2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 11 Gorffennaf 2018.
3. Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i hyrwyddo diwygio etholiadol o fewn llywodraeth leol? OAQ52500
Yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd, gwneuthum ddatganiad llafar ar y materion hyn ym mis Ionawr. Byddaf yn cynnwys darpariaethau diwygio etholiadol o fewn Bil llywodraeth leol rydym yn ei ddisgwyl y flwyddyn nesaf. Byddaf yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol ac eraill er mwyn cynyddu gwybodaeth y cyhoedd am y diwygiadau a gynlluniwyd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. A yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw awgrym gan awdurdodau lleol y byddent yn ystyried newid i system gynrychiolaeth gyfrannol ar gyfer etholiadau lleol? Ac a fyddai'n cytuno y byddai system o'r fath yn system decach ac y gallai helpu i gynyddu diddordeb a chyfranogiad mewn etholiadau lleol?
Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod nad oes unrhyw ran o lywodraeth leol wedi awgrymu'r materion hynny i mi, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â hi. Fel hithau, cytunaf â system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a dyna yw fy hoff system innau hefyd. Rwy'n tybio y bydd y ddau ohonom yn dadlau dros y datganiad hwnnw yn ystod ymgynghoriad Plaid Lafur Cymru dros y misoedd nesaf. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi clir ar y mater hwn. Mae gennym gytundeb i gyflwyno newid opsiynol i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, y gall llywodraeth leol ei dewis os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Yn bersonol, buaswn yn annog pob awdurdod lleol i wneud hynny. Credaf fod y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn system decach. Mae'n sicrhau mwy o amrywiaeth a mwy o atebolrwydd democrataidd. Felly, fel yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, rwy'n gobeithio y bydd llywodraeth leol yn croesawu newid i system gyfrannol dros y blynyddoedd nesaf.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi clywed fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe mewn perthynas ag unigolyn oedd yn dod o sir Drefaldwyn sy'n teimlo ei fod wedi'i ddifreinio gan y system etholiadol, fel pleidleisiwr tramor—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr pa ffordd y mae'r etholwr penodol yn bwrw ei bleidlais. Nid wyf yn siŵr a ddeallodd y Prif Weinidog fwriad fy nghwestiwn, felly roeddwn eisiau ei godi gyda chi. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae'r unigolyn dan sylw yn cael pleidleisio yn yr etholiadau cyffredinol ond mae wedi'i wahardd rhag pleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn etholiadau llywodraeth leol gan y cânt eu hystyried yn etholiadau ail ddosbarth. Y broblem yma yw, os yw rhywun sy'n byw yng Nghymru yn symud dramor, gallant bleidleisio yn etholiadau Cymru. Os yw rhywun sy'n byw yng Nghymru yn symud i gyfeiriad yn Lloegr neu'r Alban, ac yna'n symud dramor, ni allant benderfynu pa genedl i'w gosod ynddi os ydynt yn byw dramor. A oes unrhyw beth y gellir ei wneud i sicrhau y gall gwladolion Cymreig sy'n dymuno gwneud hynny gymryd rhan yn etholiadau Cynulliad Cymru neu mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru?
Lywydd, nid wyf yn siŵr ble i ddechrau. Mae'r canlyniad yn sir Drefaldwyn y llynedd yn amlwg wedi poeni fy nghyfaill o'r rhan honno o'r byd. Rwyf am ddweud wrtho'n garedig iawn fod arnaf ofn fod y Prif Weinidog wedi deall y cwestiwn roedd yn ei ofyn ddoe yn iawn, ac mae arnaf ofn fy mod am ailadrodd ymateb y Prif Weinidog y prynhawn yma.
Bu cyn-weithiwr o gyngor Caerdydd yn fy ngweld yn ddiweddar mewn perthynas â mater difrifol yn ymwneud â chyflogaeth. Tramgwyddodd yn erbyn darpariaeth yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, a oedd yn golygu, ar ôl i'w gyfnod fel cynghorydd etholedig ddod i ben, ei fod wedi'i wahardd rhag gweithio i'r cyngor hwnnw am 12 mis. Roedd wedi bod yn gweithio i'r cyngor am chwe mis pan sylweddolwyd eu bod wedi tramgwyddo'r ddarpariaeth hon. Er nad oedd unrhyw broblemau gyda'i berfformiad, a chydag amarch llwyr, cafodd ei ddiswyddo yn y fan a'r lle. Ni chafodd unrhyw gymorth gan y cyngor. Maent wedi methu darparu unrhyw opsiynau cyflogaeth amgen iddo ac ar ôl 13 mis, maent wedi penodi rhywun arall i'r swydd, er bod yr unigolyn wedi gwneud cais am ei swydd ei hun yn ôl. Mae'r cyngor wedi gwrthod cyfathrebu ac wedi methu ymateb i gais gwrthrych am wybodaeth, ac mae bellach yn wynebu tribiwnlys o ganlyniad. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i edrych ar yr achos hwn a'r mater yn gyffredinol i sicrhau canlyniad teg i'r unigolyn hwn ac eraill a allai dramgwyddo'r hen reol hon yn y dyfodol? Buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda mwy o fanylion os oes angen.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am gynnig gohebu ar y mater hwn. Ymddengys i mi fod honno'n ffordd well o ymdrin â materion cyflogaeth na'u codi yn y Siambr.
Cwestiwn 4, Nick Ramsay.
[Anghlywadwy.]—newid yn y gyfraith.
Dylech fod wedi dweud hynny felly.
Parhewch, Nick Ramsey.
Diolch. Ai ffilm yw honno? [Chwerthin.]