4. Datganiadau 90 Eiliad

– Senedd Cymru am 3:14 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 3:14, 4 Gorffennaf 2018

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, a'r datganiad cyntaf, David Rees.

Photo of David Rees David Rees Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Yn ystod yr wythnos y dathlwn ben blwydd ein gwasanaeth iechyd gwladol yn 70 oed, rydym hefyd wedi colli un o'i harloeswyr ym maes gofal sylfaenol. Ganwyd Julian Tudor Hart ym 1927 yn Llundain, yn fab i feddygon a oedd yn weithgar yn wleidyddol. Ffurfiwyd ei werthoedd a'i gredoau gan ei fagwraeth gynnar mewn cartref a oedd wedi'i drwytho mewn gwleidyddiaeth radical, ac a gâi ei ddefnyddio'n rheolaidd fel man trosglwyddo ffoaduriaid a oedd yn ffoi rhag gorthrwm ffasgaidd yn Ewrop—gwerthoedd a chredoau a arhosodd gydag ef dros weddill ei fywyd.

Dilynodd Julian lwybr gyrfa ei dad ac astudio meddygaeth yng Nghaergrawnt cyn symud i Lundain. Ar ôl graddio, cafodd swyddi mewn ysbytai ac ym maes ymarfer cyffredinol trefol cyn gweithio yn Uned Epidemioleg y Cyngor Ymchwil Feddygol dan arweiniad Archie Cochrane, lle y cyfarfu â'i wraig a'i bartner ymchwil, Mary. Nawr, dysgodd y cefndir hwn ym maes epidemioleg ef i astudio sut roedd ffyrdd o fyw ei gleifion yn achosi eu salwch, a bu'n gweithio gyda hwy i wella hyn.

Ym 1961, symudodd i gymuned lofaol Glyncorrwg yng nghwm Afan a sefydlu practis, lle'r arhosodd am 30 mlynedd nes iddo ymddeol. Trodd Julian Lyncorrwg yn enw rhyngwladol sy'n gysylltiedig ag ymarfer cyffredinol arloesol. Roedd yn ddyn a ganolbwyntiai ar ddamcaniaeth ac ar weithredu. Roedd yn ymchwilydd, yn ddarlithydd, yn awdur erthyglau, papurau a llyfrau, gyda llawer o'i syniadau mwyaf arloesol yn gwneud eu ffordd i mewn i ymarfer bob dydd. Mae ei gysyniad o ddeddf gofal gwrthgyfartal yr un mor berthnasol yn awr â phan gafodd ei gyhoeddi yn The Lancet ddegawdau yn ôl—yn wir, mor bell yn ôl ag 1971. Ag yntau'n ddyn â gweledigaeth go iawn, cyflawnodd lawer o brosiectau ymchwil mewn lleoliadau cymunedol, rhywbeth yr oedd llawer o bobl yn dweud na ellid ei wneud, ond roedd yn llwyddiannus oherwydd bod ganddo ffydd yn allgaredd dinasyddion Glyncorrwg a chwm Afan uchaf, ac roeddent yn ymddiried ynddo ac yn ei barchu.

Teimlai'n angerddol fod gan bawb hawl i ofal iechyd da, ac na fyddai'n bosibl targedu gwasanaethau at y rhai oedd eu hangen fwyaf oni bai bod y gwasanaeth iechyd gwladol yn rhydd rhag dylanwadau'r farchnad ac wedi'i ganiatáu i ganolbwyntio'n unig ar les cleifion.

Lywydd, gallwn barhau am 90 eiliad arall, oherwydd roedd ei fywyd yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny, hyd yn oed ar ôl iddo ymddeol. Roedd Julian Tudor Hart, ac mae'n parhau i fod, yn un o gewri go iawn y gwasanaeth iechyd gwladol.

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:16, 4 Gorffennaf 2018

Mae cyfraniad Meic Stephens, a fu farw ddoe yn 79 oed, tuag at lenyddiaeth Cymraeg a Chymreig yn amhrisiadwy. Drwy ei waith diflino fel awdur, bardd, cyfarwyddwr cyngor y celfyddydau, sefydlwr cylchgronau ac athro prifysgol fe ehangodd ein gwerthfawrogiad a’n dealltwriaeth o ystod llenyddiaeth ein cenedl yn y ddwy iaith.

Yn enedigol o Drefforest, fe aeth ati gydag arddeliad i addysgu ei hun, gan dreulio cyfnodau yn Aberystwyth, Bangor a Rennes yn Llydaw cyn mynd ati i ddysgu gwahanol grefftau, fel athro Ffrangeg yng Nglyn Ebwy ac yna'n newyddiadurwr gyda’r Western Mail. Er mai ar aelwyd di-Gymraeg y cafodd ei fagu, penderfynodd gofleidio ei dreftadaeth Gymraeg gydag arddeliad. Roedd yn genedlaetholwr i’r carn. Yn wir, fe oedd yn gyfrifol am ysgrifennu’r slogan bythgofiadwy ‘Cofiwch Dryweryn’ ar y graig yna ger Llanrhystud: gweithred chwyldroadol bwysig gan ŵr hynaws a meddylgar. Mae dyled Cymru i Meic Stephens yn anferth, a bydd yn cael ei gofio am byth fel arwr llenyddol cenedlaethol.

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 3:17, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gynharach eleni, roeddem yn coffáu canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Derbyniodd mwy na 5 miliwn o ddynion dosbarth gweithiol yn bennaf y bleidlais a daeth bron 8.5 miliwn o fenywod yn bleidleiswyr hefyd. Ond ni chafodd y menywod hyn yr etholfraint ar sail gyfartal. Yn hytrach, o dan y Ddeddf honno, roedd yn rhaid i bleidleiswyr newydd a oedd yn fenywod fod dros 30 oed. Roedd yn rhaid iddynt hwy neu eu gwŷr fodloni cymwysterau eiddo llym hefyd. Roedd yn rhaid i gydraddoldeb o ran yr etholfraint aros degawd arall. Ar 2 Gorffennaf 1928 y daeth Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (Etholfraint Gyfartal) yn gyfraith. Roedd y Ddeddf hon yn caniatáu i bob menyw dros 21 oed bleidleisio, heb ystyried yr eiddo roeddent yn berchen arno, heb ystyried eu gwŷr.

Mae rhai sylwebyddion wedi cyfeirio at y consensws a'r diffyg dadlau ynglŷn â hyn, gan awgrymu, efallai, fod yna elfen o anocheledd hanesyddol. Mae'n rhaid i ni beidio â gwneud y camgymeriad o anwybyddu natur drawsnewidiol Deddf 1928. Daeth gwleidyddiaeth yn fwy cynrychioliadol. Cafwyd cynnydd o oddeutu 7,000 yn nifer yr etholwyr yn Aberdâr, er enghraifft, ac o'r diwedd, gallai menywod bleidleisio ar sail gyfartal i ddynion bellach. Mae esgeuluso'r achlysur hanesyddol hwn hefyd yn gwneud anghymwynas â'r ymgyrchwyr a fu'n brwydro yn y cyfamser dros yr egwyddor hon o gydraddoldeb, ymgyrchwyr fel Is-Iarlles Rhondda. Gyda Deddf 1928 yn dathlu ei phen blwydd yn 90 oed, rydym yn cofio'r hyn a alwyd gan un sylwebydd 'y symlaf, ac eto'r mwyaf radical o ddiwygiadau'.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:19, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, a gobeithio y gwnewch chi edrych ar y sgriniau yn awr, os gwelwch yn dda. Roeddwn wrth fy modd yn mynychu degfed Diwrnod Cenedlaethol y Lluoedd Arfog 2018, a gynhaliwyd yn Llandudno ddydd Sadwrn gyda fy nghyd-Aelod, Darren Millar AC. Roedd llawer o gyffro wedi datblygu eisoes wrth weld ffrigad HMS Somerset yn cyrraedd bae Llandudno, ynghyd â dyfodiad tanciau'r fyddin ar y promenâd gan gynnwys hofrennydd Jackal ac awyren jet Typhoon. Fe safem, gyda phobl bwysig eraill, yn llawn cyffro i'r orymdaith gychwyn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 3:20, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Yn yr heulwen gogoneddus, daeth Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol, ein Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Theresa May, Ffiwsilwr Shenkin IV, yr afr gatrodol, oddi ar y Gogarth, a 100,000 o bobl i sefyll ar Bromenâd Traeth y Gogledd, gan gymeradwyo'n frwd i ddangos eu cefnogaeth i'r holl unigolion a theuluoedd sy'n gwasanaethu'n anhunanol yn ein lluoedd arfog. Eleni, sydd hefyd yn nodi canmlwyddiant yr awyrlu brenhinol, roedd yn arbennig o hyfryd gweld arddangosiad y Red Arrows yn dod i ben gyda'r rhif 100 wedi'i beintio ar draws yr awyr a'i ddilyn gan ehediad yr awyrlu brenhinol i goffáu Brwydr Prydain.

Lywydd—Ddirprwy—hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a oedd yn rhan o'r trefniadau ac i'r rhai a gymerodd ran mewn digwyddiad mor hynod o gofiadwy. Cyfrannodd y digwyddiad yn arbennig i gydnabod ymrwymiad dewr ac eofn ein milwyr a'n cyn-filwyr, ac yn syml i ddweud 'Diolch'.