Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 19 Medi 2018.
Mark, dim ond yn ddiweddar y cyhoeddwyd bod y grŵp wedi'i sefydlu. Fel y dywedais, cychwynnwyd gwaith y grŵp gan y gweithdy amlasiantaethol ac amlbroffesiwn, oherwydd cyn y gallwn lunio gwasanaeth sy'n cynrychioli ymagwedd ysgol gyfan, mae angen inni gytuno ar sut y dylai ymagwedd ysgol gyfan edrych, er mwyn sicrhau bod pob un ohonom yn gweithio tuag at yr un agenda. Rydym yn gweithio ar draws portffolios, ac mae swyddogion a fu'n gweithio ar y cynllun 'Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc' yn edrych yn barhaus ar rwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau CAMHS mwy dwys ar lefel uwch i blant, oherwydd os oes cwnselydd wedi gweld y plentyn, ac os oes ganddynt berthynas gyda'r plentyn, a'u bod yn teimlo bod therapi a chymorth mwy dwys ar gael, mae hynny bron â bod fel system frysbennu a ddylai sicrhau atgyfeirio ac ymateb cyflym gan CAMHS. Byddwn yn parhau i gael gwared ar y rhwystrau, os yw cwnselwyr ysgolion yn eu hwynebu, fel y gall y broses fod mor gyflym ag sydd angen iddi fod ar gyfer y plentyn unigol.