9. Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Integreiddio Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:53 pm ar 26 Mehefin 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:53, 26 Mehefin 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn ichi am y sylwadau hynny, a chyn imi ymateb i'r pwyntiau hynny, rwy'n sylweddoli fy mod wedi anghofio ateb y pwynt a godwyd gan Angela Burns o ran sut yr ydym ni'n mynd i fod yn monitro a goruchwylio'r hyn sy'n wariant sylweddol. Mae trefniadau monitro a gwerthuso effeithiol yn bwysig er mwyn rhoi'r sicrwydd hynny i ni fod arian cyfalaf y gronfa gofal integredig yn cael ei ddefnyddio'n llawn i gefnogi gwasanaethau integredig ac ataliol effeithiol, ac, wrth gwrs, pan fyddwn yn gweld y prosiectau yn cael eu cyflwyno, bydd hefyd yn ein helpu ni i wybod ble yr ydym ni'n mynd o ran gwariant yn y dyfodol drwy fuddsoddi cyfalaf y gronfa gofal integredig hefyd. Felly, mae'n rhaid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol sicrhau bod ganddynt drefniadau monitro cadarn ar waith i sicrhau bod cynlluniau a ariennir drwy gyfalaf y gronfa gofal integredig yn cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd, a hynny ar amser ac o fewn y gyllideb. Mae'n rhaid sefydlu trefniadau gwerthuso hefyd i nodi a rhoi tystiolaeth o'r effaith, yn ogystal â'r defnydd priodol cyffredinol o arian, ac mae'n rhaid llunio adroddiadau chwarterol, fel y nodir yn y canllawiau a gyflwynir i fyrddau partneriaeth rhanbarthol. O ran goruchwylio'r brif raglen gyfalaf, wel, dylid cytuno ar brosiectau ar lefel y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, ond wedyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru. Rydym yn nodi bod honno yn lefel briodol o oruchwyliaeth yn y fan honno. Fodd bynnag, mae'n rhaid bod prosesau craffu a chymeradwyo mewnol cadarn ar gyfer byrddau partneriaeth rhanbarthol, o ran y rhaglen gyfalaf ddewisol, ond byddai angen i hynny fod yn gymesur â lefel y prosiectau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yn y fan yna. Felly, mae prosiectau dewisol yn unrhyw beth o dan £100,000, a phrif brosiectau yn unrhyw beth dros £100,000.

Mae tai gwael yn arwain at iechyd gwael. Mae hynny yn sicr wedi'i gydnabod, rwy'n meddwl, ac mae hynny'n rhywbeth a nodwyd yn gryf iawn yng nghyfraniad Dai Lloyd. Y math o brosiect yr oedd yn ei ddisgrifio yn gynnar yn ei gyfraniad, prosiect sy'n dangos arfer da, yn sicr yw'r math o brosiect yr ydym ni'n ei ystyried o ran gofal ychwanegol. Mae gan Lywodraeth Cymru hanes hir o gefnogi gofal ychwanegol ers 2002. Gyda chymorth £197 miliwn o arian Llywodraeth Cymru, rydym wedi gweld 49 o gynlluniau gofal ychwanegol yn cael eu hariannu ledled Cymru, gan ddarparu dros 2,000 o gartrefi i bobl hŷn, lle y gallan nhw gynnal eu hannibyniaeth ac osgoi'r angen i gael eu derbyn i ysbyty yn ddiangen. Ond rwy'n credu bod cyllid cyfalaf y gronfa gofal integredig, yr ydym wedi'i gyhoeddi heddiw, mewn gwirionedd yn mynd â'r ymrwymiad hwnnw i lefel newydd yn awr, ac yn sicr, byddwn i'n dychmygu y gallai rhai o'r rhai hynny a gyflwynir drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol fod yn brosiectau gofal ychwanegol, oherwydd rwy'n credu bod gofal ychwanegol wedi datblygu llawer o fod yn llety gwarchod, oherwydd gall fod gofal i bobl ar y safle, felly mae hynny'n golygu y gellir ymateb i anghenion iechyd a gofal cymdeithasol pobl yn gyflym ac mewn ffordd gyfrifol, a gall eu helpu i ymdopi'n well ag argyfyngau. Hefyd, allwn ni ddim anghofio swyddogaeth bwysig technoleg gofal wrth gynorthwyo pobl i reoli eu risgiau yn well, a hefyd â rhywfaint o fonitro arwyddion hanfodol pobl, sy'n helpu o ran gofal iechyd rhagweithiol, a goruchwylio clinigol estynedig, ac mae hynny'n lleihau nifer y derbyniadau i ysbytai ac yn galluogi rhyddhau pobl yn gynharach, unwaith eto, o ysbytai. Felly, rwy'n credu y byddwn ni'n sicr yn gweld rhai o'r prosiectau cam-i-fyny, cam-i-lawr hynny yn cael eu cyflwyno gan fyrddau partneriaeth rhanbarthol, ac rwy'n siŵr y byddai croeso mawr i hynny hefyd.

O ran lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol integredig, mae hyn yn rhan arall o'r ymateb a amlinellodd Vaughan Gething o ran yr arolwg seneddol, a nodwyd ffrwd o 19 o brosiectau ym mis Rhagfyr yn rhan o £68 miliwn o fuddsoddiad mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal integredig. Thema y ffrwd yw integreiddio, ac mae byrddau iechyd yn ystyried gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid cyflawni, gan gynnwys awdurdodau lleol, cymdeithasau tai a'r trydydd sector. Bydd y model gofal ar gyfer pob un o'r rhai hynny yn wahanol. Deallaf fod achosion busnes wrthi'n cael eu datblygu, ac mae yna ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid i nodi cyfleoedd i hybu integreiddio. Hwn mewn gwirionedd yw'r buddsoddiad mwyaf wedi'i dargedu mewn seilwaith gofal sylfaenol a gofal cymunedol gan Lywodraeth Cymru erioed, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld y prosiectau hynny yn datblygu.

Roedd yna gwestiwn ynghylch sut yr ydym ni'n ariannu hyn, oherwydd, yn amlwg, mae angen cyllid refeniw ar y prosiectau hyn hefyd. Felly, yn y flwyddyn ariannol hon, mae'r Gweinidog gofal cymdeithasol wedi cyhoeddi y bydd £50 miliwn o arian refeniw yn y gronfa gofal integredig hefyd. Ac, yn amlwg, mae yna gyfleoedd i gyfuno'r cyllid hwn â chyllid adfywio, er enghraifft, â chyllid arall o iechyd. Felly, mae'n bosibl y gallai hyn gynnig cyfle i edrych ar fannau eraill am gyllid ar gyfer prosiectau sy'n bodloni amcanion ehangach eraill hefyd. Ond yn sicr, mae'r refeniw yno i gefnogi'r hyn sydd ei angen.