Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 19 Medi 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, drwy gydol toriad yr haf, rwyf wedi bod yn edrych yn fanwl ar wasanaethau gofal iechyd lleol yn fy etholaeth, ac a gaf fi ddweud fy mod yn gwerthfawrogi'r ffaith eich bod wedi rhoi eich amser i ddod i Ferthyr Tudful i ymuno â mi yn un o'r sesiynau trafod hynny? Yn hyn o beth ac yn y gwaith arall a wnaf, rwy'n parhau i edmygu gwaith y proffesiynau perthynol i feddygaeth a'u rôl allweddol ym maes gofal iechyd ataliol ac adsefydlu. Felly, a fyddech yn cytuno, wrth inni sôn am lunio dyfodol ein gwasanaethau iechyd, nad oes a wnelo hyn ag arloesi yn unig, neu hyd yn oed â rhagor o arian o reidrwydd, ond ei fod yn ymwneud â chryfhau arferion gorau, megis rhyddhau cleifion yn gynnar ac adsefydlu ar ôl strôc, a gefnogir gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fel ffordd effeithiol a chosteffeithiol o wella'r gwasanaethau hynny?