Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Roeddwn yn bwriadu siarad am Capita, ond mae clywed yr enw'n fy atgoffa o'r cyfarfod a gafodd Jane Hutt a minnau y bore yma gyda dioddefwyr, yn bennaf, yn sgil mewnblaniadau rhwyll drwy'r wain, a oedd, yn ddigymell, yn gwbl gynddeiriog ynglŷn â rôl Capita ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau yn asesu'r bobl hyn i weld a oeddent yn dal i fod yn gymwys i gael lwfans mynychu yn ogystal â budd-daliadau anabledd eraill ai peidio, a gwrthodiad Capita i ganiatáu'r urddas i bobl gael asesiad yn eu cartref. Dyma bobl sy'n dioddef o anymataliaeth, ac mae llawer ohonynt yn cerdded gyda ffyn baglau oherwydd bod ganddynt broblemau ychwanegol gyda'u cefn a phroblemau symudedd. Ac oherwydd eu bod wedi ymdrechu i gyrraedd cyfarfod ynghanol Caerdydd gyda Capita, barnwyd felly nad oeddent yn gymwys i gael lwfans symudedd. Anhygoel. Mae hyn yn hollol groes i'r gwasanaeth cyhoeddus sydd gennym yma yng Nghymru.
Beth bynnag, mae'r prif sylwadau roeddwn eisiau eu gwneud yn ymwneud â phwy sy'n archwilio'r archwilwyr, gan mai'n anaml y caiff ei ofyn, ac yng nghyd-destun Carillion, mae angen ei ofyn. Oherwydd archwiliadau da yw conglfaen marchnadoedd ariannol teg a thryloyw a phenderfyniadau busnes da, ac mae'r system hon o archwilio gwariant cyhoeddus yn dyddio'n ôl dros fwy na chanrif. Pam y dylem orfod darllen rhwng y llinellau i ganfod beth y mae'r archwilwyr yn ei feddwl mewn gwirionedd? Maent wedi datblygu cod ar gyfer galluogi'r bobl ar y tu mewn, y rhai sy'n gwybod, i sylweddoli efallai fod rhywbeth amheus yn digwydd, ond nid y darpar fuddsoddwr cyffredin, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Rhaid inni sicrhau bod archwilwyr yn fwy atebol am eu gweithredoedd oherwydd methiant enfawr Carillion, lle roedd eu gwaith cyhoeddedig mewn gwirionedd yn ffuglen lwyr.
Yn rhyfeddol, ceisiodd KPMG ddadlau nad oedd ei annibyniaeth wedi'i amharu gan 19 mlynedd o archwilio Carillion. Credaf fod hynny y tu hwnt i grediniaeth ac mae angen ei newid. Un o'r ffynonellau uniongyrchol o wrthdaro buddiannau yw bod archwilwyr yn cael eu talu gan y cwmni y maent yn ei archwilio—y bobl y maent i fod i'w plismona. Mae hynny ynddo'i hun yn creu gwrthdaro buddiannau posibl. Mae'r ymchwiliad ar y cyd rhwng pwyllgor gwaith a phensiynau a phwyllgor busnes Tŷ'r Cyffredin i Carillion yn argymell bod y Llywodraeth yn cyfeirio'r farchnad archwilio at yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, am fod y pedwar mawr i bob pwrpas yn gweithredu cartél cyfforddus lle mae eu gwaith archwilio yn eilbeth i'w busnes llawer mwy proffidiol yn cynghori cwmnïau, ac fel y gwelwyd gyda Carillion, maent mewn llawer o ffyrdd yn gwrthdaro'n uniongyrchol—y ddau weithgaredd.
Felly, rhaid inni naill ai hollti'r pedwar mawr yn rhagor o gwmnïau archwilio, neu mae'n rhaid inni ddatgysylltu'r canghennau archwilio oddi wrth y gwasanaethau ymgynghorol proffidiol sydd wedi dod i dra-arglwyddiaethu yn y cwmnïau cyfrifyddiaeth hyn, ac mae pob un o'r pedwar wedi ehangu i wneud hyn yn y blynyddoedd diwethaf. Gwaith nad yw'n waith archwilio sy'n gyfrifol am £4 o bob £5 o incwm ffioedd a gesglir gan y pedwar mawr bellach. Felly, gallwch weld bod anghydbwysedd llwyr yn barod. Bydd hyn, rwy'n gobeithio, yn cael cefnogaeth o ystyried y diffyg cystadleuaeth yn y farchnad, yn enwedig i'r cwmnïau mawr. Archwilir 97 y cant uchaf o'r 350 cwmni mwyaf ym Mhrydain gan y pedwar mawr. Mae'r sefyllfa'n gwaethygu, gan fod y pumed cwmni mwyaf, Grant Thornton, wedi dweud nad ydynt yn mynd i dendro am waith archwilio ar gyfer cwmnïau FTSE 100 mwyach oherwydd bod y gost o wneud cais am waith y maent yn annhebygol o'i gael yn rhy fawr.
Nawr, fe ymchwiliodd y Comisiwn Cystadlu, a ragflaenai'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd, i'r diffyg cystadleuaeth ym maes archwilio rhwng 2011 a 2013, ond diystyrodd y syniad o hollti'r pedwar mawr. Un o'r rhesymau a roddwyd ganddynt oedd bod angen i archwilwyr fod yn fawr am eu bod yn ysgwyddo atebolrwydd diderfyn am eu hargymhellion. Ond mae'r ffioedd sydd ar gael yn annhebygol o fod yn werth digon i wneud i gwmnïau archwilio bach fod eisiau ysgwyddo risg cyfrif archwilio mawr.
Rydym wedi gweld yn y gorffennol nad yw bod yn fawr yn diogelu sefydliadau rhag mynd i'r wal. Cofiwch fod pum cwmni mawr yn arfer bodoli, ac aeth Arthur Andersen i'r wal oherwydd eu methiant i archwilio Enron yn briodol. Credaf fod yna beryglon anferth i Lywodraeth Cymru o beidio â gwneud dim, oherwydd gadewch inni gofio mai Abellio oedd un o'r cwmnïau a gymeradwywyd ar y rhestr fer y gellid bod wedi dyfarnu'r contract iddo redeg masnachfraint Cymru a'r gororau, pe na bai Carillion wedi mynd i'r wal yn gynharach, gan eu tynnu allan o'r farchnad. Yn gyffredinol, rwy'n credu—