6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Carillion a Capita

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:47, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi gymeradwyo anerchiad agoriadol Lee Waters yn y ddadl hon a'i gymeradwyo hefyd am fod yn bennaf gyfrifol am gyflwyno'r ddadl hon ger ein bron? Roeddwn yn mynd i ganolbwyntio ar gyflawniad, neu ddiffyg cyflawniad, Capita mewn perthynas â'r adroddiad hwnnw gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Lloegr ynghylch prynu gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gan gyflenwyr allanol, neu bartneriaethau cydwasanaethau GIG, fel rydym yn eu galw yma yng Nghymru.

Nawr, mae ymarfer cyffredinol yn endid hynod gymhleth sy'n anodd i unrhyw un nad yw'n feddyg teulu ddeall beth sy'n digwydd, ac mae'n anodd i feddygon teulu egluro i unrhyw un arall sut y mae'n gweithio. Felly, dyma ni—ond dyna oedd un o'r problemau gyda'r contract Capita: nid oeddent yn deall cymhlethdod yr holl beth, gan fod meddygon teulu, ar y cyfan, yn gontractwyr annibynnol sydd dan gontract gyda'r GIG yn unig yn y bôn. Felly, o'i roi'n syml, mae'r GIG yn talu i bractisau meddygon teulu yn ôl nifer y cleifion sydd ganddynt, ac yn y bôn, yr hyn y maent yn tueddu i'w wneud i'r cleifion hyn, pa wasanaethau y maent yn darparu ar eu cyfer, faint sy'n cael eu himiwneiddio a phethau. Cânt eu cytuno drwy amrywiaeth o ganllawiau fframweithiau ansawdd a chanlyniadau cymhleth, i ddarparu gwasanaethau ar gyfer canser cronig, diabetes, clefyd y galon. Caiff yr holl fath hwnnw o ddarpariaeth gwasanaeth ei gyfrifo'n fanwl, glaf wrth glaf. Mae'n hynod o gymhleth, ac mae'n mynd yn ôl at y cymorth gofal sylfaenol lleol, neu bartneriaeth cydwasanaethau'r GIG, sy'n ymdrin â'r rhwymedigaeth gytundebol honno. Felly, maent wedyn yn rhoi swm go fawr o arian i'r ymarfer cyffredinol unigol. O'r arian hwnnw sy'n cyrraedd y practis, mae'r meddygon teulu annibynnol dan gontract wedyn yn cyflogi rheolwr practis i redeg y practis. Maent yn cyflogi staff derbynfa, maent yn cyflogi meddygon teulu cyflogedig a nyrsys practis eraill ac ar ôl yr holl gyflogaeth, maent yn rhannu'r gweddill fel cyflog net fel y'i gelwir ar gyfer pob un o ymarferwyr y practis. Mae'n hynod gymhleth, ac ymdrinnir â hyn oll gan y gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol, sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phractisau unigol.

Mae yna gannoedd o feddygon teulu, caiff ein cleifion eu monitro’n unigol, cofrestriadau cleifion unigol, gadael a mynd—mae'n anhygoel o gymhleth, ond nid yw'n dod i ben gyda phractisau meddygon teulu yn unig. Maent yn cyflawni'r un dadansoddiad manwl ar gyfer fferyllwyr, optegwyr a deintyddion. Felly, mae'r cymorth busnes, os mynnwch, ar gyfer ymarfer gofal sylfaenol yn anhygoel o gymhleth. Mae wedi esblygu dros genedlaethau ac mae'r bobl mewn partneriaethau cydwasanaethau, cymorth busnes gofal sylfaenol yng Nghymru, yn anhygoel o brofiadol, ac fel arfer maent wedi bod yno ers amser hir iawn ac maent yn adnabod y busnesau tu chwith allan. Dyna ymarfer cyffredinol, dyna fferylliaeth, dyna optometreg a deintyddiaeth—mae gan bob un ei gymhlethdodau unigol. Ni allwch ei becynnu gyda'i gilydd i greu pecyn bach cyfleus a syml i'w osod ar gontract allanol a'i gysylltu â phractisau eraill tebyg, oherwydd mae'r holl bractisau meddygon teulu neu fferyllwyr—maent yn endidau unigol gyda gwahanol bobl, anghenion gwahanol.

Felly, mae'n anhygoel o gymhleth, mae pob practis yn wahanol. Caiff degawdau o brofiad ei sgubo ymaith felly, pan benderfynwyd gosod y math hwnnw o elfen gymorth busnes ar gontract allanol yn Lloegr—ei osod ar gontract allanol i Capita, ac fel y clywsom gan Lee Waters, gyda chanlyniadau trychinebus y gellid eu rhagweld. Rwy'n dyfynnu o'r adroddiad nawr, mae ymhell islaw safon dderbyniol.

Oherwydd os oes manylyn bach yn mynd o'i le, mae'n tarfu ar weithrediad esmwyth llawer o bractisau neu gall danseilio'n llwyr, am ychydig ddyddiau, y ffordd y caiff y practis unigol ei weithredu, wrth i rywbeth fynd o'i le. Ac unwaith eto, fel y mae'r adroddiad yn dweud, camfarnodd y GIG yn Lloegr a Capita, ill dau, raddfa a natur y perygl o osod gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol ar gontract allanol. Do, fe wnaethant, fel y gwnaiff pawb nad yw'n deall cymhlethdod aruthrol gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig. Felly, rwy'n dweud: cadwch y GIG yn ei holl ffurfiau'n gyhoeddus. Mae gosod gwasanaeth cyhoeddus cymhleth ar gontract allanol preifat yn sicr o fynd o chwith. Cefnogwch y cynnig.