Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:46, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Ysgrifennydd y Cabinet. Roeddwn eisiau gofyn cwestiynau i chi heddiw am bresgripsiynu cymdeithasol. Fel y gwyddoch, mae presgripsiynu cymdeithasol—cyfeirir ato weithiau fel atgyfeirio cymunedol—yn fodd o alluogi meddygon teulu, nyrsys a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i atgyfeirio pobl at amrywiaeth o wasanaethau lleol ac anghlinigol. Felly, mae'n hyrwyddo ymagwedd fwy cyfannol at faterion iechyd ac fel y cyfryw, credaf ei fod yn ddatblygiad i'w groesawu.

Nawr, cydnabyddir yn eang fod gan Gymru broblem fawr gyda gordewdra, gyda 59 y cant o oedolion yng Nghymru yn ordew ac yn fwy pryderus byth, mae'r ffigurau ar gyfer plant hefyd yn dangos bod bron i chwarter o blant Cymru yn ordew. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog y defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol i fynd i'r afael â phroblem ordewdra?