– Senedd Cymru am 3:48 pm ar 20 Mehefin 2018.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar yr adroddiad ar y tanwariant sy'n deillio o benderfyniadau'r bwrdd taliadau, a galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Simon Thomas.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ers rhai misoedd bellach mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cynnal gwaith i mewn i berthynas a defnydd Comisiwn y Cynulliad o'r tanwariant sy'n deillio o benderfyniad y bwrdd taliadau. Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad, ond mae'r sefyllfa hefyd wedi newid yn ystod yr wythnosau diwethaf. Felly, roeddwn yn gobeithio y byddai datganiad a chwestiynau yn ffordd well o ddelio gyda hwn, yn hytrach na dadl ffurfiol ar yr adroddiad. Fe gawn ni weld a yw'r Aelodau yn cytuno â hynny.
Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi dangos diddordeb brwd, fel y dywedais i, yn y modd y mae’r Comisiwn yn cyllidebu. Wrth benderfynu sut i gyllidebu ar gyfer y penderfyniad, yr arfer hyd yma yw i’r Comisiwn gyllidebu ar gyfer gwario’r swm mwyaf posib ar bob Aelod neu blaid, ac yna ddefnyddio unrhyw danwariant i ariannu ei flaenoriaethau buddsoddi. Rydym wedi bod yn pryderu am y dull hwn o weithredu ers peth amser, gan ei fod, yn ein barn ni, yn golygu nad yw cyfanswm gwariant y Comisiwn yn ddigon tryloyw. O'r herwydd, penderfynasom ni gynnal ymchwiliad penodol byr i'r modd y defnyddir y tanwariant ac ystyried sut y mae Seneddau eraill yn y Deyrnas Gyfunol, ac yng ngweddill y byd, yn cyllidebu ar gyfer gwariant yn ymwneud â thâl a lwfansau'r Aelodau.
Yn ystod ein hymchwiliad, cyhoeddodd y bwrdd taliadau ymgynghoriad ynghylch hyblygrwydd y lwfansau yn y penderfyniad. Mae’r ymgynghoriad hwnnw wedi arwain at hyblygrwydd ychwanegol yn lwfansau’r Aelodau. Mae hyn, yn ei dro, wedi effeithio ar benderfyniadau cyllidebu’r Comisiwn, a byddaf yn sôn rhagor am hyn maes o law.
Un o’r prif feysydd yr oeddem yn awyddus i’w harchwilio gyda’r Comisiwn fel rhan o’n gwaith craffu oedd y modd y mae’n cyllidebu ac yn rhagweld gwariant. Rydym wedi argymell yn flaenorol fod y Comisiwn yn paratoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn ystod y flwyddyn, cyn diwedd pob blwyddyn galendr, ar y tanwariant sy’n debygol o ddeillio o’r penderfyniad, ynghyd ag unrhyw newidiadau sylweddol i’r prosiectau y bwriedir eu hariannu drwy ddefnyddio’r tanwariant hwn. Roeddem yn falch o weld bod y Comisiwn wedi cynnwys rhagor o fanylion yn ei wybodaeth am gyllideb 2018-19 am yr arian y mae’n amcangyfrif a fydd ar gael o gyllidebau cyfalaf a gweithredol a phenderfyniad y bwrdd taliadau. Fel pwyllgor, rydym yn croesawu’r camau a gymerodd y Comisiwn yn ystod y cylch cyllidebu diwethaf, gan ein bod yn credu bod hynny’n hwyluso’r gwaith craffu.
Un maes arall sy’n peri pryder i ni yw’r modd y mae’r Comisiwn yn defnyddio’r tanwariant i ariannu blaenoriaethau buddsoddi. Nid oeddem yn gyfforddus â’r egwyddor bod cyllideb y Comisiwn yn dibynnu ar danwariant i ariannu prosiectau a gwaith yn y meysydd blaenoriaeth, megis cynnal a chadw ystad y Cynulliad. Er ein bod yn sylweddoli y gall hyn, wrth gwrs, fod yn ddefnyddiol i ddwyn prosiectau ymlaen, mae’r bwriad i ariannu rhai prosiectau drwy ddefnyddio’r tanwariant, dros nifer o flynyddoedd, yn dal i beri pryder i ni, gan fod y Comisiwn, wedyn, yn dibynnu ar adnodd na ellir ei ragweld. Rydym yn credu y dylid nodi prosiectau craidd a’u hariannu ar wahân.
Wedi iddo drafod ein hadroddiad a phenderfyniadau’r bwrdd taliadau i ganiatáu mwy o hyblygrwydd yn lwfansau’r Aelodau, mae’r Comisiwn wedi cadarnhau, ac rydym yn croesawu hyn, ei fod wedi adolygu’r modd y mae’n ariannu prosiectau, ac y bydd prosiectau sydd wedi’u blaenoriaethu i’w cwblhau yn ystod 2019-20 yn cael eu nodi nawr yn nogfen y gyllideb, a bydd yn awr yn cael ei ariannu’n llawn o linell gwariant cyllideb graidd y Comisiwn. Rydym yn credu y bydd y penderfyniad hwn yn hwyluso’r gwaith craffu. Bydd prosiectau’n cael eu nodi gan y Comisiwn wrth iddo gynllunio’i gyllideb, bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu arnynt, ac yn eu trafod yn ystod y blynyddoedd dilynol i sicrhau bod y Comisiwn yn atebol am roi prosiectau ar waith. Drwy hynny, bydd y Comisiwn yn dilyn yr un broses o gynllunio a chyllidebu â chyrff eraill a ariennir yn uniongyrchol.
Fodd bynnag, mae’r Comisiwn wedi dweud bod hyn yn debygol o arwain at gynnydd yn ei gyllideb graidd, i wneud yn iawn, wrth gwrs, am y gwariant y byddai’r tanwariant wedi’i ariannu fel arall. Mae hyn, ar y wyneb, yn mynd yn groes i argymhelliad blaenorol y Pwyllgor Cyllid y cytunodd y Comisiwn ag ef, sef na ddylai'r gyllideb gynyddu’r tu hwnt i unrhyw gynnydd yng ngrant bloc Cymru yn ystod gweddill oes y Cynulliad hwn. Er ein bod yn derbyn y bydd y Comisiwn nawr yn dychwelyd unrhyw danwariant o linell wariant y penderfyniad, rydym yn pryderu y gallai’r gyllideb gynyddu. A ninnau mewn cyfnod o gyni ariannol, a bod gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn wynebu toriadau eang a pharhaus mewn termau real, rydym yn tynnu sylw at sylwadau Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol Cymru fod rhai o brosiectau posibl y Comisiwn yn brosiectau y byddai’n braf eu rhoi ar waith, yn hytrach na’n brosiectau cwbl hanfodol. Byddem ni, felly, yn annog y Comisiwn i ystyried ei flaenoriaethau yn ofalus i sicrhau bod gwir angen rhoi prosiect ar waith er mwyn cyflawni strategaethau a nodau’r Comisiwn. Diolch.
A gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei ddatganiad? Rydych wedi cynnwys y rhan fwyaf o bethau yno, mewn gwirionedd, Simon, a rhoesom ystyriaeth fanwl i hyn yn ystod ein hymchwiliad byr ar y Pwyllgor Cyllid, felly un neu ddau o gwestiynau'n unig sydd gennyf, un neu ddau o feysydd yr hoffwn dynnu sylw atynt.
Mae'n debyg nad dyma'r testun sgwrs dros fyrddau swper ledled Cymru, ond mae'n sicr—[Torri ar draws.] Wel, eich un chi efallai, Simon. [Chwerthin.] Mae'n sicr yn bwysig i'r ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu ac yn wir, mae llawer o'r materion yr edrychwn arnynt yn y Pwyllgor Cyllid—rhai o'r manylion efallai nad yw pobl eraill a phwyllgorau eraill yn edrych arnynt, ond serch hynny, maent yn bwysig i effeithlonrwydd a gwneud yn siŵr fod ein strwythurau a'n gweithdrefnau yma nid yn unig yn addas ar gyfer heddiw ond yn addas i'r diben ar gyfer y dyfodol yn ogystal—y Cynulliad nesaf a thu hwnt. Fel y dywedasoch, mae'n allweddol i'n hargymhellion yn yr adroddiad y dylai fod mwy o eglurder ynghylch sut y defnyddir tanwariant yn y dyfodol. Mae eglurder a thryloywder yn eiriau y down yn ôl atynt yn aml yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau yn y Cynulliad hwn, ac maent yr un mor ddilys a phwysig yn achos gwariant y Comisiwn ag y maent mewn meysydd eraill.
Credaf fod rhan o'r adroddiad sy'n dweud, o gymharu â gwariant y grant bloc, fod 1 y cant o gyllideb y Comisiwn yn edrych yn llawer llai yn ôl pob tebyg. Ond wrth gwrs, o ran effeithlonrwydd y Comisiwn a sicrhau gwerth am arian, mae hi yr un mor bwysig fod £100,000 neu £200,000—beth bynnag yw'r glustog a nodwyd—yn cael ei wario yr un mor ddoeth â'r miliynau a'r biliynau y siaradwn amdanynt wrth sôn am gyllideb ehangach Llywodraeth Cymru.
Mae eglurder a thryloywder yn allweddol, felly mae'n debyg mai un o—mae'n ymddangos yn rhyfedd i ofyn cwestiynau i fy Nghadeirydd yn y cyd-destun hwn, ond yn allweddol i fy nghwestiynau i chi mae hyn: a ydych yn hyderus y bydd yr adroddiad hwn yn wir yn arwain at y tryloywder a'r eglurder ychwanegol hwnnw, ac nid nawr yn unig, ond y bydd yn ymatebol i'r dyfodol pan ddaw'r lle hwn yn Senedd mewn enw a phan gaiff bwerau treth pellach yn ogystal â phwerau pellach yn y dyfodol? A fydd yr adroddiad hwn yr un mor berthnasol bryd hynny yn sicrhau gwerth am arian?
Cafwyd pryderon mawr fod y Comisiwn wedi bod yn rhy ddibynnol ar danwariant, fel y dywedasoch, i ariannu blaenoriaethau buddsoddi allweddol craidd. Ni all hon fod yn ffordd gynaliadwy ymlaen. Rwy'n meddwl bod y pwyllgor yn gwerthfawrogi sut y datblygodd hynny dros amser a thros nifer o Gynulliadau. Efallai yn y gorffennol nad oedd yn fater mor bwysig, efallai y gellid ei esbonio'n ddigon hawdd, ond yn amlwg, os ydych yn mynd i ddibynnu'n agored ar danwariant i ariannu rhai o'n hymrwymiadau allweddol neu rai o ymrwymiadau allweddol y Cynulliad fel sefydliad, mae hynny'n gadael y drws yn agored yn y dyfodol i broblem eithaf mawr pe bai materion yn codi neu os na fyddai'r tanwariant yn datblygu yn y ffordd a ragwelwyd.
Edrychais yn fras iawn ar elfen rag-weld gwariant yr adroddiad, a chredaf fod hwnnw'n amlwg yn faes y mae gwir angen inni ddod yn well am ei wneud a hynny'n gyffredinol. Edrychwyd ar y pwerau treth sydd ar y ffordd yn y Pwyllgor Cyllid yn ogystal, a sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, ac rydym wedi dweud bod angen i Lywodraeth Cymru feddu ar swyddogaeth rag-weld lawer gwell wrth ddarogan twf economaidd yng Nghymru dros y blynyddoedd i ddod. Yn ei ffordd ei hun, credaf fod angen i'r Cynulliad ei hun a Chomisiwn y Cynulliad hefyd gael mecanwaith rhag-weld sy'n fwy cadarn. Nid yw'n golygu cael pethau'n iawn bob tro, fel y gwelsom ar y pwyllgor. Mewn gwirionedd, mae rhagolygon fel arfer yn anghywir. Ond y rhagolygon sy'n rhoi'r lefel sylfaenol y gallwch werthuso cynnydd yn ei herbyn yn y dyfodol mewn gwirionedd a gallwch ddweud, 'Mewn gwirionedd, fe wnaeth y Comisiwn bopeth oedd ei angen, fe roddodd y camau angenrheidiol ar waith, ac er efallai na chawsom bopeth yn hollol iawn, fe wnaethom yr hyn a allom dros bobl Cymru, i wneud yn siŵr fod gwerth am arian yn yr arian a wariwyd gennym ac yr oedd y Cynulliad yn ei oruchwylio.'
Dylai dull y Comisiwn o ymdrin â thanwariant—fe ddof i ben ar hyn—gydweddu'n well ag arweiniad y Trysorlys. Mae'n ymddangos mai synnwyr cyffredin yw hynny, ond wrth gwrs, nid yw synnwyr cyffredin bob amser yn gweithio'n naturiol, oni bai bod rhywun yn rhoi gwthiad iddo. Felly, rwy'n gobeithio y bydd argymhellion y Pwyllgor Cyllid yn yr adroddiad byr ac arbenigol ond diddorol hwn yn cael eu mabwysiadu ac y bydd ganddo weithdrefn Comisiwn a chyllidebu Comisiwn dros y blynyddoedd i ddod a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol yn ogystal â heddiw.
Diolch i Nick Ramsay am ei sylwadau. Fel yr awgrymodd, gall hon fod yn ddadl swigen i roi diwedd ar yr holl ddadleuon swigen, ond mae'n bwysig iawn mewn gwirionedd, oherwydd mae'n rhaid i'r modd y cyllidebwn ac y gwariwn ein harian ein hunain—oherwydd soniais yn y datganiad am y Comisiwn, y Comisiwn yw'r Cynulliad, wrth gwrs—felly rhaid i'r modd y gwariwn ac y cyllidebwn ein harian ein hun edrych a theimlo fel y disgwyliwn i gyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru ymddwyn. Felly, os ydym ni, y Cynulliad sy'n pasio'r gyllideb dros y Llywodraeth, ac yna ar gyfer y cyrff a ariennir yn uniongyrchol, gan gynnwys ein corff ein hunain a ariennir yn uniongyrchol, sef y Comisiwn—. Dylem edrych ac ymddwyn yn ôl yr arferion gorau yn yr esiampl honno.
Hoffwn dynnu sylw at y gair a wnaeth argraff go iawn arnaf yn yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay, sef 'eglurder'. Mae gennym dryloywder, gan fod modd dilyn pethau drwodd, ond a oedd eglurder yno yn y gorffennol? Ac wrth gwrs, pan fydd gennych hyd at £1 filiwn o danwariant sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd benodol, yna nid wyf yn meddwl fod hynny'n glir, a dyna oedd yn peri pryder i'r Pwyllgor Cyllid ar y pryd.
Mae Nick Ramsay yn gofyn imi a wyf yn hyderus fod hyn bellach yn ein galluogi i symud ymlaen i baratoi ar gyfer ein cyfrifoldebau pellach, ac i dyfu'n llawn fel Senedd, a buaswn yn dweud wrtho ei fod. Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r Comisiwn am y modd y maent wedi wedi ymateb i'n hadroddiad ac wedi bod yn trafod a negodi gyda ni. Ac wrth gwrs, y ffaith bod y penderfyniadau eraill, nad oes ganddynt ddim i'w wneud gyda'r Cynulliad ei hun oherwydd nad ydym yn penderfynu ynglŷn â'n cyflogau a'n lwfansau ein hunain—gwneir hynny ar wahân gan y bwrdd taliadau—ond serch hynny mae'r penderfyniadau a wneir yno hefyd wedi ychwanegu at yr angen i fynd i'r afael â hyn.
Felly, credaf y ceir mwy o eglurder yno bellach. Credaf y bydd y Comisiwn yn cyflwyno cyllideb a fydd yn glir iawn ynglŷn â'i flaenoriaethau, ynglŷn â'i gynlluniau gwariant yn y dyfodol ac ynglŷn â'i gynlluniau buddsoddi. Mae'n glir y bydd unrhyw danwariant o fewn y bwrdd taliadau yn cael ei ddychwelyd i'r grant bloc, ond wrth gwrs, mae i hynny, yn ei dro, ei oblygiadau o ran sut y bydd y gyllideb gyffredinol yn edrych, ac ni fyddwn yn gallu barnu nes inni ei gweld yn yr hydref. Ond wrth gwrs, byddai'r Pwyllgor Cyllid yn gyffredinol yn disgwyl i'r Comisiwn weithredu fel cyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru o ran y cyllid cyffredinol a'r cyllid sy'n deillio o grant bloc Cymru.
A gaf fi yn gyntaf groesawu'r datganiad a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hefyd y sylwadau a wnaed gan Nick Ramsay? Mae'n sefyllfa ryfedd y gallwn fod wedi gwneud y naill neu'r llall o'r datganiadau hynny—naill ai'r datganiad neu'r sylwadau a'r cwestiynau gan Nick Ramsay—heb unrhyw broblem o gwbl, felly credaf y ceir lefel o unfrydedd ymysg y rhai ohonom sy'n gwasanaethu ar y Pwyllgor Cyllid.
A gaf fi ailadrodd rhywbeth rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith o'r blaen? Mae'n dal yn werth ei ddweud: ni all Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn rhydd rhag y cyni sy'n wynebu gweddill y sector cyhoeddus. Er mor anodd ydyw, ac mae'n bosibl y bydd yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd, ni ellir ei weld yn tyfu tra bo rhannau helaeth o'r sector cyhoeddus—rhai rhannau y mae pobl yn credu eu bod yn bwysig iawn—yn colli arian.
Bydd y broses gyllidebu, gyda'r Comisiwn yn gosod cymorth i'r holl Aelodau ar y lefel uchaf sy'n bosibl, gyda chyflogau staff wedi'u gosod ar frig pob graddfa, bob amser yn cynhyrchu arbedion. Ym mlwyddyn gyntaf pob Cynulliad, bydd yn cynhyrchu arbedion sylweddol, oherwydd bydd bron bawb sy'n dechrau gweithio yma yn dechrau ar waelod graddfa o bum pwynt.
Rwyf hefyd yn rhannu pryderon Cadeirydd y pwyllgor ynglŷn â chyllido prosiectau o danwariant, nid yn lleiaf oherwydd pan fydd prosiectau'n cael eu hariannu gan danwariant nid ydynt yn cael golau'n disgleirio arnynt gan Bwyllgor Cyllid y Cynulliad hwn, ac yna gan y Cynulliad ei hun, i weld a yw'r prosiectau hynny'n dda neu'n wael. Nid wyf eisiau gwneud unrhyw sylwadau am brosiectau a gyflawnwyd yn y gorffennol, ond mewn gwirionedd, mae'n bwysig fod hyn yn cael sylw fel bod pob un ohonom yma yn gyfrifol yn unigol ac yn gyfunol. Efallai nad ydym yn ei hoffi, ond dylai bob un ohonom ysgwyddo unrhyw glod neu fai.
Un cwestiwn sydd gennyf, ac mae'n rhywbeth a gytunwyd gennym yn gynharach yn y trafodaethau, ond ymddengys ei fod wedi'i dynnu'n ôl gan y Comisiwn erbyn hyn. A yw Cadeirydd y pwyllgor yn dal i gredu na ddylai cyllideb y Comisiwn gynyddu ar ganran fwy na grant bloc Cymru, er mai grant bloc Cymru fel y'i diwygiwyd yw honno drwy ei fod yn cynnwys codi treth gan Gynulliad Cymru? Felly, i bob pwrpas, dyna fyddai'r grant bloc wedi bod, a allai olygu bod ganddynt swm o arian sy'n lleihau bob blwyddyn, oherwydd wrth inni gael mwy o ddatganoli treth daw hynny oddi arno, ond dyna, i bob pwrpas, yw'r swm o arian sydd ar gael i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei ddosbarthu i Lywodraeth Cymru a'r ddau gorff arall a ariannwn yn uniongyrchol. A ydych yn dal i gredu—? Fe ddechreuaf y sylw fel hyn: a ydych dal i gredu, fel y gwnaf fi, fod yn rhaid bod rheswm da iawn i'r Comisiwn gael cynnydd gwell na'r hyn sy'n dod i weddill y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Diolch i Mike Hedges am ei sylwadau, sydd â'r rhinwedd o fod yn gyson. Mae wedi dweud hyn yn gyson, ac mae ei sylwadau wedi bod yn gyson glir a thryloyw yn ogystal, felly diolch iddo am hynny. Nid wyf yn anghytuno ag ef, ac mae'n adlewyrchu'r pwyntiau a wneuthum yn gynharach fod yn rhaid inni weithredu fel gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru yn ein gwariant ein hunain ac wrth osod ein cyllideb. Nid oes gennym hawl i drin ein hunain yn wahanol—rwy'n credu'n gryf fod hynny wedi'i dderbyn.
Gofynnodd gwestiwn penodol ynghylch argymhelliad cynharach gan y Pwyllgor Cyllid y dylai gwariant y Comisiwn fod yn unol â grant bloc Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn. Dyna yw argymhelliad y Pwyllgor Cyllid wrth gwrs, ond credaf ei bod hi'n bwysig cofnodi y bu newidiadau yn y ffordd y caiff arian ei ddyrannu bellach. Mae newidiadau'r bwrdd taliadau yn golygu bod yr arian a neilltuwyd ar gyfer Aelodau bellach yn fwy hyblyg yn nwylo'r Aelodau. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol y gallant drosglwyddo hyd at 25 y cant o'r arian hwnnw, rwy'n credu, ar gyfer eu dibenion hwy bellach, ac rwy'n meddwl mai'r hyn y bydd angen inni ei wneud pan fyddwn yn craffu ar y drafft—wel, nid y gyllideb ddrafft fydd hi. Wrth graffu ar gyllideb derfynol y Comisiwn yn yr hydref, fel Pwyllgor Cyllid, rwy'n gobeithio y byddwn yn ystyried—credaf ei bod yn briodol inni ystyried y ffaith na fydd tanwariant mor fawr a fydd yn hyblyg i'w defnyddio. Felly, credaf ei bod yn briodol i hynny, os mynnwch, gael ei dynnu allan o'r ffordd yr edrychwn ar y gyllideb, oherwydd ni fyddai hynny'n deg, gan mai penderfyniad gan gorff arall mewn amgylchiadau eraill fyddai hwnnw. Felly, byddwn yn tynnu hynny allan ac yna rydym yn edrych ar y gyllideb gyffredinol, a buaswn yn cytuno â Mike Hedges felly, ar ôl tynnu'r rhan taliadau allan, am nad yw hynny'n rhan o'r hafaliad mwyach, does bosib na fyddem yn ceisio sicrhau bod argymhelliad y cynnydd i'r grant bloc cyffredinol yno, ac os nad yw yno am reswm penodol, byddwn yn edrych am y penderfyniad buddsoddi sydd wrth wraidd y rheswm hwnnw, y prosiect dan sylw, lle y gallai fod o ran—er enghraifft, gallai fod mewn system debyg i wario i arbed. Credaf fod yn rhaid inni fod yn agored i'r holl bethau hyn, ond ein hegwyddor sylfaenol, ar ôl tynnu'r newid hwn allan gyda'r bwrdd taliadau, yw bod argymhelliad y Pwyllgor Cyllid yn dal i sefyll.
Diolch i chi am y datganiad, Simon. Mae rhan ohonof yn meddwl y buaswn yn hoffi pe bai hon wedi bod yn ddadl oherwydd byddai wedi rhoi cyfle imi fel y Comisiynydd perthnasol sy'n sefyll yma heddiw i fynd ar ôl rhai o'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges a Nick Ramsay yn wir, ond mae'r cwestiwn yr oeddwn am ei ofyn i chi'n ymwneud â'r hyn a ddywedoch chi ar y diwedd yn y fan honno, Simon. Y sefyllfa fydd hyn: fel y gwyddoch, ni allwn ddefnyddio'r tanwariant ar gyfer ein cronfa fuddsoddi mwyach; os ydym am weld cynnal a chadw ar yr adeilad ac ati, mae angen cronfa fuddsoddi. Os ychwanegwn gronfa fuddsoddi at y llinell sylfaen, fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn enwedig gan gynnwys y penderfyniad taliadau nad oes gennym unrhyw reolaeth drosto fel y dywedoch, mae'n debygol iawn y bydd ein llinell sylfaen yn mynd dros swm y cynnydd yn y grant bloc, a'r rheswm am hynny'n rhannol fydd oherwydd penderfyniad y bwrdd taliadau, ac nid ydym yn gwybod beth fydd hwnnw, ac yn rhannol oherwydd bod rhywfaint o hwnnw'n mynd i orfod mynd yn ôl, felly bydd y gwariant yn edrych yn llai na'r llinell sylfaen yn y gyllideb wreiddiol. Felly, roeddwn am gael eich sicrwydd ar hyn, o ran ein bod wedi ymrwymo i aros o fewn y cynnydd yn y grant bloc, na fydd y Pwyllgor Cyllid yn dod yn ôl atom o fewn y cyfnod, beth bynnag ydyw, i ddweud ein bod wedi croesi'r trothwy, a hynny heb fod unrhyw fai arnom ni ein hunain. Felly, dyna oedd y sicrwydd roeddwn yn ei geisio.
Diolch, Suzy Davies. Ac wrth gwrs, rwyf bob amser yn agored i gael dadl; rwy'n mwynhau dadleuon lawn cymaint â neb yma, ond roeddwn yn meddwl y byddem yn rhoi cynnig ar ffordd wahanol ar yr achlysur hwn. Fe gymeraf adborth a gweld ai dyna yw'r ffordd orau, ond mae wedi caniatáu iddi wneud ei phwyntiau, a bod yn deg. Ni allaf wneud mwy mewn gwirionedd nag ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Mike Hedges, sef, i fod yn gwbl glir, fy mod yn credu ei bod yn gwbl resymol i'r Comisiwn, wrth droi at y broses gyllidebol hon, dynnu'r ystyriaeth ynghylch y bwrdd taliadau allan yn awr, oherwydd ei fod yn fater cwbl ar wahân. Ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer y llinell sylfaen, fel y'i galwodd, ac os oes unrhyw danwariant yno, caiff ei ddychwelyd i'r grant bloc.
Pan ddown i ystyried eich cyllideb—. Nid wyf eisiau clymu dwylo'r Pwyllgor Cyllid yn llwyr wrth inni edrych ar eich cyllideb maes o law, ond credaf y byddai'n rhesymol, a gobeithiaf y byddwch chi yn eich cyflwyniad ar y gyllideb yn dangos yn glir iawn inni sut yr ymdriniwyd â'r arian taliadau hwnnw—sut y cafodd ei dynnu allan, os mynnwch, o'r dyraniad cyffredinol—fel nad yw'n drysu neb sy'n edrych ar y llinell sylfaen i feddwl y bu cynnydd uwch na'r grant bloc yn syml oherwydd na allwch ddefnyddio'r hyn sydd hyd at oddeutu £800,000, a £1 filiwn o bosibl. Felly, credaf y byddwn yn ystyried hynny.
Yna byddwn yn edrych ar weddill eich llinell sylfaen, buaswn yn awgrymu, ac yn dweud, 'A fu cynnydd yno uwchlaw lefel y grant bloc?' Ac os bu, 'Beth yw'r rheswm am hynny?' Credaf mai dyna lle mae'r sylwadau olaf a wneuthum yn y datganiad a sylwadau cynharach a wneuthum—. Byddai'n rhaid iddo fod yn (a) yn achos da iawn, a byddai'n rhaid i chi berswadio nid yn unig y Pwyllgor Cyllid ond yn y pen draw, wrth gwrs, y Cynulliad cyfan, a (b) byddai'n rhaid iddo fod yn unol â sylwadau'r archwilydd cyffredinol cynorthwyol ynghylch blaenoriaethu'r rhaglenni—y rhai sy'n braf eu cael, y rhai sy'n gwbl hanfodol.
Rydym yn deall ein bod yn cael mwy o gyfrifoldebau a phwerau mewn perthynas â threth incwm. Mae yna rai pethau y mae angen iddynt ddigwydd o fewn y broses ehangach, os mynnwch, o rymuso'r Senedd yma. Mae rhai goblygiadau i hynny o ran cyllid, ond hefyd rwy'n ymwybodol fod y prif weithredwr wedi bod yn edrych ar niferoedd cyffredinol y staff, adleoli staff a defnyddio niferoedd staff hyd eithaf ei gallu. Credaf y byddwn yn edrych arno yn ei gyfanrwydd; nid yw ond yn deg inni wneud hynny. Ond i ailadrodd, gadewch i ni dynnu'r rhan am y bwrdd taliadau allan yn awr am nad yw mwyach yn rhan o'r trafodaethau, ac edrych yn lle hynny ar weddill y gyllideb a sut y mae wedi cynyddu ai peidio. Efallai y bydd gennych gyllideb ostyngol. Pwy a ŵyr? Credaf fod hynny'n annhebygol iawn, ond byddai'r Pwyllgor Cyllid yn sicr yn ei groesawu.
Ond yn fwy difrifol, rwy'n credu y bydd angen inni—mae'n rhesymol fel pwyllgor—osod penderfyniad y bwrdd taliadau o'r neilltu yn awr; mae hwnnw'n fater cwbl ar wahân, yn fwy yn nwylo'r Aelodau eu hunain yn ogystal. Felly, bydd yr Aelodau hefyd yn fwy uniongyrchol atebol am eu gwariant eu hunain. Efallai y bydd yn arwain at fwy o atebolrwydd uniongyrchol ar ran yr Aelodau a phobl yn gofyn cwestiynau ynglŷn â beth y mae'r Aelodau wedi gwario eu lwfansau arno, ond nid mater i mi nac i chi yw hynny ond atebolrwydd ehangach yr Aelodau yma i'r cyhoedd yng Nghymru.
Yn olaf, mae eich cwestiwn yn rhoi cyfle imi ddweud hefyd, ac atgoffa'r Aelodau, fod gennym Gomisiynwyr a hwy sy'n gyfrifol yn y pen draw am baratoi'r gyllideb. Y Pwyllgor Cyllid sy'n gwneud y gwaith o graffu ar y gyllideb, ond cyn hynny, does bosib nad oes ffordd i bobl drafod y materion neu'r blaenoriaethau yr hoffent eu gweld yn y gyllideb gyda'r Comisiynwyr.
A gaf fi gwestiynu'r rhagdybiaeth y dylid newid y llinell sylfaen yn awtomatig i adlewyrchu penderfyniadau dilynol y bwrdd taliadau? Oherwydd buaswn yn cwestiynu ai dyna'r ffordd y mae cyrff y sector cyhoeddus yn gweithredu. Yn aml iawn, byddant yn paratoi eu cyllideb ar un set o ragdybiaethau ac yna bydd pethau'n newid a bydd yn rhaid iddynt ysgwyddo'r costau hynny a gwneud arbedion mewn mannau eraill.
Er enghraifft, yn y trefniadau pensiwn newydd ledled y DU ar gyfer cynlluniau pensiwn yr optiwyd allan ohonynt o'r blaen, fel yn y GIG, mae'n fater pwysig iawn. Yn sydyn, bu'n rhaid iddynt dalu 2 y cant yn ychwanegol o yswiriant gwladol, ond nid oedd hynny'n golygu eu bod yn cael codiad o 2 y cant yn eu cyllideb i wneud iawn am hynny. Felly, i'r graddau bod y ffrâm allanol wedi newid, a bod y bwrdd taliadau wedi penderfynu, o'n cyllideb, y dylai cyfran rywfaint yn fwy fynd i'r Aelodau gyda mwy o hyblygrwydd i wario ar eu staff, buaswn yn cwestiynu a ddylem, neu'n wir, a oedd yr adroddiad cyllid blaenorol—roeddwn yn aelod o'r pwyllgor ar y pwynt hwnnw—yn awgrymu y dylid addasu rhywfaint ar gyfer hynny. Yn hytrach, oni allem edrych ar lle y gellid gwneud arbedion mewn mannau eraill, i'r graddau bod gan yr Aelodau fwy o hyblygrwydd dros eu lwfansau a'u lwfansau staffio, a allent gymryd rhai o'r pethau lle roedd y Comisiwn wedi bod yn darparu gwasanaethau cyn hynny efallai?
Unwaith eto, rwy'n cwestiynu, fel enghraifft arall yn unig, fod y swm sy'n cael ei dalu i bensiynau pawb ohonom gan Gomisiwn y Cynulliad yn codi tua 3 y cant y flwyddyn. Unwaith eto, mae hynny'n rhywbeth yr ydym wedi gorfod ei ystyried a sut i'w addasu. Pam yr ydym yn rhoi ein harian i fuddsoddiadau lle y gwyddom y byddant yn disgyn o ran eu gwerth dros amser? Oni ddylem fod yn gwneud penderfyniadau sy'n golygu bod yn rhaid rhoi llai o arian i mewn oherwydd y gallai elw ar y buddsoddiad fod yn uwch?
Ac rwy'n credu mai'r peth pwysicaf, tybed a ydych yn cytuno, wrth gadeirio'r Pwyllgor Cyllid, yw bod gweddill y sector cyhoeddus wedi wynebu cyni sylweddol wrth i'n cyllideb ni gynyddu'n eithaf sylweddol. Roeddwn yn meddwl, fel Pwyllgor Cyllid, ein bod o'r farn y dylem fod fel gweddill y sector cyhoeddus o hyn ymlaen.
Diolch i Mark Reckless. Nid wyf am gael fy nhemtio i ddadl ar gyni, a gwisgo het fwy gwleidyddol, ac fe ymdriniaf yn benodol â'i gwestiynau.
Credaf fod dryswch bach yma, os caf fod yn glir yn ei gylch. Roedd y gyllideb gyffredinol a ystyriodd y Pwyllgor Cyllid, ac a gyflwynodd y Comisiwn, yn cynnwys y swm hwnnw o arian ar gyfer y bwrdd taliadau, i bob pwrpas. Gan fod llai—wel, rhowch y peth yn y ffordd hon—gan fod mwy o hyblygrwydd bellach o fewn yr adnoddau hynny i Aelodau unigol wario'r hyn a fyddai wedi bod yn danwariant a gedwir, os mynnwch, yn gyffredin gan y Comisiwn, caiff hwnnw ei rannu'n 60 gwahanol tanwariant bellach y gallwn eu defnyddio wedyn a'u gwario ein hunain.
Felly, o ran ei honiad cyffredinol y mae'r Pwyllgor Cyllid yn cytuno ag ef, ac yr oedd yn cytuno ag ef—y dylai'r Comisiwn ymddwyn fel gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru—bellach mae angen inni ychwanegu 60 Aelod Cynulliad ac mae angen hefyd iddynt hwythau ymddwyn fel gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru. A gobeithio nad oes unrhyw Aelod Cynulliad yn credu fod cael mwy o hyblygrwydd dros eu gwariant yn golygu bod yn rhaid iddynt wario hyd at y terfyn, gan y bydd gofyn iddynt gyfiawnhau hynny, a hynny'n briodol.
Ond rwy'n credu—a dyma sydd wedi newid ers ei fod yn aelod o'r Pwyllgor, ac ers inni gyhoeddi'r adroddiad, cael ymateb pellach gan y Comisiwn ac ymateb yng ngoleuni'r bwrdd taliadau—rwy'n ei gweld hi'n deg ein bod yn tynnu'r bwrdd taliadau allan pan fyddwn yn barnu a yw'r Comisiwn wedi cynyddu'n unol â bloc Cymru ai peidio, oherwydd ni all y Comisiwn bellach ddefnyddio'r arian hwnnw na rheoli'r arian hwnnw. Fel rwy'n dweud, mae mewn 60 pâr gwahanol o ddwylo. Nid oes unrhyw benderfyniadau gan y Comisiwn i'w gwneud ynglŷn â'r swm—mater i'r bwrdd taliadau i'w benderfynu yw hynny. Ac felly, credaf ei bod yn rhesymol ein bod yn tynnu'r darn hwnnw allan ac yna'n herio gweddill y gyllideb yn yr un ffordd yn union ag y mae'n awgrymu, yn yr un ffordd yn union ag y gofynnodd y Pwyllgor Cyllid, ac nid wyf yn gweld y Pwyllgor Cyllid yn bod yn llai trwyadl yn hynny o beth nag y bu yn y gorffennol.
O ran hynny, rwy'n dychwelyd at yr hyn a ddywedais yn y datganiad: byddem yn disgwyl i'r Comisiwn weithredu fel gweddill y sector cyhoeddus, ystyried cyni, a gwybod ein bod oll yn atebol, nid yn unig am y penderfyniadau gwario unigol hynny, ond am benderfyniadau gwariant cyffredinol y Cynulliad. Ceir prosiectau mawr posibl ar y gorwel a bydd angen i'r Comisiwn ystyried sut y mae hynny'n gweddu orau i'w ddull o weithredu, fel corff cyhoeddus. Felly, ni chredaf ein bod wedi gochel rhag hynny, ond credaf inni fod yn rhesymol o ran y newidiadau sydd wedi codi ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi gyntaf.
Diolch i'r Cadeirydd.