6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Carillion a Capita

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 5:05, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Llanastr Carillion yw'r enghraifft ddiweddaraf o fethiant grymoedd y farchnad a'r polisi preifateiddio a daniodd dwf dilyffethair cwmnïau fel Carillion. Dylid ystyried adroddiadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol a chyd-bwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin fel mwy na dadansoddiad o fethiant un cwmni, ond fel datgeliad o'r llygredd economaidd a gwleidyddol sydd wrth wraidd yr hyn a elwir yn economi marchnad rydd. Am y rheswm hwn, mae'r ddadl yn amserol ac yn uniongyrchol berthnasol i'r Cynulliad hwn os ydym i ddilyn llwybr economaidd a chymdeithasol gwahanol, un sy'n hyrwyddo polisi partneriaeth gymdeithasol, yn cydnabod pwysigrwydd y sector cyhoeddus, ac yn cydnabod rôl sylfaenol y Llywodraeth yn darparu a hyrwyddo cyfrifoldeb cymdeithasol, cyflogaeth foesegol a chydraddoldeb cymdeithasol.

Roedd maniffesto'r Ceidwadwyr yn 2017 yn datgan,

Nid ydym yn credu mewn marchnadoedd rhydd dilyffethair. Rydym yn gwrthod cwlt unigolyddiaeth hunanol. Rydym yn ffieiddio at raniadau cymdeithasol, anghyfiawnder, annhegwch ac anghydraddoldeb. Ystyriwn fod dogma ac ideoleg anhyblyg nid yn unig yn ddiangen ond yn beryglus.

Ac yn union fel yr ymrwymiad ym maniffesto'r Torïaid i drydaneiddio rheilffyrdd, yn union fel yr ymrwymiad ym maniffesto'r Torïaid i'r morlyn llanw, dyma addewid arall a dorwyd. Dyma dwyll a chelwydd etholiadol arall.

Yn ei lyfr, The Corruption of Capitalism, mae Guy Standing yn egluro sut y daeth cyfalafiaeth fyd-eang yn system wedi'i rigio o blaid plwtocratiaeth—elît sy'n cyfoethogi ei hun, nid drwy gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau, ond drwy berchnogaeth ar asedau, gan gynnwys eiddo deallusol, wedi'u cynorthwyo gan gymorthdaliadau, gostyngiadau treth, mecanweithiau dyled a drysau troi rhwng gwleidyddiaeth a busnes a phreifateiddio gwasanaethau cyhoeddus.

Yn y cyfamser, o'n hamgylch gwelwn gyflogau'n aros yn eu hunfan wrth i farchnadoedd llafur gael eu trawsnewid drwy gontractio allanol, awtomatiaeth a'r economi ar alw. Ac mae stori Carillion yn rhan o'r stori barhaus honno—cwmni sy'n byw oddi ar gaffael cyhoeddus a phreifateiddio ar anel tua'r gwaelod yn barhaus o ran darpariaeth, safonau a moeseg o dan Lywodraeth sydd wedi gwerthu ei henaid i'r farchnad breifat. Gwelwn arwyddion nodweddiadol o hyn gydag obsesiwn difeddwl y Torïaid gyda phreifateiddio'r masnachfreintiau rheilffyrdd aflwyddiannus. Fe'i gwelwn yma gyda'r Torïaid yng Nghymru a'u hobsesiwn â galwadau am ail-breifateiddio maes awyr Caerdydd, a oedd wedi methu dan breifateiddio.

Wrth i Carillion ddechrau gwegian, parhaodd y Cyfarwyddwyr i gynyddu difidendau a bonysau i swyddogion gweithredol, gan drin y gronfa bensiwn gyda dirmyg. Fel y dywedwyd, mae'r adroddiad yn ddamniol. Mae'r canlyniadau'n amlwg, gyda'r trethdalwr yn cael ei adael i dalu cymaint o'r bil ar gyfer glanhau llanastr Carillion, ac mae methiant y system reoleiddio wedi ei waethygu gan yr hyn sy'n ymddangos yn gydgynllwynio rhwng rheoleiddwyr, cyfrifwyr, Llywodraeth, cyfreithwyr a chyfarwyddwyr, ar draul pawb arall yn y pen draw. A bachodd yr archwilwyr amrywiol £72 miliwn. Methodd Llywodraeth y DU gefnogi cynllun a allai fod wedi adennill £364 miliwn gan Carillion. Cafodd y gronfa bensiwn ei hamddifadu a'i gadael gyda rhwymedigaeth bensiwn o oddeutu £2.6 biliwn, miloedd o weithwyr na chafodd eu talu, a gadawyd cwmnïau a chyflenwyr bach i dalu bil o oddeutu £2 biliwn ac mae 27,000 o bensiynwyr bellach yn byw ar bensiynau llai.

Ysgrifennydd y Cabinet, mae fy rheswm dros gefnogi'r cynnig hwn yn ymwneud nid yn unig â thynnu sylw at Carillion a chwmnïau tebyg, ond ag amlygu'r union system sydd wedi creu bwystfilod fel Carillion a gadael iddynt ffynnu. Yn ogystal â galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad ar y gwersi i Gymru, rhaid inni edrych am ffordd wahanol o wneud busnes, un sy'n cydnabod pwysigrwydd y sector cyhoeddus, yn cydnabod manteision perchnogaeth gyhoeddus a chydweithredu mewn rhai sectorau, yn cydnabod y dylai ein polisi economaidd a'n caffaeliadau gwerth £5 biliwn neu fwy fod yn seiliedig ar safonau busnes moesegol, safonau cyflogaeth moesegol, gwaith teg, diwedd ar ddiwylliant isafswm cyflog, diwedd ar ddiwylliant o hunangyflogaeth orfodol a dim oriau, cydnabyddiaeth o rôl bwysig undebaeth yn cyflawni'r amcanion hyn, a fframwaith gweithredu trosfwaol o gyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a ffyniant i bawb.

Yn y system economaidd fyd-eang newydd rydym yn ei chroesawu—system o hyperdechnoleg, awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial—rhaid inni sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o'r gorffennol fod system sy'n seiliedig ar athroniaeth trachwant a chamfanteisio yn sicr o fethu. Rhaid inni ddangos, yng Nghymru, y gallwn wneud pethau'n wahanol, y gallwn wneud pethau'n well, er mwyn busnes, er mwyn gweithwyr ac er mwyn ein cymunedau.