Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 19 Medi 2018.
Yn dilyn ymgyrch a chynnwys dilynol ar y cyfryngau cymdeithasol, cefais nifer o negeseuon e-bost trallodus gan fenywod sydd wedi dioddef o ganlyniad i ddarpariaeth annigonol o gymorth a gwelyau ysbyty addas ar gyfer menywod sy'n dioddef camesgoriad. Dywedodd un fenyw stori dorcalonnus wrthyf am gael ei derbyn i'r ysbyty pan dybiwyd ei bod wedi cael camesgoriad, ac fe'i rhoddwyd mewn ward wrth ymyl yr uned esgor. Yn ystod y nos, mewn poen eithafol, bu'n rhaid iddi weld un o bâr o efeilliaid a gamesgorwyd ar lawr y toiled. Disgrifiodd hyn fel 'y digwyddiad mwyaf erchyll a thorcalonnus yn fy mywyd', fel rwy'n siŵr y gall pob un ohonom ddychmygu.
Ddoe, cyhoeddodd y grŵp ymgyrchu, Triniaeth Deg ar gyfer Menywod Cymru, eu hadroddiad gydag argymhellion ar gyfer gwella gofal camesgor. Maent yn cynnwys sicrhau bod unedau beichiogrwydd cynnar yn darparu gwasanaethau cymorth yn unol â chanllawiau'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, gwell cymorth emosiynol a sefydlu clinigau colli beichiogrwydd sy'n digwydd dro ar ôl tro. A wnewch chi ymrwymo, Ysgrifennydd y Cabinet, i weithio gyda'r ymgyrchwyr ar y mater pwysig hwn ac i roi argymhellion yr adroddiad hwnnw ar waith?