1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 19 Medi 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y twf arfaethedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ52574
Roeddwn yn falch fod £46 miliwn yn ychwanegol o arian cyfalaf wedi cael ei gyhoeddi y bore yma i gefnogi amrywiaeth o brosiectau i hwyluso'r gwaith o ehangu addysg cyfrwng Cymraeg. Roeddem yn fodlon iawn ag ansawdd y ceisiadau a dderbyniwyd gennym, sy'n golygu bod awdurdodau lleol wedi deall hyn bellach ac wedi deall mai dyma'r cyfeiriad teithio yr hoffem fynd iddo.
Diolch am eich ateb. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd y bore yma, yn amlwg. Ond os mai'r bwriad yw creu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, y llwybr mwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus yw cynyddu nifer y plant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Gwn o brofiad personol, fel eraill yn y Siambr hon, pa mor anodd yw dysgu Cymraeg fel oedolyn. Byddai hyn yn golygu bod oddeutu traean o blant Cymru yn cael addysg cyfrwng Cymraeg—rhwng 30 a 33 y cant, yn ôl fy nghyfrif i. Os oes gan y Gweinidog gyfrif gwahanol, hoffwn wybod beth ydyw, ond dyna rwy'n ei gyfrif. Sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni?
Ac a wnaiff y Gweinidog ymweld â dwy ysgol yn fy etholaeth rwy'n eu hadnabod yn dda—Ysgol Gymraeg Tan-y-Lan, lle mae fy wyresau'n mynd, ac Ysgol Gyfun Bryn Tawe, yr arferai fy merch ei mynychu yn fy etholaeth, dwy ysgol sydd wedi tyfu'n sylweddol ers eu hagor?
Diolch yn fawr, Mike. Credaf ei bod yn addas iawn eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwn y prynhawn yma pan ydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar yr agenda hon. O ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw, byddwn yn gweld bron i 3,000 o leoedd newydd yn ysgolion Cymru, a dyna sut y credaf ein bod yn mynd i ddechrau cyrraedd y targed a osodwyd gennym, sy'n darged uchelgeisiol. Mae 16 o awdurdodau lleol wedi cael arian drwy'r fenter hon, a chredaf fod y ffaith ein bod hefyd wedi cyfuno'r arian hwn ag arian o gyllideb fy nghyd-Aelod sy'n ymwneud â gofal plant—. Felly, mae arnoch angen cyfrwng—mae angen ichi weld y plant hyn yn dod drwy'r system, a gorau po gyntaf y gallwn eu cyflwyno i addysg Gymraeg, a dyna pam rydym wedi cyfuno'r arian hwn er mwyn bwrw ymlaen â'r agenda hon.
Y bore yma, bûm yn Ysgol Gyfun Gwynllyw yn Nhorfaen, lle byddant yn awr yn agor ysgol gynradd Gymraeg newydd. Rwy'n falch o weld y bydd hynny'n digwydd. A bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Merthyr Tudful hefyd, ac rydym yn falch iawn o weld hynny, ond hefyd yn Nhrefynwy. Felly, mae pethau'n symud ymlaen mewn ardaloedd lle rydym yn wirioneddol awyddus i weld y camau hynny'n cael eu cymryd, felly rydym yn falch iawn gyda'r cyfeiriad teithio a'r ffaith bod awdurdodau lleol yn deall go iawn ein bod o ddifrif ynglŷn â bwrw ymlaen gyda'r agenda hon.
Mae Llwybrau Dysgu 14-19—mae hwn i chi, Weinidog—maent yn rhoi'r hawl i bobl ifanc yng Nghymru, fel y gwyddoch, i astudio'r pynciau y maent eisiau eu hastudio, hyd yn oed os nad yw hynny'n digwydd yn eu hysgol eu hunain a gallant fynd i ysgol gyfagos. Fodd bynnag, mae'r arian a oedd yn arfer mynd i awdurdodau lleol gan Lywodraeth Cymru i alluogi hynny wedi'i gyfuno â grantiau cyllid eraill, ac mae hynny wedi gwneud dilyn yr arian yn anodd. Felly, rwy'n gobeithio na fydd y cyhoeddiad calonogol iawn heddiw, a fydd hefyd yn cael ei gyfuno gydag arian arall, yn anodd ei ddilyn, ac na fyddwn yn cyrraedd sefyllfa lle bydd yn mynd i gyllidebau cyfalaf cyffredinol awdurdodau lleol. Sut y gallwn fod yn sicr fod yr hawl a grëwyd yn y llwybr 14-19 yn cael ei pharchu yn y sector cyfrwng Cymraeg, lle gall fod pellter eithaf sylweddol rhwng ysgolion? Ac yn amlwg, ceir ystyriaethau ariannol hefyd. Sut y bydd cyhoeddi'r cyfalaf newydd hwn yn cynorthwyo gyda darpariaeth y llwybrau 14-19? Diolch.
Wel, er eglurder: mae'r arian hwn wedi'i glustnodi'n glir iawn. Mae wedi'i neilltuo. Mae'n arian penodol ar gyfer twf addysg cyfrwng Cymraeg, felly nid oes unrhyw bosibilrwydd y bydd yn mynd i mewn i unrhyw gronfeydd cyffredinol. Mae wedi'i dargedu yn glir iawn. Mae'r llwybr dysgu hwnnw—rydym wedi dweud yn glir ein bod yn awyddus i weld ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd os nad ydynt yn gallu darparu hynny eu hunain yn lleol, ac rydym yn cynorthwyo i ddatblygu'r cydgysylltiad hwnnw yn awr, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae gennym gynllun peilot newydd y byddwn yn ei ddechrau—[Anghlywadwy.]—lle rydym yn dechrau gwneud mwy o ddysgu o bell. Credaf fod hwnnw, yn arbennig, yn ddatblygiad diddorol iawn y byddwn yn ei dreialu yn ardal Ceredigion a Phowys.