob un manwerthwr alcohol a gaiff ei gynnwys yn cael ei gynnwys gan y gwelliant sydd ger ein bron, ac nid wyf yn credu mai dyna yw bwriad Rhun ap Iorwerth wrth gynnig y gwelliant.
Yr hyn yr wyf i eisiau ei ailadrodd i'r Aelodau ar draws y pleidiau yw bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymgysylltu â'r diwydiant, fel y mae Angela Burns wedi cydnabod, wrth gynnal trafodaeth am y potensial ar gyfer gweithredu gwirfoddol, deall lle y mae elw wedi'i wneud a deall lle y mae gan y manwerthwyr hynny gyfrifoldeb parhaus i weithredu. Credaf hefyd y bydd hwn yn faes lle y bydd gwahanol fanwerthwyr eisiau gwneud dewisiadau cadarnhaol a rhagweledol ynghylch y ffordd y maen nhw'n gweithredu yn y maes penodol hwn.
Felly, rwy'n cydnabod yr angen i'r Llywodraeth barhau i adrodd yn ôl i'r Cynulliad drwy bwyllgor ar y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda manwerthwyr alcohol, yn enwedig drwy'r consortiwm manwerthu, ond gofynnaf i'r Aelodau, o gofio'r heriau ynghylch cymhwysedd, fod canlyniadau anuniongyrchol ac, rwy'n siŵr, anfwriadol i rai manwerthwyr alcohol, gan gynnwys tafarndai, a gofynnaf i'r Aelodau beidio â chefnogi'r gwelliant sydd ger ein bron, ond i fod â ffydd y bydd y Llywodraeth yn parhau i adrodd yn ôl ar y potensial ar gyfer cyfraniad gwirfoddol.
Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn am eich ymatebion chi a’ch sylwadau chi ar y gwelliant yma. Rydw i'n meddwl, yn fy sylwadau agoriadol, beth ddywedais a oedd ein bod ni mewn difrif wedi methu â chyflawni’r hyn yr oeddem ni wirioneddol eisiau ei wneud yn fan hyn, ond roeddem ni yn credu ei bod hi’n bwysig iawn cyflwyno gwelliant a fyddai’n trio cadw’r mater yma yn fyw at y dyfodol. Nid oedd yn fy synnu, mewn ffordd, eich bod chi, fel pleidiau eraill, yn gallu ffeindio gwendidau yn y ffordd y gwnaethom ni gyflwyno’r gwelliant yma oherwydd bod hwn yn fater nad yw’n hawdd ffeindio datrysiad iddo fo. Serch hynny, mi awn ni i bleidlais, ac mi nodwn ni yn y bleidlais honno, fel plaid, pa mor benderfynol ydym ni o gadw’r pwysau am chwilio am broses a fydd yn y dyfodol, efo pwerau ychwanegol yn dod i’r lle yma, gobeithio, lle gallwn ni dynnu arian i mewn i'r Trysorlys Cymreig i’w wario ar fesurau iechyd a brwydro goryfed ac alcoholiaeth.
Ac mi wnaf i hefyd nodi fy ngwerthfawrogiad bod yr Ysgrifennydd Cabinet yntau yn gweld budd mewn ceisio hawlio’r arian yma nôl. Y ffordd y mae o’n dymuno edrych i mewn iddo fo ydy datblygu rhyw fath o levy wirfoddol. Mi chwaraewn ni, rydw i'n siŵr, ein rhan mewn sgrwtineiddio'r math yna o levy wrth iddi gael ei datblygu. Ond, yn sicr, rydym ni’n gwybod y bydd yna broffidio, bydd yna elwa ychwanegol yn sgil y Mesur yma os daw yn Ddeddf, ac mae angen defnyddio pob cyfle i sicrhau nad i bocedi archfarchnadoedd mawr y mae’r arian yna’n mynd. Ac os oes modd tynnu’r arian hwnnw i’w wario ar fentrau i wella iechyd ein cenedl ni, yna y dylid chwilio am ffyrdd o sicrhau hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Symudwn i bleidlais electronig ar welliant 6. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 7, pedwar yn ymatal, 39 yn erbyn. Ac felly gwrthodwyd gwelliant 6.
Angela Burns, gwelliant 3.
Ni chynigir.
Ac felly, gyda chydsyniad y Cynulliad, wnawn ni ddim cymryd y gwelliant hwnnw, os nad oes unrhyw un yn gwrthwynebu i'r ffaith nad yw e'n cael ei symud.