Cyfleusterau Chwarae

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:10, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn cytuno ei bod yn hanfodol ein bod yn caniatáu i blant o bob gallu fwynhau cyfleusterau chwarae, a gwyddom hefyd fod plant anabl yn cael llai o gyfleoedd, yn sicr i gymryd rhan mewn addysg gorfforol a gweithgareddau chwaraeon. Felly, pa gynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer offer chwarae mewn ysgolion, neu'n wir unrhyw offer chwarae, er mwyn sicrhau bod modd i blant ag anableddau ei ddefnyddio?