Hyrwyddo Ymgysylltiad Moesegol mewn Chwaraeon

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:10, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Buaswn wrth fy modd yn cydweithio gyda chaplaniaid yn y maes hwn. Rwy'n ymwybodol o rai o'r caplaniaid chwaraeon hyn ac rwy'n edmygu eu gwaith yn fawr iawn. Rwy'n meddwl yn benodol am y gwaith caplaniaeth sy'n mynd rhagddo yn Abertawe. Felly, buaswn yn fwy na pharod i gymryd rhan yn y cyfarfod hwnnw gan ei bod yn bwysig annog gweithgarwch gwirfoddol cymunedau ffydd, ac mae hynny'n cynnwys yr holl gymunedau ffydd, yn amlwg, ac efallai fod lle i gael rhagor o gaplaniaethau dyneiddiol yn y maes hwn, ond nid wyf am drafod hynny y prynhawn yma.