Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch am eich ateb. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd y bore yma, yn amlwg. Ond os mai'r bwriad yw creu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, y llwybr mwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus yw cynyddu nifer y plant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Gwn o brofiad personol, fel eraill yn y Siambr hon, pa mor anodd yw dysgu Cymraeg fel oedolyn. Byddai hyn yn golygu bod oddeutu traean o blant Cymru yn cael addysg cyfrwng Cymraeg—rhwng 30 a 33 y cant, yn ôl fy nghyfrif i. Os oes gan y Gweinidog gyfrif gwahanol, hoffwn wybod beth ydyw, ond dyna rwy'n ei gyfrif. Sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni?
Ac a wnaiff y Gweinidog ymweld â dwy ysgol yn fy etholaeth rwy'n eu hadnabod yn dda—Ysgol Gymraeg Tan-y-Lan, lle mae fy wyresau'n mynd, ac Ysgol Gyfun Bryn Tawe, yr arferai fy merch ei mynychu yn fy etholaeth, dwy ysgol sydd wedi tyfu'n sylweddol ers eu hagor?