Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 19 Medi 2018.
Os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf ynglŷn â manylion y cyfleuster ysgol penodol hwnnw, fe wnaf ymholiadau. Mater ar gyfer y corff llywodraethu yw gwneud penderfyniadau ynglŷn â mynediad at y cyfleusterau hynny y tu hwnt i'r diwrnod ysgol, a chynnal y cyfleusterau hynny, ac yn hytrach na—. Mae'r Aelod yn paentio darlun lle mae'r cyfleusterau hyn yn cael eu colli. Hoffwn ei hatgoffa: yn ei hetholaeth hi, agorais ysgol newydd, Ysgol Awel y Mynydd, a oedd yn cynnwys tir ysgol wedi'i dirlunio, gydag ardal chwaraeon a gofod i ddisgyblion archwilio ac i ddysgu yn eu cynefin naturiol. Agorais brosiectau adnewyddu Ysgol Sŵn y Don a Ysgol Nant y Groes, ac mae hynny wedi golygu bod disgyblion o'r ddwy ysgol wedi elwa o ardaloedd gemau aml-ddefnydd trydedd genhedlaeth ac ardaloedd wedi'u gwella. Felly, yn ei hetholaeth ei hun, gall weld effaith buddsoddiad Llywodraeth Cymru ar lawr gwlad yn darparu'r cyfleusterau pwysig hynny, ond fe wnaf ymholiadau am yr achos penodol hwnnw os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf.