6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Ofynion Llywodraeth Cymru ar gyfer Masnachfreintiau Rheilffyrdd Eraill sy'n Gwasanaethu Cymru a Buddsoddiad yn Seilwaith y Rheilffyrdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:15, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Daeth Pwyllgor Trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin i'r casgliad yn ddiweddar bod prosesau presennol yr Adran Drafnidiaeth ar gyfer gwneud penderfyniadau a'r systemau presennol ar gyfer gwerthuso cynlluniau ar hyn o bryd yn gweithio yn erbyn rhanbarthau y tu allan i'r de-ddwyrain gan eu bod yn cael eu pwysoli'n drwm tuag at leihau tagfeydd presennol. Mae'n bwysig, rwy'n meddwl, i bob Llywodraeth, gan gynnwys yma yng Nghymru, sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei gynllunio a'i ddarparu ym mhob rhan o'r economi. Drwy'r cynllun gweithredu economaidd, rwyf yn ymrwymedig i weithio gyda chyd-Aelodau i sicrhau ein bod yn cydbwyso buddsoddi mewn seilwaith â chefnogi twf rhanbarthol yn economi Cymru ac mae'n bwysig bod Llywodraeth y DU yn dangos ymrwymiad tebyg ac ystyrlon ar draws y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi nodi, a byddaf yn parhau i nodi gweledigaeth ehangach ar gyfer rhwydwaith rheilffyrdd llwyddiannus, un sy'n ein helpu ni i gyflawni ein rhwymedigaethau i'r amgylchedd a'n cyfrifoldebau ar gyfer llesiant a chenedlaethau'r dyfodol, sy'n cyflawni nodau'r cynllun gweithredu economaidd, ac sy'n diwallu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ailgydbwyso economi'r DU.

Mae'r wythnos hon yn nodi blwyddyn ers diddymu'r cynlluniau i drydaneiddio Abertawe. Galwodd y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig ar Lywodraeth y DU i weithio'n agos gyda ni i ddatblygu prosiectau trafnidiaeth y gellid eu hariannu gan ddefnyddio'r arian a arbedwyd drwy ddiddymu'r cynlluniau i drydaneiddio. Datblygwyd proses newydd ar gyfer cynlluniau gwella rheilffyrdd gan Lywodraeth y DU a byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r dull newydd hwn wrth inni geisio sicrhau cyllid i wella teithiau yng Nghymru ac ar draws y ffin. Fodd bynnag, os na all Llywodraeth y DU ein helpu ni i gyflawni ein hamcanion a darparu buddsoddiad yng Nghymru ar sail gyfartal, bydd angen trefniadau amgen ar gyfer blaenoriaethu, ar gyfer cyllid ac ar gyfer cyflawni gwelliannau i'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, yn dilyn setliad datganoli teg yn y maes hwn. Byddai'r buddsoddiad gofynnol i fodloni'r safonau a bennwyd ar gyfer y llwybrau rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd craidd drwy Gymru i Aberdaugleddau a Chaergybi erbyn 2030 yn sicrhau cynnydd sylweddol a rhaid i Gymru beidio â bod ar ei cholled ar y buddsoddiad hwn o ganlyniad i unrhyw benderfyniadau a gymerir yng nghyd-destun Brexit. 

Hoffwn yn awr droi at wasanaethau trên traws-ffiniol yng Nghymru. Yn dilyn trosglwyddo swyddogaethau masnachfreinio rheilffyrdd i Lywodraeth Cymru, mae cytundeb cydweithredu a chydweithio ar waith yn awr gyda'r Adran Drafnidiaeth. Mae'r cytundeb hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymgysylltu'n weithredol wrth gaffael a datblygu masnachfreintiau sy'n gweithredu gwasanaethau ar draws y ffin mewn modd sy'n rhoi ystyriaeth lawn i fuddiannau ac atebolrwydd y ddwy Lywodraeth. Mae hwn yn gyfnod pwysig i'r gwasanaethau hynny ac yn gyfle i gyflwyno gwelliannau sy'n diwallu anghenion teithwyr ar ddwy ochr y ffin. Mae contract gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau yn darparu cysylltedd trawsffiniol pwysig. Fodd bynnag, dim ond rhan o'r darlun yw'r gwasanaethau hyn. Mae'r Adran Drafnidiaeth ar hyn o bryd yn mynd drwy ei phrosesau ei hun ar gyfer dyfarnu contractau newydd ar gyfer masnachfreintiau Arfordir y Gorllewin, CrossCountry a Great Western. Dwi wedi gwneud fy nisgwyliadau ar gyfer y masnachfreintiau hyn yn glir i'r Ysgrifennydd Gwladol. Maent yn cynnwys: integreiddio rhwng metro'r gogledd a'r gwasanaethau i Lundain mewn canolfannau allweddol gan gynnwys Wrecsam, Shotton, Bangor a Chaer; gwasanaeth uniongyrchol rhwng y gogledd a Llundain; gwasanaethau uniongyrchol yn y fasnachfraint CrossCountry rhwng canolfannau allweddol yng Nghymru a phob un o ddinasoedd craidd y DU; gwasanaethau cyflymach a mwy uniongyrchol rhwng y de a Llundain; ac wrth gwrs, gwasanaethau ychwanegol a chynt rhwng y de a Bryste.

Mae achos aruthrol yn awr dros ddefnyddio'r model a ddatblygwyd ar gyfer caffael a rheoli gwasanaethau trawsffiniol o dan fasnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau ar gyfer caffael a rheoli gwasanaethau eraill rhwng Cymru a lleoliadau yn Lloegr. Byddai hyn yn golygu ailfapio'r holl wasanaethau sy'n gweithredu i Gymru i fasnachfraint gaffael fyddai'n cael ei chaffael a'i rheoli gan Lywodraeth Cymru. Byddai teithwyr, gweithredwyr a'r trethdalwr yn elwa ar integreiddio gwasanaethau lleol a phellter hir yng Nghymru. Byddai hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyflawni'r swyddogaeth sydd ei hangen arni i sicrhau y caiff gwasanaethau eu cynllunio a'u cyflwyno mewn ffordd a fydd yn ystyried buddiannau Cymru yn llawn, a byddai hyn, yn fy marn i, yn arwain at gystadleuaeth go iawn a dewis go iawn i deithwyr yn Lloegr.

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth wedi ei gwneud yn glir, fodd bynnag, nad yw'n rhannu'r farn hon. Mae'n credu mai gwasanaethau'r DU yw'r rhain, i gael eu gweithredu ar sail y DU. Ond, os mai felly y bydd hi, yna cyfrifoldeb ar yr Ysgrifennydd Gwladol yn unig yw gwireddu'r uchelgais hanfodol hon wedyn. Mae angen i Lywodraeth y DU nodi cynllun gweithredu clir, a ariennir yn llawn, yn dangos sut y bydd yn cywiro degawdau o danfuddsoddi mewn gwasanaethau seilwaith a rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'n amlwg bod gallu presennol y seilwaith rheilffyrdd a'r gwasanaethau a gynigir drwy'r masnachfreintiau traws-ffiniol yn annigonol, ac mae'n hanfodol bod Cymru'n cael y lefel o gysylltedd rheilffyrdd a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer llawer o rannau o'r DU fel bod pobl, cymunedau a busnesau yng Nghymru yn cael cynnig chwarae teg i gystadlu mewn amgylchedd ôl Brexit.

Yn absenoldeb cynllun gweithredu cydlynol a derbyniol gan Lywodraeth y DU, byddwn yn parhau i ddatblygu ar y gwaith a wnaed gan yr Athro Barry, i nodi gweledigaeth glir ar gyfer y gwelliannau y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU eu gwneud os yw'n dymuno cyflawni ei haddewid i ailgydbwyso economi'r DU. Bydd achosion rhaglenni busnes yn cael eu cwblhau dros yr haf a byddant ar gael i Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth i lunio datblygiad rhaglen buddsoddiad rheilffyrdd uchelgeisiol, realistig a theg ar gyfer Cymru.