– Senedd Cymru am 6:16 pm ar 20 Mehefin 2018.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym os gwelwch yn dda. Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Mick Antoniw i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Mick.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n—
Arhoswch funud, tra bo pawb yn mynd.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer hon i gydnabod diwrnod dyneiddiaeth y byd, sef yfory, ac i sôn ychydig am athroniaeth dyneiddiaeth a'i chyfraniad i feddwl blaengar yng Nghymru, y DU a'r byd.
Mewn byd o anoddefgarwch a rhaniadau cynyddol, byd sy'n newid yn ddramatig oherwydd datblygiad technolegol a globaleiddio, weithiau mae'n haws ymlynu at gredoau cul ac anwybyddu ehangder meddwl, dychymyg a chyffredinrwydd credoau libertaraidd sydd i'w cael yn y byd, boed hynny'n gysylltiedig â chred mewn Duw neu gred resymegol nad oes Duw.
Mae dyneiddiaeth yn deillio o draddodiad hir o feddwl rhydd sydd wedi ysbrydoli llawer o feddylwyr mawr y byd, o wyddonwyr i ddiwygwyr cymdeithasol. Mae dyneiddwyr yn credu mai un bywyd sydd gennym ac yn anelu i fyw bywydau moesegol a llawn ar sail rheswm a dyneiddiaeth, gan osod lles a hapusrwydd dynol yn ganolog i'w penderfyniadau moesegol.
Mae dyneiddiaeth yn athroniaeth sy'n cefnogi democratiaeth a hawliau dynol. Mae'n ceisio defnyddio gwyddoniaeth yn greadigol ac nid yn ddinistriol er mwyn chwilio am atebion i broblemau'r byd drwy feddwl a gweithredu dynol yn hytrach nag ymyrraeth ddwyfol. Dywedodd Bertrand Russell, athronydd a dyneiddiwr Prydeinig mawr, a wnaeth ei gartref ym Mhenrhyndeudraeth:
os ydym i fyw gyda'n gilydd, ac nid marw gyda'n gilydd, rhaid inni ddysgu math o gariad a math o oddefgarwch sy'n gwbl hanfodol i barhad bywyd dynol ar y blaned hon.
I'r graddau hyn, mae llawer yn debyg yn athronyddol ac yn foesegol rhwng dyneiddiaeth a chredoau crefyddol Cristnogol, Bwdhaidd, Iddewig ac Islamaidd sylfaenol. Mae dyneiddwyr yn aml yn rhannu gwerthoedd â chrefyddau, gyda llawer o debygrwydd rhyngddynt ag athroniaeth a moeseg Cristnogaeth, Iddewiaeth, Islam a Bwdhaeth. Ond nid yw dyneiddiaeth yn seiliedig ar fodolaeth Duw nac yn gaeth i unrhyw set o ddysgeidiaethau neu gredoau crefyddol. Cred ydyw mewn rheswm ac ymreolaeth fel agweddau sylfaenol ar fodolaeth ddynol. Mae dyneiddwyr yn gwneud eu penderfyniadau moesegol yn seiliedig ar reswm, empathi a gofal am fodau dynol ac anifeiliaid ymdeimladol eraill.
Mae dyneiddiaeth wedi bodoli ers miloedd o flynyddoedd, ond datblygodd y cysylltiadau rhwng syniadau dyneiddiol a diwygio cymdeithasol yn sylweddol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gafodd cenhedlaeth newydd o ddiwygwyr cymdeithasol ac ymgyrchwyr eu dylanwadu gan athronwyr a deallusion a ysgrifennodd am bobl yn gwneud gwahaniaeth i'r byd a gofalu am ei gilydd heb ystyried crefydd. Gwrthododd Aneurin Bevan gredoau ei rieni anghydffurfiol i ddod yn sosialydd seciwlar. Roedd Robert Owen yn ddyneiddiwr a aned yn y Drenewydd, ac yn un o sylfaenwyr y mudiad cydweithredol.
Heddiw, rydym yn byw mewn byd lle y rhagwelir y bydd 50 y cant o gyfoeth y byd yn nwylo 1 y cant o'r boblogaeth erbyn 2030. Mae hanner y byd yn ffynnu tra bod hanner y byd yn newynu. Wrth i anghydraddoldeb gynyddu, daw cymdeithasau'n fwyfwy ansefydlog, mae cenedlaetholdeb cynyddol yn troi pobl yn erbyn pobl, caiff rhwystrau eu codi a heuir hadau gwrthdaro.
Fel gyda sosialaeth foesegol, mae dyneiddiaeth yn ymwneud â'r gred fod y pŵer i ddatrys yr holl broblemau hyn yn ein dwylo ni, drwy ddadansoddi rhesymegol, y defnydd o wyddoniaeth er budd pawb, a thrwy gydnabod ein dyneiddiaeth gyffredin a'n cyfrifoldeb tuag at ein gilydd.
Efallai mai dyneiddiaeth yw'r safbwynt athronyddol diofyn i filiynau o bobl yn y DU heddiw, ac mae llawer o ddyneiddwyr yn gwella cymdeithas drwy gryfhau ein rhyddid democrataidd, yn ymroi'n ddiwyd i waith elusennol, gan gynyddu ein corff o wybodaeth wyddonol a gwella ein bywyd diwylliannol, creadigol a dinesig. Yng Nghymru, mae 53 y cant o'r boblogaeth yn dweud nad ydynt yn perthyn i unrhyw grefydd, ac mae hyn yn cynnwys 73 y cant o rai rhwng 18 a 24 oed a 69 y cant o rai rhwng 25 a 34 oed.
Er mwyn sicrhau moeseg ddinesig gwbl gynhwysol yn ein cymdeithas, rhaid inni gydnabod hawliau pobl nad ydynt yn grefyddol. Yn 2015, galwodd yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth, cyn Archesgob Caergaint, am gynnwys dyneiddiaeth yn y cwricwlwm astudiaethau crefyddol yn Lloegr, ochr yn ochr â Christnogaeth ac Islam. Roedd ymhlith y llofnodwyr a gynhwysai gynrychiolwyr Iddewig, Mwslimaidd a Sikh amlwg a ddadleuai y byddai cynnwys syniadau anghrefyddol yn cynrychioli'r Brydain fodern yn fwy cywir a byddai'n caniatáu i bobl ifanc astudio sampl fwy cynrychioliadol o brif safbwyntiau'r byd sy'n gyffredin ym Mhrydain heddiw.
Felly, gallwn ymfalchïo yn y camau i'r cyfeiriad hwn yng Nghymru. Mae dyneiddiaeth bellach ar y cwricwlwm addysg grefyddol yng Nghymru. Yn dilyn her gyfreithiol, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi ysgrifennu'n ddiweddar at bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i'w hysbysu bod yn rhaid i gynrychiolwyr systemau cred nad ydynt yn grefyddol gael yr un hawl â chynrychiolwyr crefyddol i fod yn aelodau o'r cynghorau ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol, sef y cyrff awdurdod lleol sy'n gyfrifol am oruchwylio addysg grefyddol mewn ysgolion.
Felly, yng Nghymru, rydym yn gwneud cynnydd, ond mae ffordd bell i fynd o hyd. Mae priodasau dyneiddiol yn gyfreithiol yn yr Alban ac yn Jersey, ond nid yng Nghymru, lle mae'r gyfraith yn dal heb ei datganoli, a phedwar ysbyty yn unig yng Nghymru sydd wedi cytuno i dderbyn gofalwyr bugeiliol anghrefyddol gwirfoddol yn rhan o'u timau caplaniaeth.
Mae cydnabod rôl dyneiddiaeth yng Nghymru fel rhan o'n system gred yn ymwneud hefyd â sicrhau moeseg ddinesig gwbl gynhwysol ym mhob un o'n sefydliadau cymdeithasol a chyhoeddus. Mae gan y rhai nad ydynt yn grefyddol, a buaswn yn dweud bod hynny'n golygu'r mwyafrif o bobl yn ein cymdeithas gyfoes mae'n debyg, lawer i'w gyfrannu at y gwerthoedd y seiliwyd ein cymdeithas arni ac at y cyfeiriad y bydd yn ei gymryd yn y dyfodol.
Yn Much Ado About Nothing mae William Shakespeare yn dweud:
Cara bawb, ymddirieda mewn ambell un, / na wna gam â neb.
Mae'n well gennyf y datganiad mwy proffwydol gan yr athronydd Prydeinig ac un o sefydlwyr America, Thomas Paine:
Y Byd yw fy ngwlad, yr holl ddynol-ryw yw fy mrodyr, a gwneud daioni yw fy nghrefydd.
Diolch.
Diolch. A ydych wedi dynodi—?
Rwyf wedi dynodi fy mod wedi rhoi munud i Julie Morgan, ac rwy'n hapus i roi munud os oes unrhyw un arall yn dymuno cael un.
Nac oes—Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn ichi am roi munud imi. Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon, sy'n amserol iawn, gyda Diwrnod Dyneiddiaeth y Byd ar 21 Mehefin. Rwyf wedi bod yn ddyneiddiwr ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n aelod o Ddyneiddwyr Cymru, sy'n rhan o Humanists UK. Hoffwn wneud tri phwynt cyflym.
Rwy'n cefnogi'r alwad gan Ddyneiddwyr Cymru am i gyfraith priodasau gael ei datganoli—mae Mick Antoniw wedi cyfeirio at hyn eisoes—fel y cafodd ei datganoli yn yr Alban yn 1998, er mwyn inni allu cael priodasau dyneiddiol, ond hefyd i fynd i'r afael â mater tystysgrifau priodas sy'n galw am enw'r tad yn hytrach nag enw rhiant, rhywbeth sy'n amlwg yn anghyson â bywyd modern. Felly, hoffwn weld rheolaeth o swyddfa'r cofrestrydd yn cael ei datganoli er mwyn inni allu ceisio sicrhau'r newidiadau hynny.
Roedd yr ail bwynt roeddwn eisiau ei wneud yn ymwneud ag addoli ar y cyd mewn ysgolion. Cyflwynwyd hyn yn 1944 a chafodd y gofyniad ei leihau'n ofyniad i fod yn Gristnogol yn yr ystyr eang, a chafodd ei ymgorffori mewn cyfraith addysg yn 1988 o dan Lywodraeth Thatcher. Pan gafodd y cyfrifoldeb am addysg ei drosglwyddo i'r Cynulliad yn sgil datganoli, cafodd yr elfen led Gristnogol hon ei throsglwyddo i'r Cynulliad, ac nid wyf yn credu ei bod hi'n gweddu i'n cymdeithas amrywiol sy'n gosod gwerth ar ryddid cred, felly credaf y byddai'n gam ymlaen pe baem yn cael gwared ar y syniad o fod yn lled Gristnogol, ac yn hytrach, yn cofleidio pob crefydd a dyneiddiaeth a dim crefydd.
Mae'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn ymwneud â chaplaniaid ysbytai y cyfeiriodd Mick Antoniw atynt eisoes. Deallaf fod £1.2 miliwn y flwyddyn yn cael ei wario ar wasanaethau caplaniaeth, ac mae Llywodraeth Cymru yn gadael i ymddiriedolaethau ysbytai benderfynu sut i ddarparu gwasanaeth caplaniaeth. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn i bobl nad oes ganddynt gredoau crefyddol allu cael mynediad at rywun i'w helpu'n ysbrydol i roi cymorth nad yw'n grefyddol. Gwn mai'r ymateb i fy nghais i Lywodraeth Cymru oedd y gallai person crefyddol roi'r cymorth hwnnw ichi, ond nid yw hynny'n gweddu dda iawn os nad oes gennych unrhyw gredoau crefyddol. Y pwynt arall ynglŷn ag ysbytai yw argaeledd ystafelloedd tawel, yn ogystal ag ystafelloedd gweddïo, fel bod gennych ystafell dawel lle y gall pobl heb unrhyw gredoau fynd. Felly—
Da iawn—mewn munud.
Munud? [Chwerthin.]
Na, na, nid munud, ond da iawn ar eich munud. Diolch. A gaf fi alw yn awr ar arweinydd y tŷ i ymateb i'r ddadl? Julie James.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn fod Mick Antoniw wedi rhoi'r cyfle hwn inni yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid i drafod pwysigrwydd gweithio gyda'n holl gymunedau yng Nghymru, pa un a ydynt yn perthyn i grwpiau ffydd neu grwpiau heb ffydd—pob ffydd a dim ffydd, fel rydym yn ei ddweud. Mae'r dyfyniad a ddarllenodd ar y diwedd yn crynhoi ein hagwedd at lle y dylem fod i raddau helaeth, ac fel y dywedais mewn dadl yn gynharach, Ddirprwy Lywydd, yr hyn yr ydym am ei gofio fwyaf yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid yw ein dyneiddiaeth gyffredin ac nid unrhyw beth sy'n ein rhannu. Ar ddiwrnod Great Get Together Jo Cox mae ei geiriau fod gennym lawer mwy yn gyffredin â'n gilydd na'r pethau sy'n ein gwahanu yn werth eu cofio yn y cyd-destun hwn.
Mae ymgysylltu â'n holl gymunedau yn ffactor pwysig iawn wrth ddarparu cydlyniant cymunedol ledled Cymru, gan gynnwys cymunedau ffydd a'r rheini sydd wedi ymrwymo i safbwyntiau athronyddol eraill am fywyd, megis dyneiddiaeth. Rydym yn ymrwymedig iawn i barhau â'n gwaith i feithrin a hyrwyddo gwerthoedd a dealltwriaeth a rennir ar draws ein holl gymunedau yng Nghymru.
A gaf fi ddweud, ar lefel bersonol, fy mod yn cefnogi galwad Julie Morgan o blaid datganoli priodas? A bydd yn rhaid i chi faddau i mi, Ddirprwy Lywydd, wrth i mi adrodd hanesyn bach arall eto o fy mywyd personol, ond mae fy mab yn priodi ym mis Gorffennaf. Bydd y rhai ohonoch sy'n fy adnabod wedi fy nghlywed yn sôn am hyn. Pan aeth ef a'i ddarpar wraig i gofrestru eu cynigion priodas, gofynnwyd iddynt am broffesiwn eu tadau. Rwy'n falch o ddweud eu bod yn bobl ifanc sydd wedi cael magwraeth dda. Gallent ddweud beth oedd proffesiwn eu mamau, ond nid oedd y naill na'r llall ohonynt yn gwybod beth oedd proffesiwn eu tad, ac roedd hynny'n gysur mawr i mi, ond wrth gwrs ni chaniatawyd iddynt restru proffesiwn eu mamau ar y gostegion, a chredaf fod hynny'n warthus. Felly, hoffwn i ei weld am y rheswm hwnnw'n unig, ond mae yna nifer o bethau y gellid yn hawdd eu moderneiddio yn hyn o beth, gan gynnwys y gallu i gael seremonïau nad ydynt ar hyn o bryd yn cael eu cydnabod mewn ffordd ddyneiddiol. Mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn gallu mynegi ein safbwyntiau, gwrando gyda pharch ar safbwyntiau pobl eraill, a gwella'r modd y gallwn gydweithio i helpu i sicrhau bod Cymru'n gymdeithas oddefgar iawn.
Mae'r Wythnos Rhyng-ffydd eleni, rhwng 12 a 16 o fis Tachwedd, yn gyfle i ni ddathlu a chryfhau goddefgarwch a dealltwriaeth o werthoedd a rennir ar draws pob ffydd a dim ffydd. Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn. Yng nghyfarfod y Fforwm Cymunedau Ffydd ar 3 Ebrill eleni, dywedodd Cyngor Rhyng-ffydd Cymru ei fod yn ystyried ffordd o allu clywed safbwyntiau credoau sydd heb eu cynrychioli a'u gwasanaethu yng nghyfarfodydd y fforwm drwy'r cyngor rhyng-ffydd. Rydym yn edrych ymlaen at eu penderfyniad, gydag enw i'w gyflwyno fel argymhelliad i'r Prif Weinidog ei ystyried, ac rydym wedi croesawu'r ymagwedd honno gyda golwg ar fod yn gymdeithas gynhwysol a chydgysylltiedig, gan werthfawrogi, fel y dywedai'r dyfyniad a ddarllenodd Mick Antoniw, dyneiddiaeth a chydymdrech pawb ar y blaned.
Diolch yn fawr iawn, a daw hynny â’n trafodion i ben am heddiw. Diolch.