1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 27 Mehefin 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am addysgu sgiliau digidol mewn ysgolion yng Ngogledd Cymru? OAQ52416
Diolch. Mae ysgolion ledled Cymru yn croesawu dysgu digidol yn barod ar gyfer ein cwricwlwm cyffrous newydd. Roeddwn yn falch iawn o weld ysgolion o ogledd Cymru yn cyfrannu at ein digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol yn ddiweddar, ac mae'r ysgolion hyn yn cynorthwyo eraill i wireddu ein cenhadaeth genedlaethol i sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn ddigidol gymwys.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Darllenais yn ddiweddar eu bod yn gwthio ffiniau yn Tsieina mewn perthynas â sgiliau codio, a bod hyd yn oed plant cyn ysgol yn dysgu'r sgiliau sylfaenol, gan ddefnyddio apiau a gwersi ar-lein yn aml. Mae bron i flwyddyn wedi bod bellach ers eich datganiad ar 'Cracio'r Cod' lle y dywedoch y byddech yn annog clybiau codio i ffurfio ledled Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, flwyddyn yn ddiweddarach, faint o glybiau codio sydd i'w cael, faint o blant sydd wedi elwa, a sut rydych yn gwerthuso unrhyw effeithiolrwydd?
Diolch. Fel y dywedoch, Mandy, y llynedd, fe gyhoeddasom fuddsoddiad o dros £1 filiwn i ddatblygu clybiau codio ledled Cymru, ac rydym wedi gweld cynnydd yn hynny o beth. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gydag union niferoedd y cyfranogwyr os oes modd inni gael gafael arnynt.FootnoteLink Yr wythnos diwethaf, yn y digwyddiad dysgu digidol cenedlaethol, cyfarfûm â phlant o bob rhan o Gymru sy'n defnyddio cod i ddatblygu adnoddau addysgol, apiau, ac mewn rhai achosion, mae'r apiau hynny bron â bod yn barod i'w masnacheiddio, a'u rhoi ar y farchnad.
Yn rhanbarth yr Aelod, hoffwn dynnu sylw at yr arferion da yn Ysgol St Christopher yn Wrecsam. Mae'n un o'n hysgolion arbennig mwyaf yng Nghymru, ac mae ganddynt glwb codio llwyddiannus iawn y mae llawer o'u plant yn aelodau ohono, gan gydnabod bod y sgiliau hyn yn berthnasol i bob un o'n plant, waeth beth fo'u hanghenion dysgu ychwanegol, a byddwn yn parhau i gefnogi'r ymarfer da hwnnw ledled y wlad.
Tynnwyd cwestiwn 5 [OAQ52421] yn ôl. Felly, cwestiwn 6, Russell George.