Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 19 Medi 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad seneddol ym mis Gorffennaf, nodaf eich bod wedi dweud mai'r byrddau partneriaeth rhanbarthol sy'n gyfrifol am gyfarwyddo newid a'ch bod yn bwriadu cyhoeddi canllawiau. A allech chi roi gwybod inni pryd y bydd y canllawiau hyn ar y newid gweddnewidiol yn barod, ac o ystyried bod cynnydd y byrddau rhanbarthol wedi bod yn anghyson iawn hyd yn hyn, sut y gallwch fod yn hyderus y bydd y cynnydd a'r newid yn deg ar draws y byrddau iechyd?