Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 19 Medi 2018.
A gaf fi holi Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen? Pa gynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau, pan fydd pobl yn yr ysgol, a chwnselwyr yn aml, yn atgyfeirio plant penodol at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, fod yr atgyfeiriadau hynny'n cael eu cymryd yn ôl yn briodol, ac nad ydynt, fel y dengys peth o'r dystiolaeth a gawsom fel Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn cael eu hatgyfeirio'n ôl fel pe na bai'r cwnselydd yn unigolyn addas i wneud yr atgyfeiriad hwnnw?