– Senedd Cymru am 5:11 pm ar 19 Mehefin 2018.
Eitem 7 yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018, a galwaf ar Gweinidog yr Amgylchedd i gyflwyno'r rheoliadau—Hannah Blythyn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Y rheoliadau a roddwyd gerbron y Cynulliad ar gyfer eich ystyriaeth heddiw yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018. Cyflwynwyd y rheoliadau hyn o dan bwerau a gynhwysir yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Chosbau 2008. O dan y rheoliadau hyn bydd yn drosedd yng Nghymru, o 30 Mehefin 2018 ymlaen, i unrhyw un weithgynhyrchu unrhyw gynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n defnyddio microbelenni plastig yn gynhwysion. Bydd hefyd yn drosedd yng Nghymru o'r dyddiad hwnnw i gyflenwi neu gynnig cyflenwi unrhyw gynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig.
Awdurdodau lleol Cymru fydd yn gyfrifol am orfodi'r rheoliadau hyn, a bydd y swyddogaeth orfodi hon yn cael ei gweithredu'n unol â'r canllawiau a gyhoeddwyd. Mae'r rheoliadau hyn yn cyflwyno cyfundrefn orfodi sy'n cynnwys cosbau sifil a throseddol, megis cosbau ariannol amrywiol, hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau stop. Mae cosbau sifil yn cynnig hyblygrwydd ac yn caniatáu i awdurdodau lleol, wrth orfodi'r gwaharddiad, wahaniaethu rhwng y rhai sy'n ymdrechu i gydymffurfio a'r rhai sy'n anwybyddu'r gyfraith. Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu i unrhyw un sydd wedi cael cosb sifil i apelio i'r tribiwnlys haen gyntaf.
Cefais gyfarfod â rhanddeiliaid morol ar 7 Mehefin, ac fe wnaethon nhw bwysleisio pa mor bwysig yw'r gwaharddiad hwn, a thrwy ein hymgynghoriad cyhoeddus, cafodd y gwaharddiad hwn gefnogaeth eang. Dirprwy Lywydd, rwy'n cymeradwyo'r rheoliadau hyn i'r Cynulliad Cenedlaethol.
A gaf i ddweud ein bod yn awyddus iawn i gefnogi'r rheoliadau hyn sy'n gwahardd microbelenni o gynhyrchion hylendid personol. Mae'r rheoliadau hyn wedi'u pasio eisoes, ac yn wir y maen nhw'n dod i rym heddiw yn Lloegr ac yn yr Alban. Felly, rydym ni'n falch o weld Llywodraeth Cymru yn gweithredu yn yr un modd. Felly, o leiaf, yn y DU, bydd gennym ymagwedd gyson.
Rwy'n credu bod hwn yn gam sylweddol i'w groesawu, ond dim ond y cam cyntaf ydyw. Mae angen newid mewn polisi cyhoeddus ynghylch defnydd cyfrifol o gynhyrchion plastig a gwahardd cynhyrchion plastig untro. Mae cyflwr ein cyrsiau dŵr: clywsom dystiolaeth yn y pwyllgor newid yn yr hinsawdd dim ond ychydig wythnosau'n ôl, gan academydd blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd, am lefel llygredd plastig sydd bellach yn cael ei gofnodi mewn samplau o afonydd Cymru, ac sydd yn y pen draw yn gwneud ei ffordd i mewn i anifeiliaid. O safbwynt ein moroedd, mae faint o ddeunydd plastig sy'n mynd i mewn—ac mae llawer ohono'n mynd i mewn wrth i ni olchi cynhyrchion oddi ar y corff, a golchi ffibrau o ddillad hefyd—mae gwaith mawr i'w wneud, ond, wrth gwrs, mae pob taith o bwys angen y cam cyntaf. Rwyf yn credu mai un o'r newidiadau mwyaf rhyfeddol yn y blynyddoedd diwethaf yw sut y mae'r cyhoedd wir yn ein gwthio ni erbyn hyn, ac mae'n rhaid inni ddefnyddio ein dychymyg wrth ddefnyddio rheoliadau a newidiadau i'r gyfraith i sicrhau yr amgylchedd o ansawdd y mae pobl yn ei haeddu ac mae cenedlaethau'r dyfodol yn ei haeddu. Felly, rydym ni'n awyddus i gefnogi rheoliadau heddiw.
Bydd Plaid Cymru hefyd yn cefnogi'r rheoliadau hyn heddiw. Mae'n bwysig i ddweud, serch hynny, ein bod ni o'r farn y dylid mynd ymhellach ynglyn â rheoli plastig o bob math—micro a macro. Dyma'r rheoliadau sydd, fel sydd wedi cael ei amlinellu, yn ymwneud â deunyddiau sy'n cael eu golchi i ffwrdd o'r corff, a'u defnyddio ar gyfer glendid personol, ond mae hynny yn gadael nifer o bethau—mae eli haul, er enghraifft, yn rhywbeth efallai y bydd modd o hyd iddo gynnwys y microbelenni yma. Mae wedi ei amcangyfrif bod yna rhwng 4,000 a 7,500 o dunellau o'r microblastigau yma yn cael eu defnyddio bob blwyddyn yn Ewrop, yn yr Undeb Ewropeaidd. Felly, mae yn dasg i fynd i'r afael â'r plastig yma—tasg sydd yn dechrau gyda rheoliadau fel hyn ond, yn fy marn i, sydd yn gorfod cynnwys gwaharddiad ehangach ar microblastigau, gan gynnwys rhai sydd mewn deunyddiau glanhau o gwmpas y tŷ, ac ati. Rydym ni'n dal i bwyso am lefi ar ddefnydd o blastig un defnydd, ac wrth gwrs mae'r posibiliad am gynllun ernes ar boteli yn rhywbeth i'w groesawu hefyd.
Mi wnes i ddoe ymweld â siop arall—mae yna nifer o siopau diblastig yn datblygu dros Gymru nawr, sydd yn dangos bod y cyhoedd o flaen y gwleidyddion, mewn ffordd, achos os yw busnesau yn mynd ar ôl y cwsmeriaid, mae'n amlwg bod pobl yn mynegi diddordeb mewn hyn. Mae'r siop yma, La Vida Verde, yn Llandrindod, lle mae ganddyn nhw yr hen boteli pop gyda 30c o ernes arnyn nhw—blaendal. Felly, fe gewch chi 30c yn ôl am fynd â'r pop yn ôl, sydd ddim yn ddigon o chwyddiant yn fy marn i. Rydw i'n credu yr oedd 5c ar gael pan oeddwn i'n chwilio'r gwlis am y poteli pop yma. Ond mae'n dangos bod pobl yn barod ar gyfer hyn.
Mae hefyd yn wir i ddweud, er bod gennym ni ailgylchu da yng Nghymru, dim ond 44 y cant o'r 35 miliwn o boteli plastig sy'n cael eu prynu bob dydd—bob dydd; mae hynny bron yn un botel blastig i bob oedolyn—dim ond 44 y cant o'r rheini sy'n eu hailgylchu, ac mae modd defnyddio cynllun blaendal i gynyddu'r ailgylchu i bron 80 y cant yn y maes yma. Felly, rydym ni'n edrych ymlaen at glywed mwy am y drafodaeth sydd rhwng y Llywodraeth fan hyn a Llywodraeth San Steffan ynglŷn â chyflwyno cynllun o'r math.
Fe soniodd David Melding am yr ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd am y microblastigau sydd yn yr amgylchedd—ymchwil syfrdanol, a dweud y gwir. Rydw i jest eisiau dyfynnu ychydig o hynny. Fe glywon ni gan yr Athro Steve Ormerod am ymchwil ar yr afon Irwell, sydd ym Manceinion, lle canfuwyd 0.5 miliwn o ddarnau microblastig fesul metr sgwâr. Fesul metr sgwâr, 0.5 miliwn. Mae ymchwil pellach wedyn yng Nghaerdydd ac yn yr afon Taf sydd yn dangos bod microblastigau yn mynd i mewn i'r gadwyn fwyd ac yn ymbresenoli mewn adar wedi'u dodwy gan wyau—wyau wedi'u dodwy gan adar, dylwn i ddweud.
Pa un ddaeth gyntaf, y cyw iâr ynteu'r wy?
Gwnes i bron ateb y cwestiwn yn fanna. Na, yr wyau sydd wedi'u dodwy gan adar, sydd yn dangos bod gyda ni yng Nghymru'r lefel uchaf o microblastigau yn yr wyau eu hunain—rydym ni'n sôn am blastig bach, bach, bach, wrth gwrs, fan hyn—yn yr wyau eu hunain yng ngorllewin Ewrop. Mae jest yn dangos bod hwn bellach yn treiddio drwy'n systemau dŵr ni, yn treiddio drwy'r gadwyn fwyd, ac yn cael effaith, achos bob tro mae'r microblastig yn teithio, wrth gwrs, mae'n gallu cario llygredd, afiechyd, germau, mae'n gallu cario pob math o bethau gyda fe, ac wedyn ymbresenoli ynom ni a'r bywyd gwyllt, ac ati.
Rydw i'n deall bod y rheoliadau yn ymwneud â microbelenni—rhywbeth rydym ni'n benodol yn ei roi mewn cynnyrch—ac mae lot o'r ymchwil yma yn sôn am y microblastigau sydd yn deillio o blastig sydd yn torri lawr a thorri lawr ac yn treulio i lawr i faint bach iawn, ond mae'n wir i ddweud bod yn rhaid i ni fynd i'r afael ym mhob ffordd bosib â'r plastig di-angen—a dyna beth sy'n bwysig, di-angen, yn yr ystyr yma. Mae modd cadw eich hunain yn lân heb blastig. Rydw i'n credu bod y neges yna yn mynd yn gryf iawn wrth basio'r rheoliadau yma y prynhawn yma.
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd i ymateb i'r ddadl.
Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i David Melding a Simon Thomas am eu cyfraniadau i'r ddadl hon, ac am y gefnogaeth a ddangoswyd o bob rhan o'r Siambr i'r gwaharddiad ar ficrobelenni. Bwriad y gwaharddiad yw gwarchod yr amgylchedd morol rhag mwy o lygredd, meithrin hyder defnyddwyr yn y cynnyrch y maen nhw'n ei brynu, sicrhau na fydd niwed i'r amgylchedd, a chefnogi busnesau drwy sicrhau bod yr amodau yr un fath i bawb.
Ar 5 Mehefin, yn uwchgynhadledd Volvo Ocean, roeddwn yn falch o lofnodi Addewid Moroedd Glân y Cenhedloedd Unedig ynghylch plastig ar ran Llywodraeth Cymru. Mae cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon sy'n gwahardd microbelenni yn cefnogi'r addewid hwn ac mae'n rhan o becyn ehangach o gamau gweithredu sydd eisoes ar waith gan Lywodraeth Cymru, a thrwy weithio mewn partneriaeth, i leihau lefelau llygredd plastig sy'n mynd i mewn i'n moroedd a'n cefnforoedd.
Roedd David Melding a Simon Thomas yn hollol iawn i nodi, wrth inni groesawu'r ddeddfwriaeth hon, mai dim ond un cam ar y ffordd yw hwn i gael gwared ar blastig untro a diangen yn raddol. Rwy'n credu, Simon, ichi gyfeirio at ficrobelenni mewn cynhyrchion eraill a hefyd microplastig. O ran cynhyrchion eraill, rydym am ddatblygu, ar lefel y DU, ein dull o weithredu i leihau llygredd microbelenni mewn cynhyrchion eraill a chasglu'r dystiolaeth honno ynghylch yr effeithiau amgylcheddol i lywio camau gweithredu i leihau'r defnydd o gynhyrchion sy'n cynnwys microbelenni.
Mae microplastig yn fater arall sydd ar y gorwel sy'n cael tipyn o sylw, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion i wneud rhywfaint o waith ar hynny, gyda'r bwriad o roi cyngor imi ynglŷn â'r hyn y gallem ac y dylem ei wneud ynghylch y mater hwnnw. Fel y dywedasoch, dim ond un cam yw hwn, un darn o jig-so mawr iawn y mae angen i ni ei gwblhau i gymryd y camau y mae angen i ni eu cymryd. Rydym yn trafod ffigurau brawychus ac yn ystod Ras Cefnfor Volvo, y ffigwr a gefais gan Sefydliad Ellen MacArthur oedd os na weithredwn yn erbyn plastig, yna fe fydd mwy o blastig na physgod yn y moroedd erbyn 2050. Mae hwnnw'n ystadegyn gwirioneddol frawychus.
Felly, fel y dywedais, rydym ni wedi ymrwymo i weithredu ar ein trywydd i fynd i'r afael â phlastigau. Rydym ni, nid yn unig yn ystyried cynyddu ailgylchu a chael gwared ar blastig untro yn raddol, ond rydym ni hefyd yn edrych mewn gwirionedd o safbwynt cynnwys wedi ei ailgylchu, ei werth, a chynllunio cynhyrchion a weithgynhyrchwyd o fewn Cymru, ochr yn ochr â'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud o ran treth ar fagiau plastig untro a'r cynllun DRS, yr wyf yn gobeithio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn ei gylch cyn bo hir yn y lle hwn, a thrafod hefyd beth sy'n bosibl inni ei ddatblygu ar sail Cymru gyfan hefyd. Rwyf wedi dweud o'r dechrau y byddaf yn ystyried codi treth, ardoll neu dâl ar gynwysyddion diod untro. Felly, mae'n un cam mewn cyfres gyfan o fesurau i fynd i'r afael â melltith y plastig untro diangen.
Felly, i gloi, Llywydd, rwy'n croesawu cefnogaeth Aelodau'r Cynulliad wrth gynnig i gymeradwyo'r rheoliadau hyn. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu. Nag oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.