6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Carillion a Capita

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 4:59, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cymeradwyo Lee Waters am gyflwyno'r cynnig hwn gerbron y Cynulliad y prynhawn yma ac am natur gryno a chywir ei araith a'i diagnosis. Roeddwn yn cytuno â phopeth a ddywedodd. Mae hwn yn achos gwrthun. Mae Carillion, sef yr hyn rwyf am ganolbwyntio arno'n arbennig, yn gwmni sydd wedi gadael £7 biliwn mewn rhwymedigaethau wrth iddo fynd i'r wal, a £2 biliwn o hwnnw i gyflenwyr a £2.5 biliwn i'r gronfa bensiwn. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod bod yr achos hwn yn enghraifft o fethiant ar bob lefel. Yn gyntaf ac yn fwyaf amlwg, wrth gwrs, methiant rheoli ar ran y rhai a oedd yn gyfrifol am redeg y cwmni, fel y mae adroddiad y pwyllgor busnes yn Nhŷ'r Cyffredin ei wneud yn glir, gyda methiant y cyfarwyddwyr anweithredol i graffu ar y cyfrifon, a'u methiant i herio'r swyddogion gweithredol corfforaethol a'u methiant llwyr yn eu holl ddyletswyddau. Methodd y prif swyddogion gweithredol corfforaethol reoli'r cwmni gydag unrhyw gymhwysedd o gwbl, na gonestrwydd o bosibl. Mae hynny yn dal i gael ei ymchwilio.