Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 19 Medi 2018.
Ydych, rydych yn iawn i dynnu sylw at rôl gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac yn aml yn ein dadleuon am iechyd yn y lle hwn, rydym yn sôn am feddygon, ac efallai nyrsys, ac rydym yn anwybyddu llawer o'r gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n bwysig er mwyn sicrhau bod y system gyfan yn gweithio. Ac yn y maes hwn, adsefydlu cynnar, y mynediad cynharach at amrywiaeth o therapyddion gwahanol sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i sicrhau bod pobl yn dychwelyd i'w cartrefi eu hunain ac yn gwella cyn gynted â phosibl. Ac mewn gwirionedd, mae gan Aneurin Bevan record dda yn y maes hwn o ran y gwelliant y maent wedi'i wneud.
Awgryma adroddiad diweddaraf yr archwilwyr fod ganddynt ddwywaith cyfartaledd archwilio'r bobl hynny pan fyddant wedi cwblhau eu hapwyntiad dilynol ar ôl chwe mis. Felly, nid yn unig sicrhau bod pobl yn mynd allan ac yn symud o gwmpas yn fuan ac yn ôl i'w cartrefi eu hunain, ond y cynllun dilynol wedi iddynt ddychwelyd i'w cartrefi eu hunain hefyd. Ac mae gennym gyfradd gydymffurfio o oddeutu 70 y cant gyda'r amserlen i gytuno ar eu nodau adsefydlu o fewn pum niwrnod, ac mae hynny'n llawer gwell nag amryw o unedau eraill ledled y DU. Felly, mae hwn yn fwrdd iechyd sy'n edrych tua'r dyfodol, sy'n edrych ar wneud gwelliannau pellach ac sy'n sicr, fel y dywedoch, yn meddwl am y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd eraill hynny a'u rôl hanfodol yn sicrhau prosesau adfer ac adsefydlu effeithiol.