Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 13 Mehefin 2018.
Diolch i chi am drefnu'r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i bawb o'r tîm sy'n cefnogi'r pwyllgor yn ogystal, oherwydd credaf fod hwn yn waith pwysig iawn. A hoffwn gofnodi mai'r hyn a oedd fwyaf gwerthfawr yn fy marn i oedd siarad â phobl mewn amryw o leoliadau yr ymwelwyd â hwy—pobl ddigartref a allai roi eu profiad o fywyd bob dydd ar y strydoedd i ni. Nid oes unrhyw beth yn fwy gwerthfawr i mi na chlywed sut y mae pobl yn brwydro i oroesi, a sut y gallwn ni fel gwleidyddion newid hynny, os oes gennym ewyllys i wneud hynny. Credaf fod eu huodledd wrth gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn yn aruthrol, a hoffwn ddiolch o galon iddynt am hynny.
Cafwyd gwahanol safbwyntiau ynglŷn â rhoi angen blaenoriaethol i rai a gysgai ar y stryd ai peidio, fel y gwelwyd, gyda rhai cynghorau'n nodi y byddent yn categoreiddio'r rhai sy'n cysgu ar y stryd fel rhai ag angen blaenoriaethol a sefydliadau eraill, megis Shelter, yn dweud, yn ymarferol, nad oedd hyn bob amser yn wir. Roedd y prawf Pereira'n gysylltiedig â hyn wrth gwrs, prawf sy'n achosi problemau gan nad yw ystyr 'agored i niwed' yn cael ei ddehongli yn yr un ffordd neu'n cael ei gymhwyso'n gyson.
Hoffwn gofnodi hefyd fy mod yn siomedig i weld nad oedd Janet Finch-Saunders yn cefnogi'r argymhelliad hwn. Yn bersonol buaswn wedi credu y byddai'r Ceidwadwyr wedi cefnogi'r cysyniad y dylai'r rhai sy'n byw ar y stryd fod yn flaenoriaeth ar gyfer cael to dros eu pennau. Rydym wedi ceisio bodloni Aelodau yn yr adroddiad, a gallaf ddyfynnu paragraff 64, sy'n dweud,
'credwn mai dull fesul cam i ddiddymu yw’r ffordd fwyaf pragmatig ymlaen. Er enghraifft, drwy gyflwyno categorïau newydd o angen blaenoriaethol, fel pobl sy’n cysgu ar y stryd'
Felly, os yw hi'n poeni cymaint ag y mae'n dweud ei bod, buaswn wedi meddwl y byddai dull fesul cam yn ddigon yn hynny o beth. Nid ydym yn awgrymu y gellid ei wneud dros nos. Gwyddom y byddai goblygiadau ariannol, ond credaf fod angen ei wneud ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn cael eu diffinio fel rhai nad ydynt yn flaenoriaeth—dynion ifanc yn bennaf—pan ddylent fod yr un mor bwysig â phobl eraill sy'n ddigartref.
Byddech yn disgwyl imi sôn am argymhelliad 10—datganoli gweinyddu lles—ac roeddwn yn falch ein bod wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, i raddau, ar hyn. Rydym wedi bod yn gwbl glir ar hyn: mae'n ddigon hawdd i wleidyddion feirniadu newidiadau lles fel un o achosion sylfaenol tlodi yn y gymdeithas, ond pan nad oes unrhyw barodrwydd i hyd yn oed geisio ennill rheolaeth dros rai o'r pwerau lles hynny, mae'n tanseilio hygrededd y ddadl yn gyfan gwbl. A ydym eisiau cwyno am newidiadau lles neu a ydym eisiau dylanwadu arnynt a'u newid? Gadewch inni beidio â chael geiriau gwag am undod ar draws y DU mewn perthynas â'n system les ychwaith—mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon bwerau eisoes dros weinyddu lles. Mae'r awydd i weld system les unedig, ledled y DU yn ddadl sydd eisoes wedi mynd heibio. Barn semantig ydyw nad yw'n gwneud dim i helpu pobl yng Nghymru sy'n byw ar y stryd neu mewn unrhyw anhawster arall. Felly, rwy'n gobeithio y gallwn symud ymlaen â'r ddadl hon ac y gallwn edrych ar hyn ymhellach fel pwyllgor. Ymddengys bod y pwyllgor yn gweithio mewn modd cadarnhaol; o na bai Llywodraeth Cymru yn gwrando ar y llais hwnnw mor astud ag y gobeithiem y byddai'n ei wneud.
Mewn perthynas â thai yn gyntaf, credaf ei bod hi'n dda iawn ein bod wedi gosod ein stondin drwy ddweud pa mor bwysig yw tai yn gyntaf. Ond cefais sgwrs Twitter yr wythnos hon gyda Peter Black, cyn Aelod Cynulliad, sy'n arwain y gweithgor digartrefedd ar gyngor Abertawe, ac mae ef wedi bod yn gofyn i Fwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg ers misoedd i fynd i mewn i siarad ag ef ynglŷn â thai yn gyntaf a sut y gallant weithio gyda'i gilydd ar hyn. Ac oherwydd ein bod wedi cael y sgwrs hon ar Twitter, rwy'n credu, yn sydyn fe ddywedodd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg y byddent yn dod i'r cyfarfod i drafod tai yn gyntaf. Ni ddylai gymryd dau wleidydd yn cael dadl fyw ar y cyfryngau cymdeithasol i Abertawe Bro Morgannwg sylweddoli'n sydyn fod tai yn gyntaf yn rhan o'u problem, neu nid problem, ond yn rhan o'r ateb i ddigartrefedd yma yng Nghymru. Credaf fod tai yn gyntaf yn gysyniad gwych, ond rhaid inni gael cefnogaeth, nid yn unig gan y sector tai, ond o'r maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, fel y gallwn wneud i dai yn gyntaf weithio. Os yw hyn yn mynd i fod yn rhan o'r dyfodol ym maes tai ac atal digartrefedd yma yng Nghymru, buaswn yn annog y Gweinidog i wneud yn siŵr ein bod o ddifrif, felly, ynglŷn â chael pobl o amgylch y bwrdd.
I orffen yn gyflym mewn perthynas â rhai o'r sylwadau. Mae The Big Issue wedi nodi mewn tystiolaeth fod cyfran fawr o'u gwerthwyr yn ddinasyddion yr ardal economaidd Ewropeaidd heb allu i ofyn am arian cyhoeddus, ac unwaith eto, dyma rywbeth nad yw wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ond mae canlyniadau'r polisi hwn a'r awyrgylch gelyniaethus o du Llywodraeth y DU yn rhywbeth y dylai pob un ohonom bryderu yn ei gylch.
Mae angen inni ddatrys rhai o'r problemau cyfredol sy'n ymwneud â pharodrwydd landlordiaid y sector rhentu cymdeithasol a phreifat i gynnig lleoedd i bobl ddigartref a phobl sy'n cysgu ar y stryd. Roedd tystiolaeth yn yr adroddiad yn dangos nad oedd llawer o landlordiaid cymdeithasol yn teimlo eu bod wedi'u paratoi ar gyfer helpu pobl sy'n cysgu ar y stryd neu rai sydd â rhai o'r problemau sy'n codi yn aml o ganlyniad i fod ar y strydoedd. Mae'n fwy na thebyg y gallwn siarad drwy'r dydd ar y mater hwn, ond ni wnaf hynny—mae fy amser ar ben—ond mae'n bwysig iawn ein bod yn cyflwyno'r argymhellion hyn a'n bod yn sicrhau y gall digartrefedd ddod i ben yma yng Nghymru, a chredaf fod yr adroddiad pwyllgor hwn wedi gwneud llawer iawn i roi hyn ar y map gwleidyddol.