Part of the debate – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 13 Mehefin 2018.
Un o'r meysydd allweddol a ystyriwyd gennym fel rhan o'n hymchwiliad oedd achosion cysgu ar y stryd. Mae'r rhain yn eang ac yn cynnwys cyfuniad o ffactorau personol a strwythurol. Rydym wedi canolbwyntio ar ddau brif achos strwythurol: diwygio lles a diffyg tai fforddiadwy. Mae newidiadau i hawliau i fudd-daliadau, y cynnydd yn y cosbau a chyflwyno credyd cynhwysol yn cael effaith ddifrifol ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, gan gael gwared i raddau helaeth ar y rhwyd ddiogelwch sydd ar gael i'r rhai sydd mewn perygl o ddechau cysgu ar y stryd. Mae'n destun pryder fod yr effaith lawn eto i'w theimlo yng Nghymru.
Clywsom y gallai darparu mwy o hyblygrwydd gyda thaliadau leihau'r perygl o droi allan sy'n deillio o ôl-ddyledion rhent, a galwasom ar Lywodraeth Cymru i ofyn am y pŵer angenrheidiol. Gwrthodwyd y cais ar y sail fod hyblygrwydd o'r fath eisoes yn bodoli, ac eto, nid yw'n ymddangos bod sefydliadau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu gwasanaethau i'r digartref yn gwybod am yr opsiynau talu hyn. Felly, heddiw, rwy'n gofyn: a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i godi ymwybyddiaeth gyda'r sector tai a digartrefedd, a chyda gwasanaethau cyngor ariannol y trydydd sector, fel mater o flaenoriaeth?
Yn ogystal â phrinder tai fforddiadwy, clywsom hefyd fod problemau iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â chamddefnyddio sylweddau, yn gyffredin ymhlith pobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae gan lawer ohonynt anghenion cymorth lluosog a chymhleth na chânt eu datrys drwy eu helpu i ddod o hyd i lety yn unig, er mor bwysig yw hynny. Felly, mae cydweithio rhwng y sector tai a'r sector iechyd yn hanfodol. Heb hynny, mae yna berygl gwirioneddol y bydd symud i fodel tai yn gyntaf yn methu darparu'r canlyniadau a welwyd mewn mannau eraill.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad 17, yn galw am rannu cyfrifoldeb dros weithredu ei chynllun gweithredu ar y cyd rhwng y Gweinidog Tai ac Adfywio ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n dweud hefyd fod y Gweinidog yn arwain ar weithredu, ond y bydd yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n ymddangos y byddai hyn yn llai na'r hyn y credwn ei fod yn angenrheidiol, a hoffem eglurhad ar hynny heddiw.
Ddirprwy Lywydd, mae yna obeithion mawr ar draws y sector digartrefedd y bydd mabwysiadu'r model tai yn gyntaf yn eang yn sicrhau newid gwerthfawr. Fodd bynnag, mynegodd academyddion amheuon cryf ynglŷn â defnyddio'r model ymgynnull, sy'n cael ei gynnwys fel opsiwn yn arweiniad y Llywodraeth. Rydym yn ceisio sicrwydd pellach gan y Gweinidog ar y pwynt hwn, ac yn benodol, ar y pryder ynghylch unrhyw ddefnydd o hosteli wedi'u haddasu.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, roedd dyfodol grant y rhaglen Cefnogi Pobl yn cael sylw amlwg yn y dystiolaeth a gawsom gan y rhai sy'n ymwneud â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau i'r gymuned ddigartref. Maent yn dal yn bryderus iawn ynghylch yr argymhelliad arfaethedig i uno'r grant a'r effaith ar gysgu ar y stryd. Gyda'r cylch cyllidebol nesaf ychydig fisoedd i ffwrdd, rydym yn ailadrodd yr angen i'r Llywodraeth osod amserlen ar gyfer cyhoeddi canfyddiadau'r cynlluniau braenaru ariannu hyblyg a rhoi syniad pendant o ba bryd y gwneir penderfyniad terfynol. A all y Gweinidog ei gwneud yn eglur y bydd canfyddiadau'r cynlluniau braenaru ar gael cyn y cylch cyllidebol nesaf?
Ddirprwy Lywydd, nid ydym eisiau ailadrodd ein galwadau am weithredu mwy pendant yn dilyn cyhoeddi'r cyfrif o bobl sy'n cysgu ar y stryd ar gyfer 2019. Ond gadewch i mi fod yn glir: nid ymwneud â niferoedd, ystadegau neu dueddiadau y mae hyn. Mae'n ymwneud â gwella bywydau cannoedd o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn ein cymunedau. Mae'n ymwneud â chost ddynol anfesuradwy cysgu ar y stryd. Mae'n sicrhau bod pobl sy'n byw ar y strydoedd yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu, y cartref sydd ei angen arnynt a'r cyfle i fyw, yn hytrach na dim ond bodoli.