Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 19 Medi 2018.
Rwy'n cydnabod y darlun torcalonnus a ddisgrifiwyd gennych, sy'n amlygu profiad go iawn pobl yn ein system. Rydym yn siarad yn rheolaidd ynglŷn â phan fydd gofal iechyd yn mynd yn iawn—fel y dylem ei wneud i ddathlu hynny, fel rydym wedi'i wneud eleni—ond rydym yn cydnabod, pan fydd gofal iechyd yn mynd o'i le, y gall gael effaith sylweddol a pharhaus ar iechyd a lles cyffredinol pobl.
Rwy'n fwy na pharod i sicrhau bod fy swyddogion, gan gynnwys, os yw'n briodol, adran y brif nyrs, rwy'n credu, yn edrych ar yr adroddiad i weld pa gynnydd adeiladol y gallwn ei wneud i gael trafodaeth gyda'r ymgyrchwyr ynglŷn â'r sefyllfa ar hyn o bryd yn y GIG, ac yn benodol, ynglŷn â sut y mae sicrhau gwelliannau pellach.