Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 18 Medi 2018.
Wel, Llywydd, rwy'n credu y clywais ddau gwestiwn yn y fan yna. Y cwestiwn cyntaf oedd: pam na allaf i fod yn fwy siriol? Ac rwy'n gobeithio imi egluro'r holl resymau pam na fyddai person synhwyrol yn dynesu at yr hydref hwn mewn ysbryd o obaith gwag.
Roedd yr ail gwestiwn am ail refferendwm. Rwyf wedi dweud yn glir mai fy nghred fy hun yw, os yw Tŷ'r Cyffredin yn analluog i gydweld, mae angen Tŷ Cyffredin newydd, drwy etholiad cyffredinol. Fel rwy'n deall pethau, nid yw sôn am ail refferendwm yn golygu gwrthdroi'r refferendwm cyntaf, er y credaf y gallem ni ddyfalu—ac ni fyddai'n annheg inni ddyfalu—pe canfu'r Aelod ei hun ar yr ochr a gollodd y refferendwm diwethaf, o fwyafrif bach iawn, na fyddai yn eistedd yn y fan yna yn dweud, 'O, wel, mae pobl Prydain wedi lleisio eu barn, wnaf i fyth ofyn y cwestiwn yna eto.' Ond, wrth gwrs, ymddengys ei bod hi'n amhosib i bobl ar yr ochr arall ofyn yr un cwestiwn eto. Nid yw'r cwestiwn o ail refferendwm ynglŷn ag a ddylid gadael yr Undeb Ewropeaidd—mae ynglŷn ag a yw telerau'r fargen a negodwyd yn foddhaol i'r bobl. Rwy'n credu fod hynny'n gwestiwn gwahanol, ac nid wyf i'n credu ei bod hi'n amhriodol i bobl feddwl mai dyna'r ffordd gywir i ofyn i bobl, pa un ai ynteu peidio, ar ôl penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd—ai dyma'r hyn yr oeddech chi'n credu y byddai hynny yn ei olygu ac ai dyma'r hyn yr oeddech chi'n credu eich bod yn pleidleisio drosto? Nid yw hynny'n gwestiwn annheg i ofyn i bobl. Os wyf yn prynu sugnydd llwch mewn siop heddiw, mae gennyf 28 diwrnod i'w ddychwelyd i'r siop os nad yw'n gwneud y gwaith y credais y byddai'n ei wneud pan brynais ef. Ac os gallaf wneud hynny gyda sugnydd llwch, yna mae gofyn i bobl, 'wedi gwneud y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, ai'r fargen benodol hon yw'r hyn yr oeddech chi'n credu yr oeddech chi'n pleidleisio o'i blaid?'—Nid wyf i'n credu ei bod hi'n briodol i ddiystyru hynny.
Ymhlith popeth arall, Llywydd, rwy'n credu y clywch chi'r bobl hynny sy'n ceisio argyhoeddi pobl yn y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn sôn am ddau neu dri pheth. Pan fydd pethau'n mynd o chwith cymaint ag y mae rhai ohonom ni yn ofni y gallai, cawn gyhuddiadau o frad gartref ac anhyblygrwydd dramor. Byddai popeth wedi bod yn iawn oni bai am y ffaith bod y bobl hynny sy'n gyfrifol amdano—David Davis, Boris Johnson, y bobl adnabyddus hynny, oedd yn benderfynol o aros yn yr Undeb Ewropeaidd—. Oni bai amdanyn nhw, byddai popeth wedi bod yn iawn. Ac os nad yw pethau'n iawn iddyn nhw, mae'r holl fai ar y tramorwyr. Clywsom hynny'n dod i'r amlwg yn glir iawn y prynhawn yma. Yna rydym ni'n clywed, ar y naill law, wrth gwrs, bydd popeth yn iawn beth bynnag. Mae'n debyg, bydd modd defnyddio trwyddedau gyrru, er y dywedir wrthym ni na fydd modd gwneud hynny os na chawn ni gytundeb ynglŷn â Brexit. Tybed a sylwodd yr Aelod heddiw, wrth sôn am wneuthurwyr ceir yr Almaen, bod BMW wedi dweud y byddan nhw'n cau eu prif ffatri gweithgynhyrchu ym Mhrydain am sawl wythnos yn union ar ôl 29 Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae'n benderfyniad y maen nhw wedi ei wneud eisoes, oherwydd maen nhw'n ofni y bydd tagfeydd yn nhwnnel y Sianel am bythefnos—na fyddan nhw'n gallu symud rhannau o un rhan o'r Undeb Ewropeaidd i un arall. Yn hytrach na bod gwneuthurwyr ceir yr Almaen o blaid cytundebau masnach rydd newydd gyda'r Deyrnas Unedig, maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn ymdopi â chanlyniadau'r camau gweithredu a argymhellodd ef a'i blaid.
Ac yna rydym ni'n clywed, peidiwch â phoeni os na fydd popeth yn dda ar unwaith—yn y pen draw, bydd popeth yn iawn. Wel, tybed a sylweddolodd pobl a glywodd negeseuon yn ystod ymgyrch y refferendwm, ac a welodd fysiau a mynd i fyny ac i lawr eu strydoedd â symiau mawr o arian wedi eu hysbysebu ar eu hochrau, nad oedd hyn yn mynd i ddigwydd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd—roedd yn ganlyniad rhyw ddyfodol pell ar ôl goroesi cyfnod o ddigalondid ac y byddai popeth yn iawn i'r rhai a oedd yn weddill. I ddweud y gwir, nid yw hynny'n dal dŵr. Mae'r Aelod yn gwybod nad yw hynny'n dal dŵr, ond mae'n gwneud ei ymgais arferol i'n hargyhoeddi ni o hynny y prynhawn yma.