Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch am eich cwestiwn. Rwyf o ddifrif yn dymuno'n dda ichi yn eich rôl newydd yn y Siambr. Rwy'n disgwyl eich gweld ar sawl achlysur yn ystod y cwestiynau hyn, heb os.
Pan edrychwch ar niferoedd ein gwelyau, y llynedd roedd gennym dros 400 o welyau ychwanegol drwy'r system gyfan ar gyfer ymateb i bwysau'r gaeaf. Felly, mae hynny'n cyfateb i ysbyty cyffredinol dosbarth o faint rhesymol o ran capasiti ychwanegol yn ein system.
Rydym yn wynebu pwysau hyd yn oed yn fwy difrifol yn y gaeaf, fel y dywedwn yn rheolaidd, ac rwy'n siŵr y cawn gyfleoedd i wneud hynny dros y misoedd nesaf. Nid oes a wnelo hynny'n unig â'r rhan o hyn sy'n ymwneud â gwelyau yn yr ysbyty; mae'n ymwneud â sicrhau bod pobl yn mynd i ofal cymdeithasol a gefnogir er mwyn eu cael allan o'r ysbytai. Y llif yw ein problem fwyaf.
Felly, yn yr ystyr honno, nid oes a wnelo hynny â chapasiti yn unig; mae'n ymwneud â sut y rheolwn y galw a'r llif drwy ein system gyfan. Mae hwnnw'n waith sy'n mynd rhagddo wrth gynllunio ar gyfer y gaeaf hwn, gyda'r Llywodraeth yn cydweithio â'r byrddau iechyd, yr ymddiriedolaethau a phartneriaid i geisio sicrhau bod gennym yr ymateb gorau posibl i'r gofynion anarferol y gwyddom eu bod yn wynebu ein system yn y gaeaf.
Fodd bynnag, mae gennym gyfran uwch o welyau ar gyfer y boblogaeth yng Nghymru o gymharu â Lloegr. Rydym yn parhau i edrych eto ar niferoedd a defnydd gwelyau, ac yn hollbwysig, ar sut y defnyddir y niferoedd i sicrhau bod y system gyfan yn gweithio, ac yn arbennig, y cysylltiad rhwng iechyd a'r system gofal cymdeithasol.