2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 11 Gorffennaf 2018.
5. Pa ddarpariaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gwneud ar gyfer cynnal swyddfeydd post? OAQ52506
Nid yw materion yn ymwneud â’r Swyddfa Bost wedi’u datganoli, fel y gwyddoch. Er hynny, rwy’n ymwybodol iawn o’r gwasanaethau gwerthfawr iawn mae swyddfeydd post yn aml yn eu darparu yn ein cymunedau lleol. Mae eu swyddogaeth nhw yn arbennig o bwysig wrth i gynifer o ganghennau banciau gau ar draws Cymru.
Diolch am yr ateb. Wrth gwrs, nid yw e wedi’i ddatganoli, ond mae Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi cynnal amryw o systemau cynnal a grantiau ar gyfer swyddfeydd post. Mae newid diweddar yn y ffordd y mae’r Swyddfa Bost yn talu’r canghennau o’r taliad sylfaenol, beth maen nhw’n ei alw’n core tier payment, i daliadau fesul transaction yn cael effaith ar rai swyddfeydd post, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad. Oes, mae yna bosibiliad newydd, o bryd i’w gilydd, ar gyfer bancio, ond, yn fras iawn, dyma’r taliadau hollol sylfaenol ar gyfer cwsmeriaid, er enghraifft, i roi arian am drydan a nwy, pethau syml fel yna. Mae yna dâl bach am ganiatáu hynny, ond nid yw hyd yn oed yn ddigon i gyfro’r costau cynnal staff, cynnal y ddesg ac ati.
Mi fyddaf i’n ymweld, o fewn yr wythnos nesaf, â’r Ffôr, ger Pwllheli, lle mae yna swyddfa bost sy’n wynebu’r broblem, yr anhawster, yma. A ydych chi’n cael trafodaethau â busnes y Swyddfa Bost ynglŷn â’r newid i daliadau yma? Ac a ydych chi mewn sefyllfa i edrych ar beth ymhellach a allai gael ei wneud i wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r adnodd pwysig yma? Fel rŷch chi’n ei ddweud, rydym ni eisoes yn colli’r banciau. Mae hwn yn rhywbeth sydd eisiau ei gadw, yn enwedig yn ein pentrefi a’n trefi bach ni.
Rydw i’n ymwybodol bod yr Aelod wedi ysgrifennu ataf i ar y mater yma ac rydw i wedi ymateb ar hynny. Mae’n bosibl, wrth gwrs, i swyddfeydd post elwa o business rate relief ac rydw i’n gobeithio y bydd swyddfeydd post yn ceisio am hynny ac yn sicrhau eu bod nhw’n cael hynny. Ar ben hynny, mae £1.3 miliwn wedi cael ei roi i awdurdodau lleol ar gyfer eu defnydd nhw os ydyn nhw’n gweld bod yna adnodd, yn y ffordd y mae e’n ei ddisgrifio, mewn perygl o gael ei golli. Maen nhw’n gallu cynnig tipyn bach o gymorth ychwanegol ar hynny. Ond rydw i’n ymwybodol bod yr Aelod yn codi materion mewnol y tu mewn i system y Swyddfa Bost a phetai e’n fodlon cyfarfod â fi, rydw i’n hapus iawn i drafod hynny gyda’r Swyddfa Bost yn ganolog.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae penderfyniad Royal Bank of Scotland i gau 162 o ganghennau yng Nghymru a Lloegr wedi tynnu sylw at bwysigrwydd swyddfeydd post sy'n darparu gwasanaethau bancio, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig. Gan fod 12 y cant o swyddfeydd post yn awr yn cael eu rhedeg gan wasanaethau allgymorth rhan-amser, megis faniau symudol, ac mewn adeiladau megis neuaddau pentref, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i sicrhau bod cymunedau sydd wedi colli eu banc o leiaf yn cael mynediad at wasanaethau bancio drwy gyfleusterau allgymorth swyddfeydd post yng Nghymru? Diolch.
Rwyf wedi dweud mewn ymateb i'r cwestiwn cynharach nad yw'r materion hyn yn faterion datganoledig, ond mae'r rhain yn amlwg yn faterion y mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ynddynt. Rydym yn sicrhau, fel y dywedais eisoes, fod gennym ryddhad ardrethi busnes a chymorth busnes i alluogi busnesau bach i gael cymorth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd. Ond rwy'n credu hefyd fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb sylweddol iawn yma, a buaswn yn awgrymu'n garedig iawn i'r Aelod Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru ei fod yn ysgrifennu at ei gyd-Aelodau Ceidwadol yn Llundain ac yn egluro wrthynt yn ofalus iawn fod y trethdalwr wedi gwario llawer iawn o arian ar gadw'r system fancio'n weithredol ac mae'n hen bryd i'r trethdalwr gael rhywfaint o'r adnoddau hynny yn ôl o ran rheoleiddio banciau i sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon. Felly, buaswn yn dweud yn garedig iawn wrth yr Aelod: ysgrifennwch at eich cyd-Aelodau yn Llundain a dywedwch wrthynt am dorchi eu llewys.