Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 19 Medi 2018.
Croeso nôl i Angela Burns ar ôl yr ad-drefnu. Edrychaf ymlaen at lawer o brocio parhaus o natur a naws amrywiol.
Cyhoeddwyd y canllawiau rydych yn cyfeirio atynt eisoes. Rydym eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ynghylch y defnydd o'r meini prawf ar gyfer y gronfa drawsnewid. Ac yn fwy na hynny, mewn perthynas ag ail ran eich cwestiwn—yr hyder y byddwn yn gweld cynnydd go iawn—rwyf wedi rhoi amser, ynghyd â'r Gweinidog, i wneud yn siŵr ein bod wedi cyfarfod â phob un o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, rydym wedi cyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol ac iechyd gyda'n gilydd, er mwyn bod yn glir ynglŷn â'r hyn roeddem yn ei ddisgwyl wrth ddatblygu 'Cymru Iachach', ac yna er mwyn bod yn glir ein bod yn disgwyl iddo gael ei ddarparu yn awr. Ac wrth gyfarfod â'r bobl hynny, yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol iawn yw bod ganddynt oll syniadau ynglŷn â defnyddio adnoddau ar y cyd, lle mae iechyd a llywodraeth leol yn bartneriaid go iawn yn hytrach na bod un yn gwneud y penderfyniadau a'r llall yn ymgynghorai yn unig—ond yn fwy na hynny, amrediad y prosiectau a'r cynigion sydd gennym yn barod. Rwy'n gobeithio, o fewn yr wythnosau, nid misoedd, nesaf y byddaf yn gallu cyhoeddi'r meysydd cyntaf a fydd yn derbyn cymorth ychwanegol o'r gronfa drawsnewid. Ac rwy'n credu y bydd yn gwireddu rhai o'r trafodaethau rydym yn eu cael ar hyn o bryd. Rwyf hefyd yn hyderus y bydd y rhannau o Gymru nad ydynt yn y grŵp cyntaf i gael eu prosiectau trawsnewid wedi'u cymeradwyo yn gweld hynny fel hwb defnyddiol i sicrhau nad ydynt yn cael eu gadael yn y lôn araf. Rwy'n falch o ddweud bod gwir uchelgais i wneud yn siŵr fod pob rhan o Gymru'n cymryd rhan o ddifrif yn y broses o drawsnewid gwasanaethau.