Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 19 Medi 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:47, 19 Medi 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Llywodraeth hon eisoes wedi mabwysiadu dull o hyrwyddo presgripsiynu cymdeithasol a datblygu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ei effaith ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Rwyf wedi gwneud cyfres o gyhoeddiadau am amrywiaeth o brosiectau rydym yn eu cefnogi gydag adnoddau ychwanegol. Efallai eich bod wedi'u methu; rwy'n hapus i'ch cyfeirio atynt eto. Yn ogystal â hynny, efallai y byddwch eisiau edrych ar enghreifftiau rhagorol o bresgripsiynu cymdeithasol ar raddfa fawr, mae rhai ohonynt yn digwydd yng ngogledd Cymru ar sail y bwrdd iechyd ehangach, ac wrth gwrs, mae pencadlys menter ragorol Camau'r Cymoedd wedi'i leoli yng Nghwm Cynon. Felly, rydym yn cydnabod yr achos dros fwy o bresgripsiynu cymdeithasol. Byddwn yn edrych ar fwy o dystiolaeth mewn perthynas â'r hyn y gallwn ei wneud ag ef. Nid yw'n ymwneud yn unig â chynnal pwysau iachach, mae'n ymwneud ag amrywiaeth o fanteision posibl rydym yn awyddus i'w deall a manteisio arnynt yn briodol.