Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 13 Mehefin 2018.
Rwy'n falch o gael cyfrannu at y ddadl hon, ar ôl ymchwiliad sy'n agoriad llygad i gysgu ar y stryd gan ein pwyllgor. Mae'r amcangyfrif bod 300 o bobl yn cysgu ar y stryd ledled Cymru yn un sy'n peri pryder, a gwn fod nifer o drefi a dinasoedd yn enwedig wedi gweld cynnydd amlwg yn eu poblogaethau sy'n cysgu ar y stryd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, gydag astudiaethau'n dangos cynnydd o rhwng 10 a 33 y cant dros y 12 mis diwethaf yn unig.
Mae'r gwaith a wnaed yn Lloegr, gan gynnwys cyflwyno Deddf Lleihau Digartrefedd 2017 yn gynharach eleni, yn ategu nod Llywodraeth y DU o haneru'r nifer sy'n cysgu ar y stryd erbyn 2022, a'i ddileu'n gyfan gwbl erbyn 2027—targedau sydd wedi bod yn hollol eglur. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau heddiw a oes gan Lywodraeth Cymru ddyddiad targed penodol mewn golwg, yn ogystal â'r cynllun gweithredu dwy flynedd ar gysgu ar y stryd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ar gyfer dileu cysgu ar y stryd yng Nghymru. Yn sicr, roedd ein hymchwiliad yn amlygu'r angen am uchelgais o'r fath, ac roedd yn siomedig nodi bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais y pwyllgor am weld yr adroddiad chwarterol ar y cynllun gweithredu ar gysgu ar y stryd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y gall aelodau etholedig, sefydliadau'r trydydd sector a'r cyhoedd graffu'n llawn ar gynnydd yn y mater hwn heb ddata o'r fath.
Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi nifer yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn. Rhaid i mi ddweud, er hynny, nad wyf yn cefnogi nifer ohonynt mewn perthynas ag angen blaenoriaethol, gan nad wyf yn teimlo y dylid newid y model presennol o angen blaenoriaethol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Roeddwn yn rhan o'r Cynulliad hwn cyn hynny, pan ddaeth llawer o dystiolaeth gerbron y diweddar Ysgrifennydd y Cabinet, pan oedd hyn ar y gweill, ac rwy'n credu bod y rhesymau sylfaenol dros y statws angen blaenoriaethol hwnnw yn dal yno. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi cychwyn asesiad annibynnol o angen blaenoriaethol, ac rwy'n disgwyl yn eiddgar i weld canfyddiadau'r asesiad hwn. Yn y pen draw, wrth gwrs, hoffem fod mewn sefyllfa lle nad oes angen inni gael y dosbarthiad angen blaenoriaethol, wrth inni gyrraedd sefyllfa lle y gallwn roi cartref i bawb sydd mewn angen mewn man addas.
Nodaf fwriad Llywodraeth Cymru i gyflwyno dyletswydd i ddarparu cynnig o lety addas i bawb sy'n ddigartref. Nododd rhai ymatebwyr bryderon ariannol i awdurdodau lleol mewn perthynas ag awgrymiadau ar gyfer diddymu angen blaenoriaethol. Felly, hoffwn ofyn am sicrwydd y byddai dynodi dyletswydd o'r fath yn cael ei gefnogi gan gyllid a chefnogaeth briodol er mwyn i awdurdodau lleol allu cyflawni hyn yn effeithiol. Yn fy etholaeth i, gwn ein bod wedi llwyddo i ailgartrefu pobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd, ond yn anffodus, heb rwydwaith o gymorth i'w cynnal drwy gydol y broses, nid yw bob amser wedi gweithio, ac maent yn ôl ar y strydoedd. Felly, credaf fod angen inni edrych ar hyn yn ei gyfanrwydd.
Fwyfwy dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf wedi clywed gan bobl sy'n ddigartref neu mewn perygl mawr o fynd yn ddigartref. Mae'r tîm digartrefedd lleol yn gwneud gwaith gwych pan fydd rhywun yn cysylltu â hwy, ond mae pobl yn cael trafferth gyda'r cysylltiad cychwynnol hwnnw, a gwybod ble i fynd. Yn sicr, mae yna gryn dipyn o ffordd i fynd cyn y gellir trechu digartrefedd yng Nghymru, gwella hygyrchedd timau digartrefedd o fewn awdurdodau lleol, a dod o hyd i adnoddau ariannol priodol ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny.
Rwy'n cytuno'n llwyr fod angen cefnogi ein pobl ddigartref, y rhai sy'n cysgu ar y stryd, ond credaf yn gryf fod angen i Lywodraeth Cymru a'n hawdurdodau lleol weithio gyda'i gilydd mewn partneriaeth gref a chadarn, ac mae angen iddo fod yn rhan o raglen fonitro barhaol. Diolch.