Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch yn fawr, Mike. Credaf ei bod yn addas iawn eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwn y prynhawn yma pan ydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar yr agenda hon. O ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw, byddwn yn gweld bron i 3,000 o leoedd newydd yn ysgolion Cymru, a dyna sut y credaf ein bod yn mynd i ddechrau cyrraedd y targed a osodwyd gennym, sy'n darged uchelgeisiol. Mae 16 o awdurdodau lleol wedi cael arian drwy'r fenter hon, a chredaf fod y ffaith ein bod hefyd wedi cyfuno'r arian hwn ag arian o gyllideb fy nghyd-Aelod sy'n ymwneud â gofal plant—. Felly, mae arnoch angen cyfrwng—mae angen ichi weld y plant hyn yn dod drwy'r system, a gorau po gyntaf y gallwn eu cyflwyno i addysg Gymraeg, a dyna pam rydym wedi cyfuno'r arian hwn er mwyn bwrw ymlaen â'r agenda hon.
Y bore yma, bûm yn Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen, lle byddant yn awr yn agor ysgol gynradd Gymraeg newydd. Rwy'n falch o weld y bydd hynny'n digwydd. A bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Merthyr Tudful hefyd, ac rydym yn falch iawn o weld hynny, ond hefyd yn Nhrefynwy. Felly, mae pethau'n symud ymlaen mewn ardaloedd lle rydym yn wirioneddol awyddus i weld y camau hynny'n cael eu cymryd, felly rydym yn falch iawn gyda'r cyfeiriad teithio a'r ffaith bod awdurdodau lleol yn deall go iawn ein bod o ddifrif ynglŷn â bwrw ymlaen gyda'r agenda hon.