Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 13 Mehefin 2018.
A wnaiff y Gweinidog ildio? Roedd hi'n ddiddorol clywed y Gweinidog yn sôn am gysylltiad lleol, a hefyd y ffaith bod y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd wedi codi, oherwydd yng Nghaerdydd, ers 2014, credaf fod nifer y rheini sy'n cysgu ar y stryd wedi dyblu, ac yn amlwg mae mater cysylltiad lleol yn codi gyda nifer fach o'r bobl hynny. A yw'n credu, weithiau, fod pennu o ble y mae'r unigolyn wedi dod yn eu hatal rhag cael y cymorth gorau?