3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 11 Gorffennaf 2018.
2. A yw Llywodraeth Cymru'n bwriadu rhoi terfyn ar lawdriaeth sy'n defnyddio rhwyll yn y GIG, yn sgil cyhoeddiad am roi terfyn ar y llawdriniaethau hyn yn Lloegr? 201
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n falch o gael cyfle i ymateb. Rwyf wedi ysgrifennu at y Farwnes Cumberlege i gadarnhau y bydd y defnydd o rwyll yn cael ei gyfyngu yng Nghymru ar sail debyg i'r hyn y maent yn ei wneud yn Lloegr hyd nes y bydd mesurau diogelwch ychwanegol ar waith. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi ysgrifennu at yr holl gyfarwyddwyr meddygol yng Nghymru i roi gwybod iddynt am y cyngor hwn. Bydd swyddogion yn parhau i weithio ar y manylion gyda chyrff perthnasol ledled y DU.
Diolch i chi am eich ymateb i'r cwestiwn amserol pwysig hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r mater yn effeithio ar fenywod ledled y DU, a hoffwn dalu teyrnged arbennig i Maxine Cooper, un o fy etholwyr, sydd wedi bod yn gweithio gydag ymgyrch Sling the Mesh ers nifer o flynyddoedd yn dilyn llawdriniaeth a gafodd yn 2010. Gwn fod Maxine yn gweithio'n agos gyda fy nhad ar y mater hwn, a byddaf fi, hefyd, yn gwneud popeth a allaf i'w chefnogi. Fel cymaint o rai eraill, yn enwedig y menywod sydd wedi ymgyrchu gyda dewrder ac ymrwymiad, fel Maxine, roeddwn yn falch iawn pan wnaeth y GIG yn Lloegr y cyhoeddiad ddoe ei fod yn cyfyngu ar lawdriniaethau rhwyll ar unwaith o ganlyniad i bryderon diogelwch. Gwn fod llawer o fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr wedi bod yn gweithio ar y mater hwn hefyd, a bod fy nghyd-Aelod, Jane Hutt wedi cynnal cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda grŵp goroeswyr rhwyll Cymru. Mae adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen Cymru ar y mater hwn wedi gwneud rhai argymhellion pwysig iawn ac wedi cynnwys rhestr o'r hyn y mae menywod wedi gofyn amdano, ac nid yw'n syndod fod rhoi terfyn ar y defnydd o rwyll lawfeddygol ar y rhestr honno.
Nawr, mae gennyf ychydig o gwestiynau i'w gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, a yw'n hyderus fod gan y byrddau iechyd lefelau digonol o reolaeth glinigol, cydsyniadau, archwiliadau a gwaith ymchwil i sicrhau y gall pob menyw fod yn hyderus fod y mesurau diogelwch priodol yn eu lle? Ddoe, cyfeiriodd arweinydd y tŷ at y dystiolaeth sy'n dangos bod gostyngiad sylweddol yn nifer y llawdriniaethau rhwyll weiniol yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y bydd hyn yn parhau i fod yn wir hyd nes y gellir bodloni'r gofynion am fwy o ddiogelwch? Yn olaf, a allech roi'r newyddion diweddaraf inni am y grŵp gweithredu a fydd yn goruchwylio meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen sylw a'u gwella ar fyrder? Fel y dywedwch yn gywir, Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen i ni sicrhau bod mynediad cynnar at gymorth arbenigol ar gyfer cymhlethdodau llawdriniaethau er mwyn atal y canlyniadau gwaethaf i fenywod a dynion fel ei gilydd. Diolch.
Diolch i chi am y cwestiwn. Rwy'n cofio'r sgyrsiau a gafodd eich tad gyda mi am ei etholwraig Maxine Cooper, a'r diddordeb parhaus a ddangosodd mewn perthynas â'r mater hwn, ac rydych chi'n gwneud hynny hefyd. Yn amlwg roedd y datganiad a wneuthum yn gynharach eleni yn dangos beth y byddem yn ei wneud mewn ymateb i'r panel arbenigol sydd wedi'i sefydlu yma yng Nghymru, a'r grŵp a grybwyllwyd gennych ar y diwedd, y grŵp gweithredu ar iechyd menywod, a fydd yn cyfarfod ym mis Awst i fwrw ymlaen â mesurau pellach ar yr argymhellion a wnaed. Nawr, credaf ei bod yn bwysig iawn inni gydnabod ei bod hi weithiau'n cymryd amser i sicrhau bod popeth yn ei le fel y dymunwn iddo fod. Ond bydd y grŵp hwnnw'n cyfarfod yr haf hwn. Mae yna arian i'w helpu i fwrw ymlaen â'u hargymhellion, ond rwy'n disgwyl ein bod eisoes yn y sefyllfa y mae Lloegr wedi'i chyhoeddi. Felly, mae'n bwysig iawn gallu rhoi'r eglurhad a'r sicrwydd hwnnw i bobl, oherwydd mae'r pwyntiau a wnewch am gydsyniad, archwiliadau a diogelwch yn bwysig iawn. Oherwydd i rai pobl, mae'n bosibl fod y llawdriniaeth hon yn ddewis olaf, ond mae'n rhaid i'r penderfyniad gael ei wneud ar sail gwybodaeth briodol.
O ystyried y cyhoeddusrwydd eang a'r straeon am lawdriniaethau rhwyll yn mynd o chwith, gallech ddeall na fydd llawer o bobl eisiau cydsynio i lawdriniaeth, ond bydd rhai menywod yn dewis gwneud hynny, a chyn belled â bod y cydsyniad hwnnw yn real ac yn benderfyniad ar sail gwybodaeth, nid oes gwaharddiad llwyr yng Nghymru, ac nid oes gwaharddiad llwyr yn Lloegr chwaith. Credaf ei bod yn fwy cywir dweud bod yna gyfyngu ar y defnydd o rwyll, yn hytrach na gwaharddiad llwyr. Mae hynny'n amlwg iawn yn y llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Lloegr. Mae hefyd yn werth nodi i'r Aelodau fy mod yn credu mai'r hyn sydd wedi newid bellach yw, nid yn unig bod y Farwnes Cumberlege wedi gwneud yr argymhelliad hwn, ond hefyd bod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, y rheoleiddiwr, wedi bod yn cymryd mwy o ran yn y sgwrs ynglŷn â beth i'w wneud nesaf. Yn anffodus, nid yw hynny wedi bod yn wir hyd yn hyn. Oherwydd mae yna gyfyngiadau ar bwerau gwleidyddion, ac mae hynny'n synhwyrol, ond mae cytundeb y rheoleiddwyr mai'r cyfyngiad ar y defnydd yn Lloegr, yng Nghymru, ac yn yr Alban hefyd, rwy'n credu, yw'r peth iawn i'w wneud—. Dylech fod yn hyderus na fydd llai o wyliadwriaeth yng Nghymru nag mewn gwledydd eraill yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n disgwyl y caf fy holi mewn perthynas â'r mater hwn yn y Siambr a thu hwnt yn ogystal.
Bedwar mis ar ddeg yn ôl, gelwais am ddatganiad ar fater mewnblaniadau rhwyll ar ôl i etholwraig yng ngogledd Cymru ddweud wrthyf ei bod yn dioddef o boen yn ei chlun chwith, poen yn ei morddwyd chwith, poen pelfis a phoen mewn mannau personol o'r corff, a dywedodd wrthyf fod miloedd o fenywod eraill yn y DU yn dioddef mewn ffordd debyg. Cefais wybod bryd hynny y dylai byrddau iechyd sicrhau eu bod yn rhoi gwybod am unrhyw gymhlethdodau, ac roedd menywod a oedd wedi cael y llawdriniaeth yn cael eu hannog i roi gwybod am broblemau drostynt eu hunain. Fis Rhagfyr diwethaf, codais hyn yn y Siambr ar ôl i chi ysgrifennu ataf yn dweud eich bod dal i gredu bod y manteision yn drech na'r risgiau. Gwyddom eich bod wedi gwneud eich datganiad ym mis Mai, yn dilyn adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen Cymreig i adolygu'r defnydd o rwyll weiniol synthetig, yn cyhoeddi'r grŵp gweithredu y cyfeiriodd Jack Sargeant ato yn awr, i oruchwylio meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen mwy o sylw ac angen eu gwella ar frys.
Ddydd Llun, cefais e-bost, drwy fy nghyd-Aelod Angela Burns, gan etholwr yng ngogledd Cymru a ddywedodd, 'Bydd rhwyll yn cael ei wahardd yn Lloegr. Gwn eich bod yn deall pa mor bwysig yw hi fod yn rhaid i Gymru ddilyn eu hesiampl.' Wedi'i atodi wrth y neges, roedd y datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd ddoe yn dweud bod adolygiad y Farwnes Cumberlege wedi galw am wahardd y defnydd o rwyll lawfeddygol ar unwaith, a dyfynnodd Owen Smith AS, cadeirydd y grŵp seneddol hollbleidiol yn San Steffan, a oedd yn dweud bod hwn yn newyddion gwych a hirddisgwyliedig.
Heddiw, rydych wedi dweud wrthym eich bod yn awr yn bwriadu dilyn y penderfyniad a wnaed gan y GIG yn Lloegr i wahardd llawdriniaethau rhwyll ar unwaith, ond gyda golwg ar y posibilrwydd o'u parhau o dan amgylchiadau penodol neu ar ôl i amodau penodol gael eu bodloni. Mae bioleg ddynol yr un peth ar y ddwy ochr i'r ffin. Sut, felly, y byddwch yn bwrw ymlaen â hyn pan fo'r Farwnes Cumberlege wedi argymell gwaharddiad na ellir ond ei ddiddymu os bodlonir amodau penodol, gan gynnwys cadw cofrestr o bob llawdriniaeth a'r holl gymhlethdodau? A fyddwch yn mynnu yr hyn y mae'r Farwnes Cumberlege yn galw amdano? Os na fyddwch, pa amodau, os o gwbl, y byddech yn eu cymhwyso cyn diddymu unrhyw waharddiad yma?
Rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd y gydnabyddiaeth o'r niwed sylweddol a achoswyd pan fo llawdriniaethau rhwyll wedi mynd o chwith. Rwyf wedi cyfarfod â phobl yn y sefyllfa honno eu hunain ac mae pob un ohonom wedi cael ein heffeithio gan y dystiolaeth real iawn a roddwyd ganddynt. Y sefyllfa yma yng Nghymru yw ein bod wedi mabwysiadu dull mwy gwyliadwrus ers yr adroddiad a gyhoeddwyd a'r datganiad a wneuthum i'r lle hwn ym mis Mai, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod gwyliadwriaeth debyg yn parhau. Mae'n bwysig—nid wyf eisiau mynd ar goll yn y broses o ail-ddisgrifio’r hyn sy'n digwydd yn Lloegr neu geisio dweud bod mwy neu lai o wyliadwriaeth, ond credaf fod gwyliadwriaeth debyg ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig ar y mater hwn. Os edrychwch ar yr hyn y mae'r Farwnes Cumberlege ei hun wedi'i ddweud, dywedodd,
Ar y pwynt hwn yn ein hadolygiad nid ydym yn argymell gwaharddiad.
Yn yr ymateb gan Brif Swyddog Meddygol Lloegr, yn ei gohebiaeth â'r Farwnes Cumberlege, cyfeiriodd hithau hefyd at sgwrs gyda'r Farwnes Cumberlege pan ddywedodd, 'Byddai'n anghywir i mi weithredu gwaharddiad llwyr. Hoffwn bwysleisio y dylem gofio y gall y driniaeth hon fod yn ddewis olaf i rai cleifion sy'n dioddef anhwylder gwanychol.'
Felly, dyna'r her. Nid lle gwleidyddion yw penderfynu, 'Dyma restr o driniaethau lle y gallwch ddefnyddio rhwyll a rhestr o driniaethau eraill lle na allwch ddefnyddio rhwyll'; mae hyn yn ymwneud â'r cyngor a'r canllawiau a roddir i weithwyr meddygol proffesiynol ynglŷn a'r gofal y maent yn ei roi i'w cleifion, ac yn ymwneud â chydsyniad ar sail gwybodaeth ddilys am y risgiau sy'n bodoli yn ogystal. Felly, dylai hwn fod yn faes lle mae gwleidyddion yn petruso cyn dweud, 'Rwyf wedi penderfynu drosoch chi pa driniaeth sy'n briodol', gan gynnwys os yw triniaeth yn ddewis olaf go iawn, sef y sefyllfa roeddem eisoes ynddi yng Nghymru gyda'r adolygiad arbenigol a gawsom.
Byddwn yn parhau i weithio ar sail amhleidiol rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig, ond yn allweddol, gyda'r rheoleiddiwr a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a hefyd gyda'r gymuned glinigol ac yn hollbwysig, gyda'r unigolion eu hunain sydd naill ai wedi'u niweidio o ganlyniad i ddefnyddio rhwyll yn y gorffennol, ond yn yr un modd, gyda'r bobl y gallai'r driniaeth fod yn ddewis olaf iddynt. Dyna'r pwynt—ei fod yn ddewis olaf go iawn a'n bod yn rhoi camau ar waith yng Nghymru mewn perthynas â thriniaethau eraill, triniaethau mwy ceidwadol, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau i wneud llawdriniaeth.
Felly, gobeithio bod hynny'n rhoi sicrwydd go iawn i'r Aelodau y gwn eu bod, yn y gwahanol bleidiau, yn pryderu am y mater hwn. Nid yw'r dull o weithredu rydym yn ei fabwysiadu yng Nghymru yn llai gwyliadwrus nag unrhyw un o wledydd eraill y Deyrnas Unedig. Mae sicrhau bod rhagor o gamau yn cael eu cymryd i wella gofal yn y maes hwn o fudd i bob un ohonom, a dyna pam fod gennym grŵp o arbenigwyr a fydd yn parhau ac yn bwrw ymlaen â'r mater hwn, a byddant yn cyfarfod am y tro cyntaf, fel y dywedais yn fy ateb i Jack Sargeant, ddechrau mis Awst.
Ar ôl cyfarfod â grŵp mawr o oroeswyr llawdriniaethau rhwyll yma gyda Jane Hutt ddydd Llun, yn fenywod a dynion, mae'n amlwg i mi fod mater cydsyniad ar sail gwybodaeth yn broblem go fawr, gan na chafodd pobl wybod am gymhlethdodau posibl ac mae'n siomedig ei bod wedi cymryd cynifer o flynyddoedd i'r proffesiwn meddygol wrando'n iawn ar eu cleifion a deall lefel y dioddefaint y mae pobl wedi'i brofi. Clywais yn uniongyrchol gan bobl a ddywedodd eu bod wedi cael llawdriniaeth ymchwiliol fawr o dan anesthetig cyffredinol, ac wedi deffro wedyn i glywed bod y rhwyll wedi'i mewnosod heb unrhyw drafodaeth flaenorol, yn amlwg, ynglŷn â manteision ac anfanteision llawdriniaeth o'r fath. Felly, a fyddech yn cytuno â mi mai'r wers o'r saga wael hon yw bod angen i'r proffesiwn meddygol fod yn llawer gwell wrth ofyn a chael cydsyniad ar sail gwybodaeth pan fo llawdriniaethau newydd yn cael eu treialu, fel y gall cleifion wneud penderfyniadau drostynt eu hunain ynglŷn â'r hyn sydd orau iddynt hwy?
Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn i'w wneud. Roedd yn rhan o'r cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp arbenigol a'r adolygiad a gawsom yma yng Nghymru, ac mae'n bwysig iawn nad ydym yn bychanu pwysigrwydd cydsyniad ar sail gwybodaeth, oherwydd bydd gwahanol bobl sy'n cael yr un wybodaeth yn gwneud penderfyniadau gwahanol am y risgiau y maent yn barod i'w cymryd mewn perthynas â thriniaeth ac yn wir, mewn perthynas â'r cyflwr sydd ganddynt ar hyn o bryd a'r effaith a gaiff ar eu bywydau. Wrth gwrs, mae wedi bod yn hynod o siomedig a diflas, mewn gwirionedd, i glywed pobl yn disgrifio'r llawdriniaethau rhwyll a gawsant, a'u bod heb gydsynio iddynt, neu eu bod wedi cydsynio iddynt ond nad ydynt yn credu ei fod yn gydsyniad ar sail gwybodaeth. Ac mae hynny i gyd yn bwysig; ni ddylem geisio diystyru hynny. Ond y pwynt yw, gyda phob math o ymyrraeth feddygol, mae'n ymwneud â chael sgwrs go iawn ac mae'n ymwneud â'r penderfyniad y mae'r claf yn ei wneud, yn hytrach na bod y clinigydd yn ei wneud drostynt, a deall, 'Beth sy'n bwysig i mi fel yr unigolyn a fydd, o bosibl, yn cael y driniaeth honno.'
Pan edrychwch ar yr adroddiad arbenigol rydym wedi'i wneud yng Nghymru, mae'n ystyried arferion y gorffennol yn fanwl, ac mae rhan o'u hargymhellion yn ymwneud â sicrhau bod yna gydsyniad dilys ar sail gwybodaeth ar gyfer unrhyw lawdriniaethau sy'n digwydd, yn ogystal â sicrhau, ar y llwybr tuag at lawdriniaeth bosibl, fod yr holl opsiynau triniaeth eraill yn cael eu darparu yn gyntaf fel ei fod yn ddewis olaf go iawn, os caiff ei ddefnyddio o gwbl. Ac yn wir, dylai roi cysur i bobl fod gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y llawdriniaethau rhwyll yng Nghymru, gan fod ein cymuned glinigol wedi cydnabod rhai o'r heriau sy'n bodoli. Bydd hynny'n parhau i fod yn wir, wrth i ni weithio gyda chydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig ar yr hyn a allai ac a ddylai ddigwydd yn y dyfodol. Wrth gwrs, mae'n bosibl o hyd y bydd y rheoleiddiwr yn penderfynu gweithredu mewn modd gwahanol a diddymu hwn fel dewis ar gyfer triniaeth, ond mae hwnnw'n fater ar gyfer y rheoleiddiwr, nid gwleidydd etholedig.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.
Mae'r cwestiwn nesaf i chi hefyd, a bydd yn cael ei ofyn gan Joyce Watson.