Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet a minnau eisiau gweld gwelliannau mewn gwasanaethau, ac mae'r ddau ohonom eisiau gweld gwell canlyniadau yn cael eu cyflawni ledled Cymru? Yn y cyfarfodydd a gawsom gyda'n gilydd rwy'n credu ein bod ein dau wedi gwneud hynny'n gwbl glir. Rydym ar yr un dudalen yn ein hawydd i wella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth, ond credaf mai cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol yw'r unig ffordd o wneud yn siŵr ein bod yn rhoi gwasanaethau ar sail statudol, a'n bod yn gweld cysondeb yn y gwasanaethau ar draws Cymru. Rwy'n derbyn bod mesurau wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yr hyn sy'n glir yw mai'r materion a nodwyd yn y strategaeth gyntaf yn 2008 yw'r un materion sy'n parhau yn awr yn 2018: diagnosis, data, gwasanaethau cymorth, hyfforddiant, cyflogaeth, tai, iechyd meddwl—i enwi ond ychydig. Dyna beth y mae pobl yn ei ddweud wrthyf am y mater hwn—mai dyna'r un materion a gâi eu trafod bryd hynny, 10 mlynedd yn ôl, a dyna pam y mae angen deddfwriaeth sylfaenol.
Nawr, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, am ei god ymarfer. Y broblem gyda chyflwyno cod yw y gellir ei ddirymu. Nid yw'n sicrhau ffocws parhaus ar yrru a gwella gwasanaethau, a bydd y Bil hwn wrth gwrs yn rhoi sicrwydd wrth symud ymlaen, oherwydd pan gyflwynir cod, ni ellir craffu arno, ei ddiwygio na'i wella, yn wahanol i ddarn o ddeddfwriaeth. Bydd fy neddfwriaeth i'n mynd drwy broses graffu'r Cynulliad, ac mae'r gymuned awtistiaeth, yn yr ymgynghoriadau a gynhaliais, wedi mynegi'n glir y byddai'n well ganddynt weld deddfwriaeth sylfaenol. Mae ymgynghoriadau dilynol wedi dangos bod angen Bil, nid cod, arnom. Rwy'n bryderus braidd hefyd ynglŷn ag i ba raddau y byddai cod yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ddilyn ei ofynion, yn hytrach nag ystyried ei ofynion. Mae fy Mil yn hollol glir: bydd yn gwneud yn siŵr ei bod hi'n ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol gynnig gwasanaethau yn eu hardaloedd lleol. Dyna'r gwahaniaeth rhwng eich cod a'r darn hwn o ddeddfwriaeth.
Nawr, soniodd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am gostau. Nid oes dianc rhag y ffaith y bydd deddfwriaeth sy'n gwella gwasanaethau i bobl ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn costio arian. Fodd bynnag, credaf fod y costau hynny'n werth chweil i'r unigolion yr effeithir arnynt a byddant hefyd yn y pen draw yn arwain at arbedion economaidd hirdymor. Er enghraifft, mae'r Bil yn nodi bod rhaid i'r strategaeth awtistiaeth ei gwneud yn ofynnol i gyfarfod diagnostig cyntaf ddigwydd o fewn yr amserlen a nodir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Ar hyn o bryd, ffrâm amser NICE ar gyfer cyfarfod diagnostig cyntaf yw ei fod yn digwydd o fewn tri mis i atgyfeirio. Targed Llywodraeth Cymru yw bod pobl yn aros am hanner blwyddyn am gyfarfod diagnostig cyntaf. Bydd costau ynghlwm wrth leihau'r targed aros hanner blwyddyn hwn, fel y nodir yn y memorandwm esboniadol i'r Bil hwn. Wedi dweud hynny, mae'n economi ffug i feddwl na fydd costau'n gysylltiedig â rhywun sydd heb gael diagnosis eto. Heb ddiagnosis cywir, mae gwasanaethau'n llai tebygol o fod wedi eu teilwra'n dda ac mor effeithiol ag y gallent fod, a bydd llawer o gostau adweithiol yn codi.
Felly, rwy'n ei annog i ailystyried ei safbwynt. Rwy'n credu mai dyma'r ffordd orau o wneud yn siŵr fod gennym ymagwedd gyson ledled Cymru, drwy gyflwyno deddfwriaeth, oherwydd drwy wneud hynny, byddwn yn sicrhau y caiff gwasanaethau eu rhoi ar sail statudol ar gyfer y dyfodol.